Skip to main content

llt EÜRGR Ä/W N WESLEYAIDD. Rhif. 4.] EBRILL, 1823. [Cyf. xv. BUCHEDDAÜ. HANES BYWYD MRS.MARTHA ROWE. Martiía Rowe oedd ferch i Mr. John Thomas, CasíeU Newydd, Swydd Fynwy, a gwraig i Mr. Thomas Rowe. Hi a argyhoeddwyd o'i phechod pan yn ieuangc : nid ym- gynghorodd â chig a gwaed, ond ufuddhaodd o'i chalon i'r gwirionedd, a pharhaodd yn ffyddlon hyd ddydd ei marw- olaeth, yr hyn a fu Medi 16, 1818, pan oedd bedair blwydd ar ddeg ar hugain oed. Yr hyn a fu yn achos angeuol i roddi terfyn ar ei gwerth- fawr fywyd oedd dychryn, wrth weled cerbyd gwr boneddig yn taro plentyn i lawr wrth fyned yn chwyrn-wyllt ar hyd yr heol; er na chafodd y plentyn ei ladd, nac ychwaith fawr o niwaid ; yr oedd pob tebygolrwydd ei fod wedi ei lethu i farwolaeth. Ynghylch pymthegnos cyn ei mynediad gor- foleddus i'r gogoniant, y torodd llestr y gwaed yn ei hysgyfaint, a pharhaodd i waedu am bedwar diwrnod j y diwrnod diweddaf yr ymddaugosodd arwyddion 'mor ddychrynllyd nes oedd y meddyg yn dysgwyl ei hymddat- todiad yn ddioed. Ei gwr gaiarus a'i cyfododd yn ei freichiau, a gofynodd iddi, Pa fodd yr oedd yn teimlo? er o braidd yn analluog i barablu, hi a attebodd, gan edrych i fynu tu a'r nef, ac amneidio aröo, torodd allan i waeddi, gyd â gwèn gariadus, " Yr Arglwydd fy nghyfiawnder." " A mortal paleness on her cheek, But glory iu her eye." Yr un diwrnod dywedodd yn orfoleddus, " Yr wyf yn ddedwydd yn Nuw fy nhad nefol." Yr oedd y dyn oddi- mewn yn ymadnewyddü o ddydd i ddydd. O'r amger hyny hyd ei hymadawiad o fyd o ofid ei meddwl a gadwyd yn