Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR EURGRAWN WESLEYAIDD. Rhif. 9.] MEDI, 1823. [Cyf. xv. BUCHEDDAU. BYR HANES AM WILLIAM JONES, 0 RH YD-GOLY, Yn agos t"V Waeddgrug, Swydd Ffiint. [Parhad o tu dal. 284.] Y SABBOTH, wythoos cyn ei farw, dioddefodd gryn lawer gan gnofeydd, nes y meddyliodd fod ei ymadawiad wedi dyfod yn y munudau hyn: ond gwelodd yr Hollalluog yn dda symud y cnofeydd ymaith mor ddisymwth hyd nes teim- lodd y brawd y fath adnewyddiad oddimewn ag y dywedir iddo ganu clod i'r Arglwydd mor beraidd ag erioed am y fath drugaredd annrhaethol a ddanghosodd tu ag ato. Ad- roddodd wrth amryw o'r cyfeillion, y Sabboth hwn, fod cref- ydd mor werthfawr i'w enaid, fel y mae yn rhoddi iddo achos i gaou. Yn y nos, ar hyd yr wythnos hon, cafodd rai gwasgfeuon lled drymion : wedi iddo ddadebru un tio, a gweled ei dad, ei fam, ei frodyr, a'i chwiorydd, o amgylch y gwely, efe a ddywedodd, ' Y mae yn anhawdd ymadael â thad, a mam, a brodyr, a chwiorydd, a phlant, a phriod ; ond er y cwbl, y mae Crist yn werthfawr i'm henaid.' Dydd Gwener cyn ei farwolaeth, galwodd am ei blant i fynu ato i'r ystafell; 8c wedMddo edrych arnynt, efe a'u cyflwynodd i'r Arglwydd, gan erfyn arno eu bendithio; a gorchymynodd iddynt fod yn blant da; a dywedodd ei fod ef ar fyr i'w gadael yn amddifaid, ond fod ganddynt Dad gwell yn addaw bod felly iddynt hwy os byddent yn blant da. Wedi hyn efe a ddywedodd wrtb ei briod, ■ Yr wyf yn dy- wedyd wrth y plant bychain bethau na wyddant fawr am danynt; ond/ebefe, 'yr wyf yn erfyn arnatarfer pobmodd- ion ac ymdrech i'w gosod ar ben y ffordd.' Nos Sadwrn, pan oedd un o'i gyfeillion yn gofyn iddo a 2R