Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. Rhif. 526.] GORPHENHAF, 1859. [Cra. XLII. FFOSYLLAU. Ek fod y gair ffosyllau, yn ei ystyr helaetbaf, yn golygu pob matb o ddefnyddiau ag a gloddir allan o'r ddaiar, arferir ef yn ei ystyr gyfyiigaf yn gyffredin gan ddaiareg- wyr, i ddynodi bodau, neu weddillion bodau peiriannol yn unig. Wrtb fodau peir- iannol y golygir, cyrff, neu weddillion cyrff llysiau ac anifeiliaid ; ac wrth fodau anniheiriannol y deallir, unrhyw fathau o ddefnyddiau mwnol cloddiedig allan o grystyn y ddaiar. Y niae y ffosyllau peiriannol hyn yn rhauedig i ddau o ddosparth- iadau, sef, yr ymaregol a'r ymgadurrol—y blaenaf yn cynnwys y defnyddiau hyny ag ynt wedi derbyn eu ffurf bresenol oddiwrth ffarf llysiau ac anifeihaid, a'r olaf yn cynnwys gweddillion llysiau a chreaduriaid wedi cadw eu hunaniaeth priodol, yn gymmysgedig à defnyddiau ereill. Y niae y gwrthddrychau a enwwyd olaf, idd eu cael mewn dwy o sefyllfaoedd gwahanol; yn y naill, y mae eu sylwedd gwreiddiol, yn ngliyd â thueddiad perthynasol gronynau eu cyfansoddiad, mewn cyflwr cadwrus ; ac yn y llall, y ffurf wreiddiol yn unig sydd gadwedig. Y mae y defnydd, neu y sylwedd cynnwynol, wedi ei symud, a sylweddau mwnol wedi cymmeryd ei le. Y rhanau caletaf o'r ffosyllau a enwwyd, ynt yn gyffredin y rhai a geidw eu hunaniaeth hiraf a chyfiawnaf. Yn mhlith y cyfryw y rhesir esgyrn anifeiliaid tirol, a rhai mathau o drych-bryf, a gwedditlion marol, megis cregyn a chwrelau. Mewn pethaii fel hyn, ni chanfyddir fawr cyfnewidiad, rhagorna bod y sudd a berthynai iddynt yn eu sefybfa wreiddiol wedi sychu. Ffosyllau esgyrnol a gadwant mewn meddiant gyfran helaeth o'r phosphoric acid, a gclatin, drwy bob cyfnewidiad, ac nis gellir deall eu bod wedi colli dim o'r cyíryw, oddieithr ychydig oddiar eu rhanau arwyn- ebol. Weithiau, ceii" fod carbonic acid, yn unedig â sylweddau calchog ereill, wedi eynnyddu ynddynt. Ceir sylwadau eglurhaol yn ngweithiau Playfair, ar wahanol sefyllfaoedd esgyrn ffosyllog, a gweddillion llysiau. Gwabaniaetha rhwng ffosyllau y rhywogaethau ag oeddynt yn bodoli cýn ffurnad y tiroedd presenol, a'r ffosyllau a geir yn meddu nodweddau o ddyddiad diweddarach. Rhana y rhai olaf hyn i ddau o dclospartliiadau. 1. Y rhai ynt wedi eu ffurfio drwy ymuniad defnynawl, ac a geir yn gyffredin mewn agenau a bolltiadau yn y ddaiar, mewn agweddiad cerygol. 2. Y rhai a geir yn aml yn gorwedd mcwn daiar rydd, mewn fi'urf dynerach ná'r rhai ereill. Nid hynaflaeth yw y pcth a achosa y gwahaniaeth rhwng gwrthddrychau y ddau ddosparth olaf a enwwyd, canys gali y naiÙ fod yn gydoesoì a'r lleill o ran hyjiy ■ nid oes genym reol sicr i wahaniaethu rhyngddynt, yn yr ystyr hyny ; etto, ystyrir yn gyffredin fod y ffosyllau a geir mewn daiar rydd, o ddyddiad diweddarach mVr rhai a geir mewn agweddiad cerygol, mewn holltiadau ac ogofau, gan nad yw daiar rydd yn ffafriol i gadwraeth pethau am amser hir. Y mae y ffosyllau ffurf- gerygol i'w cael yn gyffredin yn nghymmydogaethau ceryg calch, naiíí ai mewn cyfìwr cauedig yu, neu yn dreiddiedig gan sylweddau calchog a haiarnog. Ehai o'r cyfryw ynt yr esgyrn fiosyllog a gioddir alian o greigiau Gibraltar, ac a geir ar fôrdir Dalmatia, yn Austrìa. ' " -%