Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR EURGRAWN WESLEYAIDD. Rhif. 3.] MAWRTH, 1823. Cyf. xv. BUCHEDDAU. HANES BYWYD Y PARCH. WILLIAM WILLIAMS. (Parhad o tu dal. 47.) Wrth fy ngweled yn wylo, dywedodd, "Margaret, peid- iwch agwylo; hyd yn oed hyn a Weithia er eich daioni." Pan y dywedais fy mod yn tejmlo yn galed i gredu y gwnai hyn, atebodd, " Yr Arglwydd a'ch cynnorthwya i gredu, canys yr wyf yn sicr y gwna, yn unig byddwch byw yn agos at Dduw." Ynddo ef, rni a gollais frawd caruaidd; un, yn fy holl brofedigaeth oedd yn barod i gyd-ymdeimlo â mi. Fy ngholl- ed sydd fawr; ond gallaf fi fyned ato fe, nis gall ef ddyfod ataf fi : yr wyf yn sicr fod fy ngholled yn elw bythol iddo ef. A ganlyn, am ei eiriau ojaf, a dderbyniwyd gan ei wraig alarus.—"Sefyllfa meddwl fy anwyl briod, yn y diwedd, a welir oreu trwy roddi ger eich bron ycbydig ó'i eiriau diwedd- af: dywedodd, "üuw a fu dda wrtbyf trwy fy nghystudd; Iesu Grist yw sylfaen fy ngobaith; Craig gadarn yw efe: gallwn gael fy nhwyllo yn fy nbeimladau, ond nis gallaf yo. sylfaen fyngobaith ; " íesu fy oll yn oll wyt ti," &c. &c. 21. Canodd amryw emynau, ac yr oedd ei iaith yn hynod o orl'oleddus yn Nuw. 22. Rhoadodd allan, fel yr oedd yn gorwedd ar ei wely, yr emyn caulynol, " Beth wyf i ogoneddus Dduw,'14*c. Gan erfyn ar y cyfeillion ei ganu. Wedi hyny, canodd " Chwychwi sy'u caru'r Arglwydd, de'wcb," fyc.