Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. Rhif. 356.] MAI, 1845. [Cyp. XXVIII. SERYDDIAETH. GAN Y PARCH. JAMES SPENCER, LLANELLI. LLYTHYR II. MEWN llythyr blaenorol a ymddangosodd yn y Seren, myfi a ddechreuais gym- meryd cip-drem ar gynnydd Seryddiaeth fel celfyddyd ; a chan na wnaethym yn hwnw ond yn unig crybwyll y byth-gofiadwy Syr Isaac Newton, af yn mlaen gan ddechreu gyda rhoddi ychydig o hanes olrheiniadau a dad- guddiadau penigamp a dyddorawl yr Athron- ydd dywededig. Y mae darluniadau Newton o'r cyfanfyd, a'r cyfreithiau wrth ba rai y trefnir ac y rheoleiddir ef, wedi eu seilio ar egwyddor- ion mwyaf diymwad rheswm a chelfyddyd, ac yn dangos ger ein gwydd weithredoedd y Cre- awdwr yn eu symledd a'u gogoniantgwreiddiol, fel nad oes eisieu i ni yn ein hymchwiliadau am wybodaeth o natur wibio ar hyd ffyrdd dyryslyd mympwy a dychymmyg yr henafiaid. Rhoddi hanes cyflawn a threfnus ol holl ol- rheiniadau sydd beth na oddefa ein terfynau ar hy^^^bryd, ac na pherthj'na i'r pwynt dan ys- tyreRh ; ond y mae rhai o honynt yn dal y fath agos gyssylltiad â'r hyn a elwir Serydd- iaeth Grefftwrol (Mechanical Astronomy); h. y., â symudiadau a threfniadau y cyrff nefol, fel y galwant am ychydig o fanylrwydd oddi- wrthyf. Yn y flwyddyn 1666, yr hon oedd y bedwaredd flwyddyn ar hugain o oedran New- ton, dygwyddodd ei fod un diwrnod yneistedd mewn perllan, ac yn dwys fyfyrio ar y grym dirgelaidd ag sydd yn rheoleiddio mor rhyfedd- ol ymddangosiadau gwyneb y ddaear ; ac fel yr oedd efe yn sj'n-fyfyrio ar hyn, efe a webdd afal yn syrthio oddiar un o'r prenau: yr am- gylchiad hwn, pa nn sydd mor gyffredin fel na chynnyrcha un ystyriaeth yn yr anllythyrenog amgen nâ'i dueddu i feddwl fod yr hwn a ym- chwilìa i'r achos o hono yn ynfyd a gorphwyll- us, a agorodd faes newydd i fyfyrdodau yr ath- ronydd dan sylw, ac a fu yn achlysur iddo, er symled oedd, ì gael allan y dadguddiadau mwy- afpwysigacarutbcol Arweiniwyd «i feddwl 17 ganddo i fyfyrio ar syrthiad gwrthddrychau, ac i sylwi ar y duedd ag sydd mewn pob dernyn o ddefnydd i ddynesu at, neu i gael ei ddys- cyrchu gan ddefnydd arall. Mae y duedd hon o gynddyscyrchiad yn egwyddor ag sydd yn treiddo trwy bob peth defnyddiol ; yr un, er yn anweledig, oddieithr yn ei heffeithiau, sydd bob amser gyda ni yn achos i fàn ronynau ymlynu wrth eu gilydd, ac ymffurfio yn dalpiau caled- ion—i'r talpiau hjmy argymmeryd, mewn llawer o enghreifftiau, ddullweddau crynion—i gyrff bychain a mawrion syrthio ar y ddaear, a bod yn Befydlog arni, ac yn un o'r achosion ag sydd yn cadw y cyrff nefol yn eu llwybrau priodol. Gallwn, mewn amrai ffyrdd, gael arddangosiad o'i weithrediadau. Dau ddyferyn o'r gwlith a groga wrth y ddraenen, y glaswelltyn, neu ryw beth arall, os dygir hwy yn ddigon agos at eu gilydd a ddyscyrchant eu gilydd, ac a ymffurf- iant yn un dyferyn mor grwn ag o'r blaen. Os gosodwn ddau ddernyn o gorcyn i nofio yn gryn bell oddiwrth eu gilydd, bydd y rhwystr yn rhy gryf iddynt i ddyscyrchu eu gilydd, ac felly ni chyfarfyddant; ond os gosodwn hwy yn agos idd eu gilydd, cawn eu gweled yn dechreu dylanwadu ar eu gilydd, ac yn ddiattreg ym- ruthrant i gysswllt â'u gilydd, ac felly yr aros- ant. Os gollyngwn gareg o'n llaw, syrthia yn unionsyth Vr ddaear ; a phe byddai lle, ac heb ddim attalfa, syrthiai at ganolbwynt y ddaear. Os gosodwn gareg ar fwrdd, neu ryw ddefnydd caled arall, gwasgir ef ganddi gyda'r un grym ag a berai iddi pe gadawid hi iddi ei hunan i syrthio i'r llawr. Os crogwn unrhyw ddef- nydd wrth linyn, y mae y grym ag sydd yn ei wasgu i'r llawr yn estyn y llinyn, ac os na bydd yn ddigon cryf, efe a'i tỳr. Fel hyn y mae yr egwyddor hon trwy holl natur yn gyff- redinol, uc-yn rhoddi bywyd a sj-mudiad i fod- au difywyd, gan wahaniaethu yn ea grym mewn cyfartaledd i faintiolaeth defnyddiau a'u