Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEEEN GOMER. Rhif. 536.] MAI, 1860. [Cyf. XLIII ATHRAWIAETH YR EFENGYL, AT HORDINHADAÜ. QAN DIPIITI. Athrawiaeth yr efengyl ydyw y ddysg neu y wybodaeth ag sydd yn ein hyfforddi am y modd i ni gael ein gwaredu oddiwrth ein trueni moesol a naturiol, a'n dwyn i fwynhau dedwyddwch gwir a pharhaol. Gelwir hi " athrawiaeth iachus," " athraw- iaeth yn ol duwioldeb," "athrawiaeth dda," ac "athrawiaeth Duw;" yn " ymadrodd," " pregeth," " dysgeidiaeth," " ffordd Dnw," ac wrth amrywiol ddarluniadau ereül, y rhai ydynt yn dangos ei hawdwr, ei natur, ei chyfaddasrwydd i gyflwr dyn, a'i har- dderchawgrwydd tra rhagoroL Y mae athrawiaeth yr efengyl yn cynnwys nid un peth, ond cyfundrefn o wirioneddau, yn dwyn perthynas â holl ëangder Uywodraeth foesawl yr unig Arglwydd Dduw,—cyfundrefh agos atom, ac yn alluogini gael cyfranogi o'i dyben mawr, (Rhuf. x. 8—10); ond yn pelydru ei dysgleirdeb trwy holl daleithiau diamgyffred y deyrnas dragywyddoL Eph. i. 19. Gellir dyweyd am yr efengyl niegis am y gyfraith foesawl, ei bod yn " dra ëang." 1. Golyga neu rhagdybia yr athrawiaeth hon hollol lygriad natur dyn gan bechod; ei fod wedi dyfod o dan drueni mawr yn y byd hwn, ac i farw yn y diwedd ; ac fel y mae yn euog, ei fodo dan ddedfryd i drueni diamgyffred yn ei gyflwr tragywyddol; ac ei fod yn hollol analluog i ymachub ac adferu ei hun o'r cyflwr alaethus hwn. Fod Duw wedi creu a sefydlu dyn mewn cyflwr gwreiddiol dda a dedwydd, sydd amlwg wrth natur í>uw fel bod annibynol, ac felly analluog i ddim ond da, (Iago L 13); wrtìi y ddeddf sydd yn aros yn natur dyn, yr hon sydd yn ei gollfarnu am ddrwgj (Rhuf. ii. 15); ac wrth y daioni y mae Duw yn awr yn ei roddi i ddyn,—yn cyssoni â'r Ysgrythyrau, y rhai ydjmt yn eglnro yr adwyth drom yn Eden, a'r aehos dechreuol o holl drueni dynohww. ^ IFí oedd Âdda fel y dyn cyntaf yn cynnrychioh ei holl hil- iogaeth, y rhai oeddynt mewn ystyr yn ei lwynau, (Heb. viL 10); a'r canlyniad oedd, pan bechodd ef trwy anufudd-dod i Dduw, suddodd ei hun a'i hihogaeth o dan bechod ; canys, " Pwy a ddyry beth glan allan o beth aflan ì" Ac fel y mae pawb wedi dyfod o dan bechod yn Adda, felly y daeth pawb hefyd o dan farwolaeth ynddo ef. " Am hyny, raegis trwy un dyn y daeth pechod i'r byd, a marwolaeth trwy bechod ; ac feliy yr aeth marwolaeth ar bob dyn, yn gymmaint a phechu o bawb.' Ac y mae llygriad dyn drwy bechod yn ei berthynas ag Adda i'w weled yn mhellach, yn fod pob dyn yn ddieithriad a'i duedd naturiol at ddrwg; y mae eisieu dysg, neu esiampl, neu bob un o'r ddau, at bethau ereill, i ddyfod a dyn i wybodaeth o honynt, ac i reoleiddio ei ymarferiad ynddynt; ond i bechu, nid oes eisieu ysgolfeístr, celf- yddyd, nac esiampl; y mae yn dyfod yn naturiol i wne^d hyny, ac yn gyntaf o'i hoJ| weithredoedd. Yn cyfeirio at y gwirionedd hwn, yn dadleu tosturi, y dywed y wedi iddo ddyfod i oed, ac ymwybyddiaeth o reswm, i aUu gwahaniaethu rhwng y drwg a'r >jÈL y mae yn dewis y naül ac yn gwrthod y llall, pan yn gwybod ei fod wrth wneyd hyny yn haeddrt angeu. Tystia ei galon iddo ei fod yn rhydd i ddewi*