Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. Rhif. 525.] MEHEFIN, 1859. [Cyf. XLII. MEFLAÜ YN NGHYMMERIAD AC ARFERION Y CYMMRY. " Nid llai gwerth mefl nâ gwerth ffawd." "Gwell gochel mefl nâ'i ddial." I rai, nid i bawb, y mae edliw meflau (blemishes) yn orchwyl dymunol. Coelier fi wrth gyehwyn mai fy unig amcan ydyw argyhoeddi a diwygio, nid edliwio—dangos bai er mwyn i'r beius ei adael. Nid oes i iaith, cenedl, cymdeithas, na sefydliad, elynion mor sicr i'w dinystrio â rhai a fodolant ynddynt hwy eu hunain—rhyw dranc- edigaeth tufewnol. Mae heintiau a chlefydau yn lladd llawer ; ond lle mae y ddar- fodedigaeth yn y cyfansoddiad nid oes gobaith i wella. Dichon i enllibwr ymosod yn gyfrwys ac egniol ar gymmeriad ei gymmydog, ond yn aflwyddiannus oddieithr fod malldod eisoes yn nghymmeriad yr hwn yr ymosodir arno. Pan ddarostyngwyd cenedl y Cymmry ar y cyntaf, yr oedd y Cymmry ar y pryd yn ymrysoni â'u gilydd. Felly hefyd yn ddieithriad y genedl Iuddewig ; yn yr holl ymosodiadau a fu ar y genedl hono, nid oedd yr un ymosodiad yn effeithiol, oni fyddai elfenau ei darostyng- iad yn y genedl ei hun. Tra byddo cenedl neu deyrnas yn gofalu am dani ei hunan, hi a fydd ddyogel er gwaethaf ymosodiadau estroniaid. Y mae iaith cenedl yn un o elfenau ei bodolaeth, ac o rwymynau ei chenedlgar- wch. Dechreuodd y genedl Iuddewig ddihoeni can gynted ag yr esgeulusodd hi ei hiaith. Ei chrefydd yn unig—hynodion neillduol ei chrefydd, sydd yn cadw y genedl mewn enw o fodolaeth er pan y mae yr iaith Hebraeg wedi peidio a bod yn iaith llafar. Pwy bynag a ddarlleno yn sylwgar y bennod olaf yn llyfr Nehemiah, efe a wel fod y dyn nodedig hwnw yìi ystyried purdeb y Sabbath yn hanfodol i fod- olaeth crefydd, a phurdeb iaith i fodolaeth cenedl. Ac y mae athroniaeth a ffeith- iau yn cydbrofi hyn. Nid yw haniad yn unig, na phreswylfod gjrda haniad, yn absenoldeb iaith, yn dyogelu cenedlganvch ; canys y mae awdwr ein bodolaeth wedi gwneuthur o un gwaed bob cenedl o ddynion i breswj^ho ar holl wyneb y ddaiar. Rhaid i ni wrth rwymynau cydfynedol a haniadau er ìlunio a chynnal ein cenedl- garwch. Dichon y dywedir etto, megis ag y dywedwyd lawer gwaith cyn hyn, fod iaith a chenedlgarwch y Cymmry yn anfanteisiol i'r genedl ei hunan. Y mae djwediad felly yn ddiau yn haeddu sylw ac ystyriaeth ; byddai yn hyfrydwch genyf fi ei weled yn cael ei drafod gyda deheuder, pwyll, ac ymresymiad didwyll a dierwin. Ar hyn o bryd nid oes genyf well atebiad i'r fath ddywediad nag eiddo Robert Hall a Josepfc Harris. Fel y caníyn y dywedai Hall:—" Peth cywilyddus a gwarthus yw fod neb. yn peidio ymdrechu cadw iaith ei genedl rhag myned ar goll; dylid ei chadw yn grefyddol; y peth nesaf at grefydd yw hyn ; dyìai pob dyn, wedi cael gwasanaeth cynneddfau y meddwl, adnabod ei Dduwyn g>rntaf, ac yna iaith ei genedl. Colled neúlduol fyddai dyddimiad iaith ; canys pa fwyaf o ieithoedd a fyddo neb yn wybod, nelaethaf oll fydd ei wybodaeth ; y mae pob iaith yn cynnysgaethu'r meddwl ag am- 31