Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. Ehif. 533.] CHWEFROR, 1860. [Cyf. XLIII. BLAGUR MYFYRDOD. GAN Y PAECH. D. EYANS, DUDLEY. Riiif. VII. " Y cyfiawn a flodeua fel palmwydden, ac agynnydda fel cedrwydden yn Libanus. Y rliai a blanwyd yn nhy yr Arglwydd, a fiodeuant yn ngiiynteddoedd ein Duw," <fce.—Salm xeii. 12—15. Gelwir y Salm hon yn " Salm y dydd Sabbath." Sefydlwyd y Sabbath er i ddynion gael hamdden i fyfyrio ar berffeithderau yr Hollalluog, fel y dadguddir hwynt yn nghreadigaeth y byd, ac yn y llywodraeth foesol a weinyddir drosto. Y duwiol yn yr hen oesau, yn gystal ag yn bresenol, a ymgynnullent yn nghyd ar y dydd cyssegredig hwn er addoli eu Duw. Gwnaent hefyd barotoadau priodol erbyn yr aniser apwyntiedig fel y gallent wasanaethu eu Crewr â'r deall, yn gystal ag á'r ysbryd. Yr adnodau gorphenol, gyda llawer o geiiider, o briodoldeb, a thlysni, a glodforant y cyfryw a addolant yr Ior mewn gwirionedd ac uniondeb, ac y sicrhant y gwnanfc íÿned rhag eu blaen hyd derfyn eu hoes mewn rhinwedd, dedwyddwch, ac anrhydedd, er profi yn y modd mwyaf buddugoliaethus, a dadguddio yn y modd mwyaf boddhaol gyfiawnder, gwirionedd, a ffyddlondeb y Duw goruchel. Dysgwn oddiwrth y testun y pethau canlynol:— I. Fod y Cyfiawn wedi eu planu yn Nhy yr Arglwydd. Ymadroddion allegol yw y geiriau a ddefhyddir. Cymharir y cyfìawn i brenau, a thy yr Arglwydd i ardd, yn mha un y maent wedi eu píanu, ac yn mha un yr arosant, ac y tyfant. Dengys y geiriau Fod y cmfmeriadau dan sylw wedi ymuno eu hunain â thy yr Arglwydd. " Ie, rhoddaf idáynt yn fy nhy, ac o fewn fy magwyrydd, le ac enw, gwell nâ meibion ac nâ merched," &c. Wrth y ty y golygir y deml, jt hon oedd i fod yn gysgodol o'r He yr addolid yr Arglwydd yn gyhoeddus yn mhob oes. Nid digon byw bywyd o foesoldeb, fel y tybia llawer, rhaid penderfynu dros Dduw, ymuno â'i deulu, cael lle yn ei dy, ac enw yn mhlith ei blant. Yno y mwynheir cymdeithas â'r nefoedd. Yno y triga yr Arglwydd. " Dyma le fy ngorseddfa, a lle gwadnau fy nhraed, Ue y trigaf yn mysg meibion Israel yn dragywydd." " Digonir hwynt â líawnder ei dy." Yr arosant yno. Gwnant hyn mewn dwy o ffyrdd. Trigant yno trwy serch a dewisiad. Maent yno o ran eu teimlad a'u hewyllys, pan y methant fod yno o ran eu cyrff. pa le bynag y byddo y trysor, yno y bydd y galon hefyd, a pha le bynag y fflae y galon, yno y byoíd y dyn, gan nad pa le fo'r corff. " Fy enaid a hiraetha, ie, ac a flysia am gynteddau yr Arglwydd." Trigant yno trwy fynychdod eu cydgynnulhad. Ni adawant gyfarfod fyned heibio heb fod yn bresenol, os gwna amgylchiadau ganiatâu. Ni wnant yn wirfoddol esgeuluso un cyfleusdra. Anaml y canfyddir eisteddle y Cristion duwiolfrydig yn wag. Pan y metha fyned i'r cyssegr, metha íyned i bob man aralL Mae esgeulusciod o foddion gras yn brawf bob amser o fychandod duwioldeb, oerni cariad, ac iselder brwdfrydedd y cyfryw a esgeulusant. Heíyd, mynychaf y cadwant ymaith o dy Dduw, dyfhaf y suddant i oerfelgarwch a