Skip to main content

YR AM IONAWR, 1826. BÜCHEDDAU. —» »» COFIANT AM YDIWEDDAR BARCH. SAMÜEL TAYLOR. Nid ydyw ôucheddau duwiol, yn yr oes hon, yn cael eu nodi gyda'r darluniadau cryíìon hyny ag oeddynt mor amlwg yn amserau erledigaeth, neu pan oedd gweinidogion a phobl Dduw mewn amgylchiadau anarferol o beryglus, ac yn cael eu galw i roddi prawf o'u cywirdeb drwy gadarnwch anweladwy, dewrder, a dianwadal- wch. Bywyd wedi ei hynodi drwy amryw brofedigaethau, a raid (o angenrheidrwydd) gynnysgaeddu yr hanesydd â llawer o ddef- nyddiau tuag at wneuthur sylwadau buddiol, a'r, darllenydd âg amrai o ddygwyddiadau pwysfawr, i gadw ei dápFalwch yn effro. Ond, am luoedd o wir Gristionogion, ni's gellir cael dim a fyddai o nemawr o fuddioldeb i'w goffau yn gyhoeddus; nac unrhyw sylw arall i'w wneuthur o honynt, ond eu bod wedi byw a marw, oddi- eithr yn mhlith eu perthynasau galarus, a'u cyfeillion agosaf. Pan na byddo dim wedi bod allan o'r ffordd gyffredin, un ai yn eu dychweliad at Dduw, eu rhodiad yn mhlith dynion, neu eu dullyn ymadael â'r bywyd, yr hyn a ellir ei ddweyd yw, eu bod wedi byw yn ddilyn-wiw, a bod rheswm da i gredu eu bod wedi marw mewn heddwch â Duw a dyn. Ond pan y mae bugail yn cael ei gymeryd ymaith oddiwrth ei braidd, neu weinidog yn cael ei symud i'w dragwyddol wobr, clod pa un sydd yn yr holl Eglwysi, y mae yn dygwydd yn fynych fod teimladau y duwiol a'r defosiynol yn cael eu deffroi mewn modd neillduol; a'u meddyliau a ellid ei alw, gyda buddioldeb, i goffâd am gyíiawniadau o ewyllys da am hirfaith amser, neu am amrywiol esiamplau o amynedd diflia tra yn ymdrechu i ennill eneidiau at Grist, yr hyn a gymerodd le yn mywyd yr ymadawedig. Pregethwr yr Efengyl, yr hwn y byddo ei dduwioldeb personol yn cyfateb i'r gwirionedd a ddysgodd, yr hwn a "safodd fel nod-ffordd i'r Nefoedd," a'r hwn a fu yn nodedig o ffyddlon (mewn brwdfrydedd danllyd) i ymledaenu y grefydd ysgrythyrol, trwy weinyddiad dinawseiddiad er mwyn a 3