Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. Rhif. 363.] RHAGFYR, 1845. [Cyf. XXVIII. PENBOETHNI. EFALLAI y darllenir y sylwadau canlynol yn fwy raanwl, acy rhoddir iddynt ystyr- iaeth well, yn y dyddiau presennol nag a wnaethid er ys blynyddau yn ol, o herwydd fod yr eilun, yn erbyn pa un yr ergydiant, yn llai ei fri yn awr nag yn y canrifoedd a aethant lieibio. Y mae mor wir â gwir ei hun fod pen- boethni yn aros i raddau etto ; ac ymdrechir ei nodi yn y manau y llochesa, yn gystal â rhoddi rhai cyfarwyddiadau, i'r dyben o arwain medd- yliau y cyhoedd i ymwadu ag ef yn ei wisgoedd personol, cyhoeddus, gwladol a chrefyddol, yn mha rai y gesid efe ei hun allan yn ein plith ni yn yr oes hon. Ac os dichon i ryw un weled ei eilun anwyl yn cael ei ddynoethi i raddau gormodol, bydded i'r cyfryw berson ar y cyf- amser gadw mewn cof y goddef pob egwyddor, arfer, a gweithred dda eu gosod allan yn y gol- euni tanbeidiaf; a pha fwyaf goleu yr ym- ddangosant hwy, cadarnach a sicrach fyth ydynt. Anghenrheidiol yw gosod allan moramlwg ag y gellir yn nechreuad y sylwadau hyn pa beth yw penboethni; neu, mewn geiriau ereill, yn mha beth y mae penboethni yn gynnwys- edig. Y mae y darllenydd wedi clywed droion ar ol troion am feddyliau rhyfedd a rhyfedd iawn mewn rhai dynion ; a dywedir am bryd- yddion afiachus, fod meddyliau gweigion, pen- boeth, a gwjlltion iawn yn dyfod i'w hymen- yddiau yn fynych ; ac nid oes eisieu rhyfeddu o herwydd hyny, pan ddeallir nad yw pawb o'r llwyth hwn yn rheoli eu cyfansoddiadau wrth reswm a bam, ac yn flrwyno eu hawydd i dreiddio i eithafion ffolineb, tywyllwch, gwylltineb, a phenboethrwydd. Y mae pen- boethni i'w adnabod oddiwrth amryw weith- 'redoedd ; ac y mae crynhoad o'r un elfenau bob amser yn ei gyfansoddi. Penboethni yw brwdfrydedd dros unrhyw beth yn meddwl rhyw ddyn nad yw yn deall beth sydd ganddo mewn llaw ; ac fel y cyfryw, yn ganlynol, sydd yri'analluog, o herwydd diffyg meẁn rhesymau 46 gwirioneddol,amethiant raewn profion nerthol, i argyhoeddi neb pwy bynag i sefyìl oddiar seiliau cedyrn yn mhlaid yr un achos ag ef. Y mae penboethni yn sefyll ar sail anwybod- aeth ; a phan helaethir cylch gwybodaeth dyn, y mae ei benboethni, a'r holl arferion cyssyllt- iedig ag ef, yn cilio ymaith yn naturiol. Dyn- ion ydynt yn barod i gofleidio unrhyw beth, bydded newydd neu hen, ar yr olwg gyntaf arno, heb ei ddeall a'i adnabod yn drylwyr, ac yn hollol analluog i brofi pa un ai drwg ai da ydyw ; ac, o ganljmiad, nas gallant wybod pa un ai niweidiol ynte adeiladol ydyw yn ei ddy- lanwadau, yn ei weithrediad, ac yn ei ganlyn- iadau i gymdeithas ; ac yn frwdfrydig tu hwnt i derfynau drosto, a elwir, gyda phriodoldeb neillduol, yn ddynion penboeth. Y mae penboethni yn niweidiol iawn i'r byd, yn neillduol felly gan ei fod yn wrth- glawdd rhwystrol i ddiwygiad a chynnydd pob dosparth o ddynion sydd yn byw dan ei lywod- raeth ragfarnllyd. Y mae yn niweidiol i'r byd, ac yn rhwystr anorfod yn ffordd pob gwelliant rhesymol a philosophyddol, yn gymmáint a'i fod yn Uoches ac yn amddiffynfa i hen arferion anfoesol—i hen olygiadau cyfeiliornus—i hen ragfarnau tywyll—ac i hen weithredoedd an« weddaidd ac afresymol. Na fydded i'r dar- llenydd, yn fyrbwyll ac ar frys, feddwl wrth hyn ein bod yn ystyried pob pethau hen,—pob pethau a fu yn yr oesoedd gynt, fel yn bethau ffol a niweidiol;—yn mhell oddiwrth hyny; eithrgyda phob parodrwydd, addefwn mewn geiriau teg, o waelod calon gymmedrol, fod pob peth oedd wir, cadarn, a rhesymol yn yr oesoedd a aethant heibio, oll yn sefyll ar yr nn seiliau, ac yn cael eu cadarnhau gyda'r un profion grymus y dydd heddyw ag erioed, gan nad yw treigliad blynyddau, gwabaniaeth oea- au, na chyfnewidiad amser, yn gwneuthur un gwahaniaeth yn ngwerth gwirionedd, cadernid, a rheswm. Eithr, ar yr un pryd, y mae i'r darllenydd gyflawn roeaaw i ddy wedyd ein bod