Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEEEN GOMEE. Ehif. 52T] AWST, 1859. [Cyf. XLII. Y BEDYDDWYB, A BHWYMEDIGAETHAU Y BYD IDLYNT. Llythyr I. Wrth edrych ar yr Israeliaid yn eu gwersylliad trefnus a rheolaidd wedi ymneillduo oddiwrth bob pobl ereill, arweiniwyd Balaam i ddefnyddio iaith gyfaddas, nid yn unig i'r sefyllfa yn mha un yr oedd y genedl, ond hefyd i'r ffafr a ddangosid iddi, yn eu hysgariad oddiwrth bob cenedloedd ereill, a'u neilíduad trwy gyfreithiau, crefydd, a chymmeriad, fel pobl santaidd,—"Wele bobl yn preswylio eujjun, ac heb eu cyfrif yu nghyd â'r cenedloedd." Heblaw hyny, y mae y geiriau yn cynnwys un o'r pro- phwydoliaethau rhyfeddaf, yr hon sydd wedi bod yn cael ei chyflawni o'r pryd y ílefarwyd hi hyd y dydd hwn. Parhaodd yr Iuddewon yn genedl neillduedig am amser ìiir ar ol dyfodiad Crist; ac hyd y nod pan yn mysg cenedloedd ereill yr oedd eu harferion, a'u dull 0 fyw, yn eu cadw ar eu penau eu hunain, ac yn wastad gosodid hyn i lawryn eu herbyn fel prawf o'u culni, ac effaith eu rhagfarn. Er pan ddinystriwyd Jerusalem, y mae yr Iuddewon Wedi eu gwasgaru fel estroniaid trwy lawer 0 wledydd, etto parhânt " yn bobl sydd yn preswyho eu hun, ac heb eu cyfrif yn nghyd á'r cenedloedd." Ond yr hyn oedd yn briodol i Balaam ei lefaru am yr hen genedl Iuddewig yn ei amser ef sydd yn briodol i ninau ei lefaru yn awr am gyfenwad y Bedyddwyr. Os oedd yn gymhwysiadol i'r Iuddewon pan ar eu taith o'r Aiffti Ganaan, y maent yn awr yr un'mor gymhwysiadol at y Bedyddwyr, oblegyd, yn gyntaf, y maent, fel JT Iuddewon, wedi bod o'r dechreuad " yn bobí sydd yn preswylio eu hun, ac heb eu cyfrif yn nghyd â'r cenedloedd;" ac yn ail, y mae yr ynmeillduolrwydd yma 0 eiddo y Bedyddwyr, fel yn achos yr Iuddewon, wedi bod yn achlysur i osod y byd 0 dan rwymedigaethau iddynt. I.—Y mae y Bedyddwyr o'r dechreuad wedi byw yx gyfenwad neillduol A 6WAHANIAETH0L ODDIWRTH BOB PLAID ARALL. Yn y prawf hanesyddol yma, y tystiolaethau a ddygir yn mlaen gan mwyaf ydynt eiddo taenellwyr ar fabanod, ond etto nis gallaf weled unrhyw anmhriodoldeb mewn galw ychydig gyfeillion yn gystal â llawer 0 elynion i roddi barn ar y pwnc. Bechreuwn gyda y ganrif gyntaf. Ein hawdurdod am y tymhor yma yw y Test- ament Newydd. Dyddiad ysgrif olaf Ioan yr Efengylwr a'r Apostol yw, O.C. 96, ac y mae yndebyg iddo farw yn mhen pedair blynedd ar ol hyn, sef yn y flwyddyn O.C. 100. Yr ymofyniad pwysig, gan hyny, ydyw, beth y mae y Testament New- ydd yn ei ddysgu 0 berthynas i fedydd yn yr eglwys apostolaidd? (a) Beth a ddyioeä y Llyfr ysbrydoledig hivn am y weithred 0 fedyddio ? " Yna yr aeth allan ato ef Jerusalem, a hofl Judea, a'r holl wlad 0 amgylch yr Iorddonen ; a bwy a fedyddiwyd ganddo ef ynjr Iorddonen, gan gyffesu eu pechodau." " Ac aeth 4S