Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR BüRGRAWN WESLEYAIDD. Rhif. 10.] HYDREF, 1823. [Cyf. xv, BUCIIEDDAU. CYNLLUN BYR 0 FYWYD A MARWOLAETIÍ THOMAS WEBB, YSWAIN Thomas Webb, Yswdin, oedd y prif offeryn a arweiniodd Drefnyddiaeth i gyfandir America. Nid oedd efe yn bre- gethwr teithiol; swyddwr milwraidd oedd, ac yn adnabydd- us wrth yr enw Cadben Webb. Yn maes rhyfel, hafgwaith 1768, pan y collodd Cad-flaenor Wolfe ei fywyd yn nghoncweriad Quebec,clwyfwyd Cadbea Webb yn ei fraich, a chollodd ei lygad de. O herwydd y clwyfau hyn, a'r gwasanaeth a roddodd, ymneillduodd ar lawn daliad cadben. Nid oedd gan grefydd le yn ei galou y pryd hwn ; ond yn y flwyddyn 1764, fe'i goleuwyd i weled mai pechadur oedd ; ie, fe welodd ei hun yn gymaint pech- adur, nes iddo anobeithio cael trugaredd. Yn 1765, cododd yr Arglwydd ef o'r pydew erchyll ac o'r pridd tomlyd,a gosododdei draed ef ar y graig, a hwyliodd ei gerddediad ; gosododd ganiad newydd yn ei enau o foliant i'n Duw ui. Yn ystod yr amser hwn, yr Arglwydd oedd ei unig Arweinydd. Yn fuan wedi hyn daeth yn adnabyddus â Mr. Roquet, gweinidog efengylaidd perthynol i Eglwys Loegr; a thrwyddo ef ac ymdrechiadau y Trefnyddion Wes- leyaidd, penderfynodd, " Y bobl hyn fydd fy mhobl i, a'u Duw hwy fy Nuw inau." Y tro cyntaf yr ymddanghosodd fel areithydd, oedd yn Nghaerbaddon, (Bath.) Pan oeddent yn dyfalddisgwyl an> bregethwr, gofynwyd iddo ef a wnai efe ddywedyd ycbydig wrth y gynnulleidfa—llefarodd yn fwyaf neiilduol eí brofiad ei hun -} y bobl a adfywiwyd ac a foddlonwyd. 2X