Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. Rhif. 366.] MEHEFIN, 1845. [Cyf. XXVIII. COFIANT MR. J. W. DAYIES, PEITHYN. " Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig." /~\S yw duwioldeb un yn ei wneyd yn deil- ^-' wng o goffadwriaeth, y roae yn sicr fod gwrthddrych ein Cofiant presennol yn eithaf teilwng. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1803, a mab ydoedd i Mr. David Davies, Trelech. Nid wyf fi yn*gwybod dim am dano yn mhellach yn ol nâ dechreu ei oes grefyddol; ond o hyny hyd derfyn ei yrfa, nid oes neb yn gwybod yn well nâ'r ysgrifenydd. Bedyddiwyd ef a minnau, ynghyd ag un arall, yn Aberduar, gan y Parch. Mr. Griffiths, Cwmifor, yn amser methiant y Parchedig Timothy Thomas, j-n y flwyddyn 1829. Yr oedd yn Fedyddiwr selog, ac yr oedd egni diflin ynddo am ddilyn ôl ei Waredwr bendigedig yn ei holl siamplau, hyd y nod yn y dyfrllyd fedd ; ac fe t|äaeth yn fuan yn ddef- nyddiol iawn yn yr eglwys. Yn mhen ychydig flynyddau fe'i hordeiniwyd yn ddiacon, gan y Parch. H. W. Jones, Caerfyrddin, a'r Parch. John Williams, y gweinidog preseunol. Yr oedd yn selog a diwyd, ac yn enwog iawn am gadw ei gydgynnulliad. Dygwyddodd iddo ryw Sabboth fyned i wrando i Eydybont, (tỳ cyfarfod yr Annibynwyr,) ac yr oedd Mr. Evans, Penygraig, yn pregethu yno ar y ddy- ledswydd o gadw ein cydgynnulliad ; ac wedi iddo ddychwelyd adref, dywedodd, " Mi gefais fy mhregethu allan o'r addoldy heddyw gan Mr. Evans." Hefyd, yr oedd mor fanwl yn nghylch cadw'r Sabboth, fel yr oedd yn well ganddo adael ei wasanaethyddion i fyned i ym- weled â'u rhieni ar ddydd Sadwrn, nag iddynt fod yn euog o dòri y Sabboth trwy wneuthur hyny. Ni welwyd ef un amser yn dyfod adref o ffair na marchnad wedi'r nos. Yr oedd yn llafurus iawn yngliylch cynghori ei deulu ; ac nid dywedyd wrthynt, " Gwnewch fel yr wyf yn dweyd," fel llawer, yr oedd efe ; ond gall- asai ddywedyd yn eithaf priodol, " Gwnewch 21 fel yr wyf fi yn gwneuthur fy hunan." Hefyd, yr oedd mor fanwl ynghylch cadw ei ddyled- swydd deuluaidd, fel nad oedd un rhwystr yn ormod ganddo i dòri trwyddo, er mwyn cadw ei arfer. Clywais ef yn dywedyd lawergwaith, os byddai rhyw beth y boreu am ei rwystro i ddarllen, " Cewch chwi weled y bydd mwy o rwystr heno lawer, os nathorwn drosben hwn." Beth bynag a ymaflai ei law ynddo i'w wneu- thur, efe a'i gwnelai â'i holl egni, fel dyn fyddai yn ystyried mai byr oedd ei amser ar y ddaear. Fe weddai i ninnau oll ystyried nad oes yma ddim llawer o amser i ni fod jti segur; oblegid yr ydym yn tynu yn gyflyni tua'r bedd, lle nid oes na gwaith na dychymmyg. Fe ddechreuodd ei glefyd yn araf iawn, trwy ychydig o dditfyg anadl, ac yr oedd jti rhodio allan bob dydd; ond yn mhen pythefnos cyn ei farwolaeth, oddeutu dau o'r gloch yn y pryd- nawn, tarawwyd ef gan y parlys, nes yr effeith- iodd ar ei wyneb ; a phan ganfu ei wraig ef, hi a gydiodd ynddo gyda gwylltineb,a dywedodd, "O, John bach anwyl, a ydych yn marw?" Ediychodd yntau arni jtì siriol iawn, a dywed- odd, " O, Mary, peidiwch a gwylltu, na gofidio dim o'm plegid i; y mae fy nhỳ i ary graig, ac mi a wn i bwy y credais," &c. Gofynodd hithau iddo, os oedd am iddi anfbn am ei gjin- mydog i weddio drosto. Atebodd yntau, " Nid oes dim eisieu; nid yn awr y mae dechreu gweddio,—y mae hyny yn mlaen genyf fi." 0, fy nghyd-deithwyr tua'r byd tragywyddol, bydded i ninnau ei efelychu, trwy ofalu am fod y peth goreu jti mlaen gyda ni. Yr oedd, trwy ei holl gjTstudd, jti amj-neddgar iawn, ac yn diolch i'w Dduw am ei fod yn ei gystuddio mor esmwyth ac ysgafh. Y boreu diweddaf y bu byw, sef y 4ydd o Tonawr, yn y flwyddyn 1840, galwodd y gwas ato i ymj'l y gwely, a dywedodd wrtho, " Mae