Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMEE. Rhif. 520.] IONAWR, 1859. [Cyf. XLII. BYWGRAFFIAD ME. P. JONES, NANTYGAREG, GYNT O LWYNCUS. Yn un o'r Ser diweddaf, darfu i ni grybwyll y ffaith am farwolaeth Mr. Jones, gan addaw, os caem fyw, gwneyd ychydig o gofiant iddo. Wele ni yn awr, trwy rad Duw, yn cyflawni ein haddewid. Ganwyd Mr. Jones Chwef. 20, 1775, yn Castellpren (Woodcastle), ffermdy yn agos i'r Bontnewydd, swydd Faesyfed. Enwau ei dad a'i fam oeddynt John a Margaret Jones. Yr oedd ei fam yn grefyddol; ond ymddengys nad oedd ei dad hyd nes ychydig amser cyn ei farw. Bu iddynt ddau o blant, sef 4$. Jones a John Jones, yr hwn sydd yn byw yn bresenol yn Týnllidiart, yn agos 1 Lanfairmuallt. Bufarw Margaret Jones yn dra buan, a chladdwyd hi yn y Bontnewydd ; ac nid hir y bu Mr. Jones (tad gwrthddrych ein cofiant) cyn' priodi eüwaith â dynes o'r gymmydogaeth, nid yw yr ysgrifenydd yn gwybod ei henw. Bu iddynt hwy dra- chefn wyth o blant, aniryw o ba rai sydd yn aros hyd yr awr hon, ac ereill o honynt wedi meirw. Dau o'r wyth hyn (a chwaer a brawd o'r un dad a gwrthddrych ein cofiant) oedd Mrs. Jones, gwraig yr enwog Jones, o'r Drefnewydd, gynt; a Mr. *D. Jones, Tymawr, gynt, yr hwn oedd yn ddyn galluog ei feddwl, ëang ei wybodaeth, mawr ei fiÿdd, a llawn o rinweddau ; ac a fu yn ddiacon ffyddlawn, gofalus, a selog, am flynyddau yn y Bontnewydd. Gresyn na fuasai Mr. Jarman, neu rywun arall, yn dyweyd gair am dano. Yr henaf o'r plant oll oedd Mr. P. Jones, Llwyncus. Nid ydvm yn gwybod ond ychydig o helynt boreu ei fywyd. Ymddengys na chafodd ddim manteision dysg a gwybodaeth ; ond er hyny, trwy ymdrech a llafur daeth i feddu ychydig o bob un or ddau. Bu rai blynyddau yn ysgrifenydd y gymmanfa—amryw flynyddau yn agent dros y Fibl Gymdeithas Frytanaidd a Thramor, ac yn gofrestrydd y genedig- aethau, marwolaethau, a'r priodasau, hyd ei farw. Nis gallasai wneyd hyn heb ryw ychydig o ddysg a gwybodaeth; a daeth i feddu hyny yn gyfanffwbl trwy ei lafur personol ei hun. Yn y flwyddyn 1796, pan yn 21 oed, ymunodd mewn priodas â merch ieuanc yn nghymmydogaeth Llangammarch, a daethant i fyw i Lwyncus. Yn mhen tua thair mlynedd wedi hyn, bu hi farw, a chladdwyd hi yn y Bontnewydd. Nid hir y bu Mr. Jones cyn pnodi drachefn ag wyres y Parch. Rees Jones, Trallwm, hen weinidog Tantycelyn, yr hon sydd yn fyw etto, ac wedi ei gadael i alaru ei cholled ar ei oL Yn yr amser hwn, pan yn 24 oed, canfu Mr. Jones ei sefyllfa druenus fel pechadur, a tlieimlodd yn ei enaid ddylanwad mawr Ysbryd Duw, a nerthoedd y byd a ddaw, ac ymunodd â chrefydd yr Oena laddwyd, a bedyddiwyd ef Awst 24, 1799, yn y .Bontnewydd, he yr enniUodd yn fuan iddo ei hun barch mawr vn mlilith y brodyr ar chwxorydd ; a chanfuwyd ynddo bob cymhwysder i lenwi y sŵydd ddiaconaìdd ; ac yn y flwyddyn 1813, ar y 13 o Chwefror, ordeiniwyd ef i'r swydd bwysig hon, a pharhaodd ì iod yn ddefnyddiol ynddi hyd ei farwolaeth.