Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. Rhif. 542.] TACHWEDD, 1860. [Cît. XLIII. COEIANT Y PAECH. SIMON I>^KRY J O IN" E S, Gweinidog Penylryn a Chilgeran, Sir Benfro. GAN EI FEA.WD, Y PARCH. L. JONES, BRYNHYFRYD. Ddarllenydd Aîtwyl,—Gwaitli anhawdd ìawn yw ysgrifenu cofiant perthynas agos, brawd hoff, un a anwylwn yn fawr er yn blentyn, un y treuliais amryw o flyn- yddoedd boreu fy oes yn ei gynideithas ddiniwed, ac un wedi hyny, mewn cyfnod diweddarach, y cefais yr hyfrydwch o dreulio blwyddyn a hanner yn yr un athrofa ag ef,-—yn llettya yn yr un ty,—myfyrio yn yr un ystafell,—ac yn ynihyfrydu yn yr un gwai'th pwysig ; ie, un y gallaswn ddyweyd arn dano yn ngeiriau Jonathan am Dafydd,—" Yr hwn a garwn fel fy enaid fy hun." Mynych y gofynwyd i mi gan gyfeillion er ei farwolaeth, pa bryd yr oeddwn, yn ol fy addewìd, yn dwyn allan ychydig o hanes ei fywyd. Llawer gwaith yn y cyfnod yna yr eisteddais i lawr, ac y cymmerais fy ysgrifell yn fy llaw er ysgrifenu, ond yn cael fy ngorchfygu gan deimlad, a'm dallu gan ddagrau, nes gorfod gohirio y gwaith; ac er ei daflu ymaith dro ar ol tro, y mae mor anhawdd ymaflyd yn y gorchwyl yn awr ag oll. Rhaid ymladd yn erbyn teinüadau, neu beidio ysgrifenu yr un gair. Hefyd, ddarllenydd, yr wyf yn ymwybodol mai gorchwyl cynnil iawn sydd genyf ; mae rhyw duedd neülduol mewn dynion i weled rhinweddau lawer yn y rhai a anwyl- ant, a'u gorganmol ; ac efaliai y bydd llawer yn barod i ddyweyd mai darluniad oddiar deimlad anwylaidd fydd y cofiant hwn, ac nid gwir ddesgrifiad o'r gwrth- ddrych. Na, yr wy'f yn penderfynu na chaiff teimlad ei ffordd i baentio dim ar nodweddau neîllduol fy mrawd ; os gallaf ei ddangos ef yr hyn oedd, gwn mai hyny fydd dderbyniol gan ei gyfeillion anwylaf. Caiff ereill lefaru am dano mor bell ag y gallaf. Drwg genyf fod rhai gweinidogion oeddynt gymmydogion iddo yn ystod ei dymhor gweinidogaethol, ac a allent ddyweyd yn well am dano yn y tymhor hwnw nâ mi, wedi addaw ysgrifenu, ac jm teimlo yn awyddus i hyny, ond heb gyflawni eu haddewidion, er aros cyhyd wrthynt. Gwnawn y diffyg i fyny goreu gallom ni. ^ Ycof cyntaf sydd genyf am fy rhieni yw, eu bod yn byw mewn bwthyn or enw 'Sguborwen, ar lan Soden, afonig fechan yn ymylu Plwyf Llanllwch-haiarn, Ceredigion. Yno y ganwyd fy mrawd Simon, ar y 12 o Eagfyr, 1828 ; ac yno y mao-wyd ef am y chwech mlynedd cyntaf o'i fywyd. Efe oedd y trydydd plentyn i'm rhieni. Yr oedclwn i a'm brawd John yn hynach nag ef. Wrth grybwyil am y dyddiau boreuol dedwydd hyny, mae hen adgofion yn arllwys i fy meddwl, nes pen i mi wylo. O ! yr hen lwybrau cochion a amgylchynent y 'Sguborwen, ac a ínthent ddolydd gwyrddleision glan Soden, ar hyd pa rai y rhodiem ein tri bach làw yn llaw —a lle yr ymgasgìai degau o blant y gymmydogaeth i ymddifyru mewn chwareu- on diniwed. Clywid ni yn fynych yn cydfloeddio nes oedd y cjmjûd yn adsemio, er cael clywed (fel y dywedem) y dyn o'r graig yn em hateb. Ond beth erbyn 41