Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. Rhif. 362.] TACHWEDD, 1845. [Cyf. XXVII. EGLWYS CRIST-PA BETH YW? [PARHAD O'R RHIFYN DIWBDDAF.] XI7"EDI dyfod o hyd, yn y Rhifyn olaf o'r ** Seren, i'r barnwr priodol, a'r gyfraith uniawn, yn y ddadl hon, yr ydwyf yn awr yn myned at y pen olaf, sef,— III. Chwilio i'r penderfyniad y deua y barnwr hwn iddo, trwy gynnorthwy y safon anfiaeledig a grybwyllwyd. " Eglwys Crist—pa beth yw ?" I'r dyben o gael ateb cywir i'r gofyniad, rhaid i Reswm edrych i'r Bibl. Y gair ecclesia, a gyfieithir "eglwys," a arwydda, yn llythyrenol, gym- deithas neu gynnulleidfa,—cymmanfa,—ac ar- wydda hefyd fod y gynnulleidfa hon wedi ei galw allan, neu ei 'gwysio yn nghyd. Ystyr gyffredin y gair yn hanesyddiaeth wladol Groeg, yw cymdeithasfa gydymgynghorawl boblogaidd Athen. Ei ystyr gyffredin yn y Testament Newydd ac hanesiaeth eglwysig, yw cymdeithas grefyddol,—cydymgynnulliad neu gynnulleidfa o addolwyr. Ond tra mai hwn yw ystyr gyffredin y gair" eglwys," y mae iddo amryw gymhwysiadau penodol, y rhai a ellir eu dynodi fel y canlyna:—1. Cymhwysir y gair at gymdeithas neillduol mewn un Ile,— Rhuf. 16, 5,—"Anerchwch hefyd jt eglwys sydd yu eu tŷ hwy." "2. At yr amrywiol eglwysi mewn dosparth o wlad,—1 Cor. 16,19, '—'I Y mae eglwysi Asia yn eich anerch chwi." 3. At yr holl gydgynnulliad o gredinwyr, y rhai a fodolant yma yn awr, a'r rhai a breswyl- iant yma yn ol llaw,—Matth. 16,18,—" Ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys." 4. Atyr holl gredinwyr ag ydynt yn byw ar yr un am- ser yn y byd hwn,—Gal. 1,13,—" I mi allan o fesur erlid eglwys Dduw." 5. At yr holl gred- mwyr, yn gystal y rhai ag ydynt yn awr yn y nef, â'r rhai ar y ddaear,—Heb. 12,23,—" I gymraanfe a chynnulleidfa y rhai cyntaf-aned- ig," &c. 6. Gellir hefyd ei gjmihwyso yn hriodol at y gymdeithasfe fewr yn y dydd olaf, wedi i'r byd hwn roddi i fyny ei holl drigolion, j 41 a chanlynwyr yr Oen yn ffurfio un gynnulleidfa ogoneddus oddiamgylch ei orsedd Ef. Y chwiliad presennol sydd yn ymwneyd â phedwerydd cymhwysiad y gair, sef yr holl gorff o ganlynwyr Crist, fel y maent yn awr yn bodoli yn y byd. Trwy ba nodau y mae y gymdeithas hon i gael ei gwahaniaethu ? Cyd- gynnulliad galwedig ydyw; gan hyny rhaid i ni edrych yn benaf at yr hyn sydd wedi ei galw,—y gwys trwy bauny mae ei liaelodau yn cael eu galw aüan^ Yr bglwys sydd gyd- gorffoliad gweledig o Gristionogaeth, yn undeb ei hysbryd, ac amrywiaeth el hvmddangosiad. Nid yw yr offeiriaid, nac unrhyw nifer o'i swyddogion, yn cyfensoddi yr eglwys; nid yw y rhai byny ond yn unig ei goruchwylwyr. Eglwys Iesu Grist ywyr holl gydgy8sylltiad o'r rbai hyny ag ydynt yn caru ac yn dymuno efelychu yr Iachawdwr ; a'r rhai a gymdeithasant yn eu gwahanol ddull- iau i broffesu yn gj'hoeddus yr egwyddorion sylfeenol hyny. Y reol ddirgel a Ueiaf ydyw, —y bummed freniniaeth ysbrydol, trwy yr hon y mae Iesu Grist, fel haul cyfiawnder, yn cadw calonau ei ganlynwyr (trwy gyd-dyniad dirgel) ynghjdch gwirioneddol " dduwioldeb ac onest- rwydd." Rhydd-saerniaeth ysbrydol ydyw, yn amrywio yn ei seremoniau bychain, tra y mae yr ystafell dufewnol, y prií ddirgelion, yn mhob achos yr un. Corff ysbrydol unedig yw. • Mae eglwys Crist i gael ei hadnabod naill ai trwy unffurfiaeth allanol, neu trwy gydwedd- iad yn ei dyben cyffredinol. Mae ganddi yn nodweddiadau iddi, naill ai nodau allanol pen- odol, neu gymmeriad tufewnol penodol,—rhaid ei bod yn cael ei hadnabod trwy nnffurfiaeth tufewnol neu allanol; trwy fod ý prif ddyben niewn golwg yt un, er yr ymgeisir ei gyrhaedd ^rwy foddion gwahanol, neu trwy unffurfiaeth mewn dyscyblaeth, erthyglau, a defodau. Ond os edrychwn i'r safon addefedig, ni fyddwn yn