Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEEEN GOMER. Rhif. 540.] MEDI, 1860. [Cyp. XLIII. ABDYSG FOBEUOL.' ChAJN" -^T PARCH. 33- E"VA.]SrS, IDO-WrjASS- Gynnulleidfaoedd t Duw btw,—Gorphwysa eich cysur a'ch llwyddiant yn agos at ein meddyliau. Yr ydym yn llawenhau ac yn diolch i Dduw am yr ychwaneg- iadau a wnawd at rifedi eich aelodau y íiwyddyn ddiweddaf; a'n dymuniaä ydyw, ar fod eich cynnydd mewn gras, gwybodaeth, a defnyddioideb, yn gyfatebol i'ch cyn- nydd mewn rhifedi. Ni a obeithiwn nad ydynt yr anerchion a anfonir genym atoch o flwyddyn i flwyddyn yn cael eu taflu heibio genych yn ddisylw. Erfyniwn eich syiw y flwyddyn hon at eich dyledswydd i addysgu y genedlieuanc yn tgwyddorion crefydd Crist, a gwybodaeth o Air Duw. Hyfforddi plant yn ngwit- ioneddau mawrion yr efengyl, ac egwyddorion iachusol y Testament Newydd, ddyhá fod un o'n gofalon blaenaf a phenaf y dyddiau hyn, pan y mae cymmaint o ymdrech yn cael ei wneyd i'w harwain oddiwrth y gwirionedd, trwy ddysgu iddynt orchym- mynion ac athrawiaethau dynion yn ddysgeidiaeth. Gallwn wneyd llawer er attal cynnydd cyfeiliornadau yn y byd trwy arfogi yr ieuenctyd â gwybodaeth o Air Duw. Nid oes un cyfeiliornad a saif yn hir o flaen y Bibl, ond i'r bobl gael eu haddysgu yn briodol ynddo. Y peth gwerthfawrocaf i'w berchenog o bob peth ydyw gwir grefydd; ac y mae crefydd yr un mor werthfawr i'r ieuenctyd ag ydyw i'r canol oed a'r oedranus. Coron anrhydeddus i'r henafgwr ydyw ei fod yn ofni Duw ; blodeuyn prydferth mewn dyn yn mlodau ei oes ydyw ei fod yn caru Iesu Grist; ac un -o'r golygfeydd harddaf dan y nef ydyw dyn ieuanc fel Timotheus, Josiah, a Samuel, yn gwybod yr Ysgrythyr Lan, yn ceisio Duw, ac yn ei wasanaethu yn ei dy. Mae gwir grefydd yn gynnwysedig mewn adnabod Duw, a Iesu Grist ei fab ef. Y cyfrwng trwy ba un y cyrhaeddir gwybodaeth <^Dduw yn Nghrist ydyw yr Ysgrythyrau, ac y mae gwybodaeth ysgrythyrol yn gyrhaeddadwy i blant. " Ac i ti er yn fachgen wybod yr Ysgrythyr Lan." Os dysgwyliwn ni i'n plant, wedi y cyrhaeddont oedran o addfedrwydd, fod yn gedyrn yn yr Ysgrythyrau, dysgwylia'r Arglwydd i ni eü magu yn ngeiriau y flydd. Ei lais ef atom ni ydyw, " Hyffordda blentyn yn mhen ei ffordd." I. Y gwrthddrychau a gyflwynwn i'ch sylw, frodyr, ydynt y genedl ieuanc, yn enw- edig eich plant chwi eich hunain ; ond nid ydym am gau rhai mewn oedran allan o ymysgaroedd eich tosturl Y trysorau gwerthfawrocaf a feddwn ni ydynt ein plant. Mae plant yn werthfawr i fyd ac eglwys. Mae cysur a llwyddiant gwladol ac eg- lwysig yr oes ddyfodol yn ymddibynu ar blant yr oes hon. Plant yr oes hon fydd pobl yr oes nesaf; y merched fydd y mamau, y bechgyn fydd y tadau ; hwy fyddant y teuluoedd a gyfansoddant y dywysogaeth, y swyddogion a'r aelodau a wnant i fyny eglwysi Crist, yr achos da ag sydd yn awr wedi ei ymddiried i ni a drosglwyddir iddynt hwy; hwy ydynt y fÿddin a fydd yn ymhidd rhyfeloedd crefyddol y byd yn * Llythyr Cjiumanfa Morganwg, am y flwyddjii 1860.