Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEEEN GOMER. Rhif. 531.] RHAGFYR, 1859. [Cn. XLII. Y BEDYDDWYIL, A EHWYMEDIGAETHAU Y BYD IDDYNT. Llytiiyr IV. 3. Cafodd y Bedyddwyr Nwatiaidd eutìierlid a'u merthym yn ddidrugaredd. Dyfynwn rai ffeithiau o berthynas i'r bobl yma allan o Lardner. " Yn y flwyddyn 331, efe (Cystenyn) a newidiodd ei ymddygiad tuag at y bobl yma, (y Novatiaid,) a ehynnwyswyd hwynt gydag enwadau ereill mewn gwasgfeuon a dyoddefiadau. Chwilid am eu Uyfrau—gwaherddid iddynt ymgasglu at eu gilydd, a chollodd llawer eu lleoedd o addoliad. Mesurau gormesol Cystenyn a gyimyrfodd lawer i ymadael â mangre eu dyoddefiadau, ac ymneillduo i leoedd annghyfannedd. Olrheinia Claud- ius Lyssel, yr archesgob Pabaidd, yr heresi Waldensiaidd at weinidog o'r enw Leo, yr hwn yn y tymhor yma a adawodd Rhufain am y dyffrynoedd." " Yn 375, yr amherawdwr Valens a goneidiodd y gredo Ariaidd. Cauodd i fyny yr eglwysi Novatiaidd, ac alltudiodd eu gweinidogion. Yn ystod y brofedigaeth ìem yma, daeth ysbryd haelfrydig y Novatiaid mor amlwg, fel yr oedd yn cynhyrfu niawr- ygiad eu gelynion." " Yn y pedwerydd o'r cynghorfeydd a elwid y " lateral councils" gwnaed canonau i'w halltudio fel hereticiaid, a chadarnheid y canonau yma gangyfraith agyhoeddwyd yn 413 gan yr amherawdwyr Theodosius a Honorius, yn cyhoeddi fod pob personau a ail fedyddid, yn nghyd â'r ailfedyddwyr, i gael eu cospi â marwolaeth. Yn gydunol â hyn rhoddwyd Albanus, gweinidog selog, gydag ereill, i fanvolaeth, am ail fedyddio. Y dulliau amrywiol hyn o ormesu a yrasant y ffyddloniaid i ymadael â'r dinasoedcl, ac i geisw Uochesau yn y wlad, yr hyn a gawsant, yn enwedig yn nyffrynoedd Piedmont, trigolion pa rai oeddynt wedi dechreu cael eu galw yn Ẅaldensiaid." Mor berffaith y mae yr erlidigaethau yma yn cyduno a'r desgiifiadau o'r erhdig- aethau dan y Testament Newydd. " A bu, yn y dyddiau hyny, erhd mawr ar yr eglwys oedd yn Jerusalem ; a phawb a wasganvyd ar hyd gwledydd Judea a Samaria, ond yr apostolion." " A'r rhai a wasgarasid a dramwyasant gan bregethu y gair." Diammheu ein bod (fel y tybia Claudius Lyssel) yn cael dechreuad yr hyn a elwir ganddo ef " yr heresi Ẅaldensiaidd," yn ngwaith y Novatiaid yn yr erlidigaethau a wnaed arnynt, yn ffoi i'r dyffrynoedd. Yn eu hachos hwy, Oh ! fel y daeth "gwaed y merthyron yn had i'r eglwys." Mor oleu y mae hyn yn egluro " anhawsder" Mosheim, o berthynas i'r Aüfedyddwyr, am ba rai y dyweda " fod eu dechreuad i'w gael yn nyfnderau pell hynafiaeth. Ýma hefyd gaÙuogir ni i roddi cyfrif am ei gyf- addefiad o'r ffaith " fod llawer o bersonau i'w cael yn gorwedd yn guddiedig, yn agos yn yr oll o wledydd Europ, yn enwedig yn ÍBohemia, Moravia, Switzerland, a ^rermany, cyn cyfodiad Luther a Chalvin, y rhai a ymlynent yn ddiysog wrth natur ysbrydol teyrnas Crist." Fel hyn y rhyngodd bodd i'r Árglwydd symud ei eglwys o "^lad i wlad ac o oes i oes, gan fod iddi yn noddfa ac yn nerth, yn gymhorth hawdd ei gael mewn cýfyngder, gan wyhed drosti ar bob moment, a'i chadw yn fyw drwy yr noll oesoedd, ac yn mhob ty wydd. 67 . .