Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMEE. Rhip. 529.] HYDREF, 1859. [Crr. XLII. HELAETHDEE Y DILUW.* Y diltjw yw un o'r pethau pwysieaf ag sydd hyd yina wedi hynodi hanesyddiaeth y byd. Ceir traddodiadau am dano bron gan bob llwyth o bob iaith a chenedl. Gorchwyl tra dyddorol fuasai rhoddi crynodeb o'r holl draddodiadau hyn ; dangos eu perthynas hwynt â'u gilydd, a pherthynas yroll â'r hanes ysbrydoledig. Hefyd, peth dymunol fuasai gwneyd sylwadau manol ar achosion moesol a naturiol y diluw, yn nghyd â nodi y gwahanol a'r amrywiol addysgiadau a ellid eu tynu oddiwrtho ; ond nid yw terfynau ein traethawd yn caniatâu i ni gymmeryd dan sylw ychwaneg nag un gangen o'r pwnc mewn llaw, sef Helaethder y Diluw. Wrth ddewis y pwnc hwn, nid ydym heb wybod am rwystrau mawrion ag ydynt ar ein ffordd i'w penderfynu. Gwyddom fod dynion enwog yn methu a chydweled o barthed iddo. Rhai a farnant ei fod yn gyffredinol, ereill a ddadleuant mai rhanol oedd. Ar y naill law, y mae Dr. P. Delany, Mr. Sharon Turner, a'r Dr. G. Redford, yn ymdrechu profi cyffredinolrwydd y diluw. Ac ar y llaw arall, y mae Dr. E. Hitchcoch a Dr. J. P. Smith yn dadleu yn rymus dros ei neiüduolrwydd. Y naill ddosparth a ymdrecha brofi i'r diluw orchuddio yr holl ddaiar, oddiar yr ystyriaeth fod yr Ysgrythyr, yr hon nis gellir ei thori, yn dysgu hyn, ac hefyd fod yr HoÜalluog Dduw yn abl gwneyd hyny, er cymmaint y rhwystrau a ddichon fod ar y ffordd. Y dosparth arall a farna nad yw yr Ysgrythyr yn llefara yn bendant ar y pwnc—nad yw y Bibl yn dysgu y naill athrawiaeth yn fwy nâ'r llall—h.y., nid ydym o angen- rheidrwydd i ddeall y geiriau a ddefnyddir yn eu hystyr eangaf. Dadleuir yn erbyn diluw cyffredinol am y rhesymau canlynol. Nid oes hanes neillduol am y fath amgylchiad wedi ei gofnodi gan hen haneswyr—nid oedd digon o ddwfr yn y greadigaeth i orchuddio yr holl ddaiar i'r fath raddau ag y dywedir— ac nid oedd angen am un cyffredinol, gan y buasai un lleol yn ateb yr un dybenion. Mewn atebiad i hyn, dywedir fod traddodiadau yr hynafiaid a gallu Duw yn ddigon i roddi cyfrif am y cwbl. Pa un bynag ai golygu y diluw yn gyffredinol ai lleol a wnawn, ni fydd achos i ni o ran hyny gywilyddio, canys y mae dynion enwog a dysg- edig yn coleddu ac yn amddiffyn y naill olygiad fel y ÛalL Öaniateir i ni ynte i ymdrin â'r pwnc yn bwj'llog yn ngoleuni Gair Duw, Rheswm, a Gwyddoniaeth. Dechreuwn gyda'r Ysgrythyr, ac ymofynwn beth a ddywedir am ëangder y diluw yn y gwirionedd dwyfol, canys os yw y Bibl yn llefaru yn ben- dant ar y pwnc, dyna derfyn ar y ddadl. . Y mae yr oll a ddywed y Bibì am y diluw i'w ganfod yn Gen. vi. bennod a'r ddwy ganlynol. ZSTi wnawn ddyfynu mwy nag sydd yn dal cyssylltiad ueillduol â'i helaeth- der. Fel y canlyn y dywedodd Diìw wrth Noah,—" Ẅele myfi, 'ie myfi, yn dwjai dyfroedd diluw ar y ddaiar, i ddyfetha pob cnawd, yr hwn y mae anadl «inioes ynddo, odditan y nefoedd ; yr hyn oll sydd ar y ddaiar a drenga." vi. 17. Ac yn y vii. 19 y dywedir fel hyn,—" A'r dyfroedd a ymgryfhasant yn ddirfawr iawn ar y ddaiar, a gorehuddiwyd yr holl fynyddoedd uchel oedd tan yr holl nefoedd." Dyma * Darllonwyd y traetliawd uchod yn nghyfarfod blynyddol Athrofa Pontypool y flwyddj-n hon. 55