Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

EÜRGRAW N WESLEYAIDD. Rhif. 7.] GORPHENHAF, 1823. [Cyf. xv. BUCHEDDAU. HANES BYWYD MR. THOMAS SYMONS. (Parliado tudal.206.) Dydd Iau, Chwef. 6. Ar oi noswaitb hynod o'r blinedig, gofyuodd am ychydig de gwan; acar ol ei dderbyn, erfyn- iodd fendith Duw arno mewn modd taer hynod; ac ar ol ei yfed, diolchodd yn gyffrous i Ffynon pob daioni. Yn fuan wedi, ar ddyfodiad cyfaill i mewo, dywedodd, ' Yr wyf yn analluogi ddywedyd fawr yu awr, ond mi gaf yn fuan ym- ddiddan gydag angylion; tyred Argiwydd Iesu; anfon dy angylion i'm cludo i fynwes Abraham.' Yn ystod yr wyth- nos ganlynol, ni chafodd fawr lonyddweh gau boen; ac yr oedd wedi gwisgo allan ei gnawd gymaint, nes nad oedd dini braidd ond y croen a'r esgyrn. Yn wir, yr oedd yn dra rhyfedd gweled bywyd, a meddwl disigl, mewn corph mor wywedig. Yr oedd edau bywyd wedi ei nyddu allan i'r meindra mwyaf perffaith. Y prydnhawn cyn ei farwolaeth, ymwelais âg ef am y tro olaf, a chefais ef ar gyffiniau tragy- wyddoldeb. Nis gallasai efe weled dim, ond yr oedd ỳo gyflawn yn ei synwyr. Cynghorais ef i ddal ei hyder yn Nuw, gan edrych ar Iesu ; ar byn gafaelodd yn fy llaw gyda grym, nad allaswn gredu y gallasai ei fysedd gwywedig gyf- lawni, a dywedodd, * Ymdrechafei ddal ef, fel ag yr wyf yo awr yneich dalchwi,' Ni ddywedodd nemawr yn ychwaneg, am fod ei gorph gwywedig yn suddo'n gyflym o dan faich o wendidau; ond daliodd i anadlu fyrach fyrach, hyd nes y diangodd eiysbryd gwyofydedigi drigfanau llawenydd tra- gywyddol, ar foren y 13 o Chwef. l8Ô6,yn y ddeuddegfei flwyddyn a phedwar ogain o'i oed. 2 H ......•■•.