Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEEEN GOMEE. Bhif. 535.] EBEILL, 1860. [Ctf. XLIII BYWGRAFFIAD Y PAECH. BENJAMIN THOMAS, GWEINIDOG Y BEDYDDWYR YN PENSHIWGOCH, SWYDD. GAERFYRDDIN. GAN Y PABCH. J. WILLIAMS, ABEBDUAB. Adgofion am ragorolion ymadawedig sydd bob amser yn hyfryd, yn fynych yn ddyddorol, ac ar rai amserau yn cynnyreh» yr effeithiau mwyaf dedwydd. Gyda hyfrydwch yr ydym yn edrych ar eu Uwybrau pererinol trwy y byd hwn i'r trigfanau nefol, gan ffurfio iddynt eu hunain gymmeriadau gwerth eu hefelychu; a thueddir ninau i ymdebygoli iddynt braidd heb yn wybod i ni ein hunain, trwy fod. ein calonau yn cael eu puro yn yr arferiad iaehusol o syÜu ar ein rhagflaenwyr mewn rhinweddau. Nid ydyw y Bibl yn fwy o lyfr athrawiaeth nag ydyw o lyfr cronicl duwioldcb y credinwyr cyntefig. Gwyddai yr Ysbryd Glan, dan ysbrydoliaeth yr hwn yr ysgrif- enwyd y gyfrol ddwyfol, sut i gyffwrdd â llinynau y galon ddynol, a thrwy hyny ein gogwyddo ni i feddiannu y cymmeriad uchelaf trwy ddylanwad esiampl. Mae enwau y cyfiawnion sydd wedi eu hysgrifiaw ar ddalenau y Bibl, wedi i oesau fyned heibio, mor ber eu coffadwriaeth ag awel y boreu. Yn ol esiampl yr ysgrifenwyr ysbrydoledig, mae yr eglwys, yn mhob oes, wedi dyogelu coffadwriaeth y doeth a'r santaidd ; ac nid oes neb a all wybod faint o ddaioni a gynnyrchwyd trwy hyny ; a bydded i'r bras ddarlun canlynol o'r gwrthddrych dan sylw, trwy fendith Ior, dueddu y ffordd oreu. Ganwyd Benjamin Thomas yn Cügeran, swydd Benfro, yn y flwyddyn 1804. Enwau ei rieni oeddynt Dafydd a Mari Thomas. Crydd oedd Dafydd Thomas wrth ei gelfyddyd, a dysgodd ei fab Benjamin yn yr un alwedigaeth. Felly nid oedd gan ein cyfaill, mwy nâ llawer o'i frodyr yn y weinidogaeth, ddhn lle i ymffrostio mewn uchel achau na galwedigaeth. Ni hynodir dyddiau ei faboed, am a wyddom ni, â dim neillduol, ond iddo pan yn laslanc gwympo i afon Teifi, a boddi, fel yr arferai ef eì hunan alw yr amgylchiad ; ystyriai ef y dygwyddiad hwn yn un nodedigyn nhrefn rhagluniaeth ; oblegyd ymddengys iddo fod am lawer o amser heb ddim arwyddion bywyd. Yr oedd rhagluniaeth a'i llygad jh fanwl arno y pryd hwnw; yr oedd ganddi waith mawr iddo i'w gyflawni. Nid oedd amgylchiadau bydol ei rieni yn caniatâu iddynt roddi ond ychydig ddysgeidiaeth i wrthddrych ein cofiant, dim ond priu ddigon i'w alluogi i ddarllen ac ysgrifenu ychydig yn iaith ei fam ; ond trwy ei ddiwydrwydd, mewn amser addfetach, daeth yn alluog i wneyd defnydd o weithiau awduron Seisneg. Mae rhagluniaeth yn fynych yn pentyru manteision dysgeidiaeth ar rai dynion amddifad o gynneddfau i'w derbyn ; ac yn brin yn ei manteision dysg- edigaethol i ddynion galluog i'w defnyddio ; ac nid ydyw un amser yn rhoddi rheswm dros ei hymddygiadau wrth wneuthur felly. Nid ydym yn gwybod pa mor foreu y dechreuodd Mr. Thomas deimlo ar ei galon argraffiadau pethau ysbrydol; ond ym- ddengys iddo wneyd hyny pan yn lled ieuanc. 0 dan weinidogaeth nerthol y Parch. John Herring, Aberteifi, y tueddwyd ef i dalu ufudd-dod i ordinhadau Brenin Seion.