Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. Rhif. 534.]___________MAWRTH, 1860.__________[Cyf. XLgI. ATHRAWIAETH YR EFENGYL A'I HORDINBADAU. [y buddugol o wobr-draethodau "seren gomer."] Cran BcvrnaJ(m ; SBI* Y PABCH. E. THOMAS, TBBDBGAE.* Mae yn hysbys i bawb sydd yn gwybod ond ycbydig am y pwne mai ystyr y gair efengyl yw " newydd da." Y peth sydd yn gwneyd newydd yn dda yw ei fod yn ateb i gyflwr, neu yn cynnwys rhywbeth cynihwys i wneyd lles i'r hwn, neu y rhai, y cyhoeddir ef iddynt. Nid oes un newydd yn dda oni chynnwysa hyn ; ond pa fwyaf o hyn a gynnwysa, a pha luosoced y rhifedi y cynnwysir felly iddynt, goreu oll yw y newydd. Newydd da fuasai newydd am ffordd i adferyd iechyd wedi ei golli ; ond newyäd gwell fuasai newydd am ffordd i adferyd neu gadw bywyd rhag ei golli. Byddai newydd fely yn dda, er níi fyddai ond i un ; ond yn llawer gwell os i filoedd. Ond y mae y genadwri a elwir efengyl yn newydd da hyd eithaf gofynion pob un o'r ystyron hyn ; oblegyd cyhoedda Geiáwad " i'r holl bobl." Pe hysbysasid fod dwfr i'r holl bobl, fod ìechyd i'r holl bobl, neu y codai haul ar ol nos dywell i roi goleuni i'r holl bobl, ystyrid ỳ newydd yn newydd da; oblegyd rhaid fod y daioni y gall pawb gyfranogi.o hono yn ddaioni mawr. Ond, o'r tu arall, fe fuasai cyhoeddiad am Geidwad i un pechadur colledig yn newydd gwell; oblegyd mae y da mwyaf hwn i un yn fwy nâ phob da mawr arall i bawb. Ydyw, mae yn fwy fod un pechadur yn cael Ceidwad na bod çawb yn cael haul. Ond mae yr efengyl yn well nâ hyn ; canys mae hi nid yn unig yn wrhoeddi y peth goreu, ond y peth goreu ar y gradd helaethâf. Cynnwysiad y newydd lfwn yw genedigaeth Ceidwad ; a chyhoeddlr ef gan angelion yn Geidwad i'r holl bobh Dyma y daioni penaf i'r rhifedi Uuosocaf; a phriodol y gelwir y newydd yn newf dd da. Am y rheswm hwn mae y genadwri hon yn cael ei galw " yr efengyl," neu y newydd da. Mae mor adnabyddus fod hyn yn cael ei wneyd, oblegyd ei fod yn caçl ei wneyd mor aml, fel mai ofer y barnwn osod i lawr yr adnodau lluosog lle y gwneir hyn. Buasai teitl felly yn rhywbeth anrhydeddus iawn yn mhlith dynion, megis y bardd, yr athronydd, yr areithiwr, os yn cael ei roi a'i gynnal gan deilyngdod ; mor anrhydeddus yn wir fel nad oes neb wedi ei ennill a beiddio ei wisgo ; nid yw y bardd, yr athronydd, &c, i'w gael ar y ddaiar, ac ni ellir cael yr angel yn y nef; ond yn nghanol holl gymmwynasau Duw i ddyn mae y gymmwynas fawr i'w chael. Mae y newydd da yn mhlith cynnifer 0 newyddion yn deitl tra godidog ; ond pe byddai yn fil mwy felly, mae gan y newydd hwn hawl i'w wisgo. Mae y newydd hwn yn rhagori cymmaint, fel y mae gogoniant pob newydd arall yn diflanu gydag ymddang- * Mae y tri beirniad yn cyduno yn unfrydol mai eìddo Barnabas yw y goreu, a'i fod yn deilwng o'r wobr.