Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMEB. Rhif. 523.] EBRILL, 1859. [Ctf. XLII, NODION BYWGMFFIADOL AM Y DIWEDBAE BAECE JOHN EDWAEDS, (Parhad o Tud. 100 ) Rhoisom i'r darllenydd addewid am ddwy ysgrif ar nodweddion gwrthddrych y nod- ion hyn. Fe'n hanrhegwyd <à chynnifer o ysgrifau gan frodyr parchus a charedig— defnydd digonol i wneyd cyfrol go fawr—fel ein gorfodir i ddethol ychydig o lawer, rhag ein harwain i ormod meithder. Rhesir ein sylwadau dan y penau hyn : J. E, yn ei fuchedd—J. E. yn ei waith. Digon i'r ysgrif bresenol fydd arddangos JOHN EDWARDS YN EI FUCHEDD. Nis gellir rhoddi amgen darnau neillduol ydynt yn nodweddu ei fuchedd. Yr oîl o'i fuchedd fyddai yr oíl o'i fywyd a'i arferion ciyddiol dros dymhor hir ei oes. Bydded y darllenydd yn efelychydd y comparative auatomist, sycld yn penderfynu cyfartal- wch maintioli 'a llun y gwrthddrych oddiwrth y darnau gwasgaredig y dichon iddo eu darganfod. 1. Yr oedd J. E. yn ddyn o sirioledd nodedig.—Haul ydoedd a lonai y gymdeithas lle y byddai, gan sirioledd Cristionogol a phur. Yn anfynych iawn y caed ef dan gwmwl. Hyd y nod pan mewn tristwch ei hun, yr ydoedd ynddo gymmaint o'r creíyddwr allai " orfoleddu mewn gorthrymderau," fel nas cyfranai ond ychydigacyn anaml tuag at wneyd i fyny y " shady side." Ysgrifena y Parch. W. Eoberts, Blaenau, fel hyn :—" Yr oecld'ei ymweliad â fy nhy, bob amser yn dymhor o lawen- ydd i bawb, ond yn neillduol i'r plant; rhedent ato g^rda'r awyddfryd mwyaf, gan ddyweyd fod eu heujythr wedi dyfod. Yr oeddynt hwy dan yr argraff ei fod yn ewythr iddynt, oblegyd yr adnabyddiaeth a'r anẁŷldeb o'edd yn bodoli rhyngddo ef a'u taid, yParch. D. Jones, Tongwynlas. Yr oedd y fath duedd siriol yn fy anwyl frawd ymadawedig, fel y rhodclai bob cyfeillach a phob teulu, lle y dygwyddai fod, yn fflam o gysur a mwynhad, mewn ychydig amser. Yr oedd ei arabedd, ei natur fywiog, ei duedd chwàreuus, a'i deimlàdau serchus a didramgwydd, y fath ag a'i galluogai i wneyd hyn, hyd y nod yn ei hen ddyddiau, yn fwy naturioi nâ neb a ad- waenais." Cyfèirir at y nodVedd yma gan amryw. Ébe'r Parch. J. Pritchard,— " Gwr o dymìier ysgafn, lawen, chwareuus dros ben, oedd Mr. Edwards, gyda ei gyfeillion calon. " Ýr oedcl llawer o wahaniaeth rhyngddo, yn hyn, a'i gydoeswr, Mr. John Thomas, Llanrwst ; er nad oedcl neb yn med'dwl y brawd anwyl diweddaf fym- ryn llaiàewn duwioldeb nag yntau." A'r Parch. Daniel Jones a ofyn, "Pwya'i clywodd ef yn achwyn am amgylchiadau a'i cyfarfyddent 1 Na, gadael i ereill eu gweled y byddai ef, ac edrych yn siriol." Tra yr ydoedd bob amser yn siriol, ac yn sirioli pob cwmpeini Ue y byddai, nid °edd un amser yn croesi llinell gweddeidd-dra crefyddol. Ymddygai yn wastad niewn modd teilwng o gyfrifoldeb y Cristion, ac o urddas a phwys y weinidogaeth.