Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. REir. 524.] MAI, 1859. [Ctp. XLII. NODION BYWGRAPFIADOL AM Y DIWEDDAB BAECE JOHN EDWABDS, (Parhad o Tud. 148.) Wele yn awr ein hysgrif ddiweddaf, ar y pwnc hwn, ger bron y darllenydd. Y mae'r testun wedi ei nodi yn fiaenorol, sef, JOHN EDWARDS YN EI WAÍTH. Nid hanes y gwaith a feddylir—hanes ei fywyd fyddai hyny, oblegyd bywyd o weithgarwch oedd yr eiddo ef—ond nodweddion y gweithiwr. Ynigyssegrodd yn foreu i weinido<raeth y gair, ac arolygiaeth eglwys y Duw byw. Fel PREGETHWR. 1. Yr oedd J. E. "yn gymhwys i ddysgu ereül."—Ni chafodd fawr dysgeidiaeth. Ni bu mewn athrofa erioed. Pa fodd bynag, yr oedd ynddo gymmaint o synwyr cryf a dawn naturiol, gymmaint o egni ysbryd a gwybodaeth o'r Ysgiythyr Lan, fel nad oedd annghymhwys i'r swydd orucìiel a phwysig o fod yn ambassador Crist—yn genad Brenin y breninoedd at ddeiliaid Ior ar y blaned wrthryfelgar hon. Dywed y Parch. J. Pritchard fel hyn, " A meddwl am ei fanteision yn ei ddyddiau boreuol, ymddengys i mi ei fod yn bregethwr da iawn. Pwy a fu yn ei roddi ar y ffordd oreu iddeall yr. Ysgrythyrau, i ddewis testunau, i gyfansoddi a thraddodi pregethau ? Dichon fod Thomas Jones wedi symud i Ehydwilyìn, ac Abel Vaughan i Le'rpwl, a Jones o'r Drefnewydd a Christmas Evans yn rhy'beíl i allu bod yn gymhorth iddo. Dichon ei fod ef a'i gj'foedion, Meistriaid EÌlis Evans, Robert Edwards, Richard Foulkes, ac Edward Roberts, fel haiarn yn hogi haiarn, felly hwythau feddyliau eu gilycld." Yr oedd yn dra chymhwys i ddysgu ereill, am y gallai ddylanwadu ar fedd- yliau dynion, a denu eu sylw. Meddai ar ddawn a medrusrwydd hynod i osod allan ei bethau. Cyfaifyddir ag and un sydd yn athraw y bobl, tra nad yw " yn athraw- aidd"—"apttoteach." Traethant ymadroddion synwyrlawn a da, eithr heb aUu cyrhaedd eu gwrandaM^wyr ; ie, y pwlpud a'r pew cyn belled â'r pegynau y naill oddi- wrth y llali. Hona yr apostoí fod yn xhaid i'r esgob fod yn athrawaidd ; ac wrth weled agwedd cynnuííeidfa dan ambeíl i bregeth dda fyddo yn cael ei merthyru gan draddodwr gwael, nid ydym yn synu fod yr Ysbryd Glan wedi gosod hyn yn gy- mhwysder anhebgorol i weinidogaeth y gair. Yr oedd J. E. yn bregethwr effeithiol ac yn draddodwr argyhoeddiadol iawn. Gwnai i'w wrandawwyr deimlo—yn neillduol fe% pan yn nghanolddydd ei nerth—ei fod yn siarad â hwy am bethau oeddynt o'r pwys mwyaf iddynt hwy. Y pryd hyny nis gallasent lai nâ dal ar y pethau a leferid ganddo. Trem ei lygad a dreiddiai i eigion eu calonau ; argraff ei ddifrifoledd a or- doai bob meddwl âsobrwydd fel dydd y farn ; dwysedd ei deimladau angerddol a wefreiddiai y torfeydd a ymdyrent i wrando arno. Yr oedd yn adwaen meddyl- àdrych da, tarawiadol, cryf; ac yn gallu ei osod allan yn ei gyflawn faint. Safai 25