Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. Rhif. 541.] HYDREF, 1860. [Cyf. XLIII. CREFYDD DEULUAIDD.* C3--AJN- "V PAECH. DANrEL ID^ATIES, r>-3D. Anwyliaid yn yr Arglwydd,— Gofyna ein swydd i ni, fel eich athrawon, i fyned yn fynych " o amgylch Seion, rhifo ei thyrau, ystyried ei rhagfuriau, ac edrych ar ei phalasau." Wrth wneuthur hyn, meddiaimir ni gan deimladau gwahanol—llawenydd a thristwch —uwch ben y gwahanol olygfeydd a ddeuant dan ein sylw, o Iwyddiant ac aflwyddiant crefydd. Wrth ganfod terfynau Seion yn eangu, ei phreswylwyr yn amlhau, a'i heolydd yn cael eu prydferthu â harddwch santeiddrwydd, yr ydym yn gorfoleddu, ac yn dywedyd, " O'r Arglwydd y daeth hyn ; hyn sydd ryfedd yn ein golwg ni." Ond os gwelwn ei muriau yn adfeiliedig, ei themlau yn an« nghyfannedd, a'i phreswylwyr yn dihoeni mewn afiechyd, nychdod, a llesgedd, nis gallwn lai nâ thristàu, a gofyn yn alarus,—" Pwy a gyfyd Jacob, canys bychan yw ? " Nid oes, gan hyny, ddim yn bwysicach yn ein golwg, ac yn agosach at ein teimladau, (oddieithr ein cynnydd crefyddol personol ein hunain), **nâ chyssondeb cymmeriad crefyddol a Uwyddiant ysbrydol y diadellau y gosodwyd ni yn fugeiliaid arnynt. Dyma'r amcanion pwysig yr ymdrechwn eu cyrhaedd trwy ein hymweliadau personol, ein gwcinidogaeth gyhoeddus, a'n Llythyrau blynyddoì atoch. Tra'r ydym yn cydlawenhau â chwi o herwydd lluosogiad y cynnulleidfaoedd, yr ychwanegiad at yr eglwysi, ac effeithioldeb yr Ysgol Sab- bathol, nid ydym heb ein hofnau fod crefydd deuluaidd yn cael ei hesgeuluso yn fawr,—fod darllen Gair Duw a gweddio yn gyhoeddus loedi neu ar fyned o ym- arferiad o lawer teulu ag sydd yn proffesu creíýdd, ac heb gael ei ddechreu erioed gan ereill. Gan hyny, anwyl garedigion, goddefwch air y cynghor, a chaniatewch i ni, trwy gyfrwng ein Uythyr h^Ti, alw eich sylw mwyaf ystyrbwyll at sefýllfa crefydd deuluaidd yn eich mysg fel eglwysi Eedyddiedig, ac olynwyr yr hen Waldensiaid, ac Aimghydfi'uríwyr duwiol ereill, y rhai yr oedd eu tai yn demlau i Dduw ; o'r rhai yr oedd y meibion yn dyfod yn lle y tadau, a'r merched yn lle y mamau, i waieyd arddeliad cyhoeddus o athrawiaeth ac ordinhadau yr efengyl, er gwaethaf y carchar, yr artei'thglwyd, a'r ífagod; " ac ni charasant eu heinioes hyd angeu." Hyderwn i'n Llythyr diweddaf fod dan fendith Duw i'ch darbwyllo i arfer y moddion goreu i gynnjTchu profiad Cristionogol, yn nghyd â'i feithrin yn was- tadol. Os cafodd y Llythyr hwnw arnoch y dylanwad ddylasai gael, y mae * Llythyr Cymmanfa Sir Gaarf^rddin a Cheredigion, am y iîwyddyn 1860.