Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

yr ';* EURGRAWN WESLEYAIDD. Rhif. 2.] CHWEFROR, 1823. Cyf. xv. BUCHEDDAU. HANES BYWYD Y PARCH. WILLIAM WILLIAMS. (Parhad o tu dal. 11.) WEDI i Mr. Williams, dros ysbaid o amser, lenwi swydd Pregethwr Cynnorthwyol ,a rhoddi prawfdigonol o'i dduw- ioldeb, doniau, a defnyddioldeb ; dechreuoddyn Bregethwr Teithiolyn y flwyddyn 1796. Ac er fod, ar yr amser hwo, olygiadau disglaer am lwyddiant bydol yn denù ei arhosiad,ac wedi hyny yn aml alw arno i ddychwelyd; efe a aeth yn mlaen ar hyd ei yrfa yn Ilafurus. Ar yr achos pwysig ysgrifena fel y canlyn, "Dydd Iau, 22 o Ragfyr, gadewais Gaerodor, a chyrhaeddais yn ddiogel yn Stroud, lle y'm derbyniwyd yn groesawus gan y brawd a'r chwaer Jenkins. Mae yma gartref caruaidd i ddyn ieuaogc; ac y inae'r Gymdeithas o duedd i'n gwasanaethu. "Gwener 23,ymroddais fy hun i Dduw, yn ngwaith y weinid- ogaeth. Profedigaethau, o wahanol natur, ydwyf yn ddisgwyl i'm cyfarfod. Yr Arglwydd a'm cynnorthwyo i'w dwyn gyda gwroldebCristionogol .Yr wyfyn meddwl fy mod wedi bwrw y draul o benderfynu yn hollol i fyw a marw yn Bregethwr Wesleyaidd." Ar ol hyn efe a deithiodd yn Birmingham, Llundain, Le'rpwl, Stroud, Dursley, Sheffield, Chesterffield, Margate, a Brentfford. Os bu ei lafur a'i Iwyddiantyn debyg mewn Cylch-deithiau eraìll, ag y bu yn Dursley, a Chester- ffield, mawr fydd mintai y rhai a fydd ei orfoledd a choron ei lawenydd yn nydd yrArglwydd; yn mhlith y rhai " a drodd lawer i gy6awuder,efe a ddisgleiria, fel seren yn dragywydd." Y tro cyntaf i'm weled Mr. Williamsoedd yn Dursley, ya uniawn ar ol y Gymanfa yn Manchester, 1803. Ni fuom yo hir gyda'n gilydd cyn iddo ddymuno arnaf gilio o'r neilldu gydag ef: y pryd y dywedodd wrthyf gyflwr y Gylch-daitU,