Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEEEN GOMER. Bhif. 530.] TACHWEDD, 1859. [Cît. XLII. Y BEDYDDWYR, A RHWYMEDIÖAETHAU Y BYD I D D Y N T. Llytiitr III. V—Y MAE T BEDYDDWYR YN MHOB OES WEDI BOD YN ESIAMPLAU i'R BYD MEWN GLYNU WRTH EU IIEGWYDDORION. Nid oes dim yn fwy mawreddog yn ei gyssylltiad â dealldwriaeth neu foesoldeb nag ymlyniad diwrthgil wrth egwyddorion. Am fod y canlyniad yn ymddangos fel wedi ei ysgaru oddiwrth yr egwyddor, neu am fod canlyniadau annymunol yn cyf- ryngu rhwng yr egwyddor a'i chanlyniad cyfreithlawn, temtir dynion yn rhy gyôredin i wadu yr egwyddor, i dderbyn cysgodau yn lle sylweddau, a'r hyn a ymddengys yn bresenol yn ddaioni, gyda cholled sicr, am y gwir ddaioni yn yr amser dyfodol. Y tir goreu yw sefyil yn ddiysgog ac er pob perygl o blaid y gwirionedd, er mwyn y gwirionedd ei hunan, ac o gariad gwirioneddol ato, gan adael pob canlyniad yn llaw Duw y gwirionedd, ac awdwr ein hiachawdwriaeth dragywyddol. Yr hyu sydd yn dangos mawredd cariad pob dyn at ei egwyddorion, yn nghyd â'r pwys y mae yn ei roddi arnynt, yw y sefydlogrwydd a'r cyssondeb gyda pha rai y byddo yn glynu wrthynt; yr hyn sydd yn proíì sefydlogrwydd ymlyniad pob dyn wrth yr egwyddorion a broffesa yw yr annghysuron, yr anfanteision, y colledion, a'r erlidigaethau y mae yn eu dyoddef er eu mwyn. Yn awr, nid wyf fi am honi mai y Bedyddwyr yw yr unig blaid sydd wedi dyoddef erhdigaethau trymion am eu crefydd, ac wedi dewis merthyrdod yn hytrach nâ gwadu eu hegwyddorion. Ond pwy bynag sydd wedi dyoddef coUedion ac erlidigaethau am air Duw ac am dystiolaeth Iesu, geUir dywedyd yn uchel ac yn ddibetrus fod y Bedycldwyr wedi rhagori arnynt oll; a phwy bynag sydd wedi tywallt eu gwaed ac aberthu eu bywydau o blaid eu heg- wyddorion, gellir cyhoeddi yn nghlyw y byd, heb ofni gwrthbrofiad, fod y Bedyddwyr wedi bod yn helaethach nâ hmynt oìl. Y maent hwy wedi bod yn dyoddef y creulon- derau mwyaf, ac y mae miloeäd o honynt wedi eu gyru mewn fflamiau i fyny i'r nef- oedd cyn bod un enwad Cristionogol arall mewn bodolaeth. Dyoddefasant oddiwrth Iuddewon, oddiwrth baganiaid, oddiwrth Babyddion, oddiwrth Roegiaid, ac oddi- wrth Brotestaniaid, ac nid ydynt erioed wedi dial ar neb. Y Parch. J. Newton Brown, D.D., yn ei draethawd rhagarweiniol i ferthyron y Bedyddwyr, wrth son am ferthyrdod Ste])han a Ioan Fedyddiwr, a Iago, a ddywed,—" Fel hyn dechreuodd cyfres hir a dysglaer merthyron y Testament Newydd, gydag enwau nad ydynt byth i'w hannghofio. Ac fel hyn, o flwyddyn i flwyddyn, ac o oes i oes, am dri chan núynedd, y derbyniodd y gyfres enwog hono ychwanegiadau oddiwrth greulondeb erlidigaethau Iu(îdewig neu baganaidd. Ond drwy yr hoU amser hyn,gyda dim ond un eithriad adnabyddus," (sef Cyprian,) " yr hoU ferthyron Cristionogol yma oeddynt Fedyddwyr." Y Cardmal Hosius, Uywydd Cynghorfa Trent, (o.c. 1545), uchelwr enwog yn Eg- iwys Rhufain, a ddyweda,—" Os'cdrychwch ar eu llawenydd mewn dyoddef erlidig- aoth, rheda yr Ailfedyddwyr o flacn yr hoU hereticiaid. Os ediychwch ar y rhifedl, 61