Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR AM MEDI, 1825. BUCHEDDAU. —++—— COFIANT AM MEISTRESAN CHARLOTTE SINGLETON: O Nottingham: GAN Y PARCH. JOHN HANNAH. Meistresan Charlotte Singleton a anwyd yn Notting- ham, Mawrth y 7ed, 1778. Pan ydoedd oddeutu 14eg mìwydd oed, yraaflwyd ynddi gan y glunwst (sciatica), yr hyn a'i hanallu- ogodd i gerdded am dair blynedd; achosodd y cystudd hwn gloffni mawr yn ei haelodau dros ei bywyd, ac, hefyd, o herwydd y diffyg o ymarferiad symmudawl, ymlygriad edwinawl i'w chynneddfau. Ryw bryd cyn hyn, arferai fyned i wrando gweinidegaeth y Wes- leaid, er fod ei thad yn wrthwynebol iddi. 0 dan yr afiechyd poenedig hwn, modd bynag, y daeth i feddu syberwyd difrifol, ac y dechreuodd osod sylfaen ei dedwyddwch ysbrydol a thragwyddol yn gynnrych i'w bywyd. Ymddengys iddi fod rai misoedd, osnad blynyddoedd, cyn mwynhau tystiolaeth arhosol a boddhaol o'i chymmodiad â Duw; ond yr oedd ei phrofiad ar y pen hwn, wedi hyny, yn oleu-eglur, yn gyson, ac yn ysgrythyrol.—O'r amser y teimlodd gyntaf effeithiau daionus maddeuant pechodau, trwy y brynedigaeth sydd yn Nghrist Iesu, ac y dygwyd ei henaid i agorfa y rhyddid efengylaidd, ei chynnydd mewn gras a fu yn rhyfeddol, a'i chyrhaeddiadau crefyddol nid oeddynt o rywiau cyffredin. Hyfforddiwyd hi yn dra llymdost yn ysgoldŷ eystudd; ac ar ol cael ychydig wersi, daeth i brofi y gwirionedd hwn,—fod " gorthrymder," pan y sancteiddier y wialen ddreiniog geryddol gan Ddüw, ac y tỳner ei phigau gan ffydd, mewn mesur mawr, ifyn peri dyoddefgarwch; a dyoddefgarwch, hrofiad; a phrofíad, obaith." Adferwyd ei hiechyd a'i chryfder cyssefin yn raddol; a phftn ydoedd oddeutu 30ain mlwydd oed, dechreuodd wasanaethu Duw yn fwy cyhoeddus yn yr Eglwys.—Am lawer o flynyddoedd, 2s