Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. Rhif. 353.] CHWEFROR, 1845. [Cyf. XXVIII. YSBRYD DADLEUAETH. PELL ydym oddiwrth feddwl fod neb o arferion dynoliaeth yn ei chyflwr presen- nol yn dda, o herwydd eu bod yn cael eu har- feryd ; ac mor bell â hyny yr ydym oddiwrth ystyried fod yn gyfiawn condemnio unrhyw arferiad o herwydd ei fod dan ryw amgylchiad- au neillduol yn arwain i ganlyniadau anny- munol. Y mae canlyniadau arferion bodau rhesymol ac anfarwol yn cyrhaedd yn rhy bell, ac yn meddu cymmeriad rhy gymhlethedig, i'n golygon byr ac anmherffaith ni yn ein sefyllfa bresen- nol i aflu canfod digon o honynt i benderfynu cymmeriad yr arferion wrthynt; ac efallai nad yn mysg y canlyniadau, ond mai yn mhlith egwyddorion a pherthynasau moesoldeb y gor- wedd y safon wrth yr hon y dylid profi cym- meriad holl fodau rhesymol. Nid oes unrhyw arferiad yn cael mwy o gam nâ'r un o ymddadlu, nac unrhy w gam yn debyg o efFeithio yn fwy niweidiol ar ysbryd ymchwilio am wirionedd, nâ'r hwn a amcenir gan y rhai a gondemniant y cyfryw arferiad. Gwir yw fod yr arferiad o gamsynied cabledd- au personol am bynciau defnyddiol, a sothach disail am wirionedd diledryw, a -gefnogir gan y sawl ynt mor ddiofal am gywirdeb yr hyn a gyrhaeddant ag ydynt ofalus am ei fod, jti ol hyd ei gam, yn cyrhaedd yn faleisus tuag at ryw gymmeriadau gwell ná hwy eu hunain. Gwir yw fod hyn yn ein harwain i feddwl fod cymmeriad yr oes hon yn anaddas i jTndrin â phynciau o bwys, ac mai gwaith blaenaf ei deiliaid yw dysgu na chablont. Ond wrth dderchafu fy Uygaid tuag at Seren Gomer, gwelaf hi yn troi mewn cylch rhy uchel i ryw darth fel yna i aliu cyrhaedd yn agos ati: y mae hi wedi bod jti annog o'r dechreu am an- mhleidgarwch, chwaeth, a thalent; ac wedi cynnal i fyny wir ysbryd dadleuaeth tu hwnt i un cyhoeddiad o'i bath ; a gobeithiaf y bydd i'r sylwadau hyn, trwy gael lle yn ei thudalen- an ysplenydd, roddi j'sgogiad newydd yn ei gohebwyr dysgedig tuag at ddyfnion bynciau llenyddiaeth a chrefydd. Y mae rhai dynion yn dangos ysbryd casach wrth geisio dadleu yn erbyn dadleuaeth, nag a ddangosir trwy yr arferiad a gondemniant ; a phe byddai eu rhesymau dros eu gwrthwyneb- iad ond cael eu hamlygu, buasent eu hunain yn ddigon o reswm dros arferyd yr hyn yr amcenir hwynt ìdd eì ddifodi. Rhai a gondemnidnt ddadleuaeth o herwydd nad ydynt hwy eu hunain yn feddiannol ar y cymhwysderjiu gofynol i'r gwaith, yr hyn a brofant yn ddigon eglur trwy eu lledchwith- dod, a'u diflyg meddiant o tywodraeth eu tym- herau wrth geisio ei wrthwynebu. Ereill, o herwydd y byddai i wir ddadlenaeth ddwyn i'r goleu egwyddorion a theithi na fyddent yn debj'g o daflu lliw ffafFriol ar eu cymmeriad dauddyblyg hwy, a osodant eu gteynéb yn er- byn yr arferiad hwn. Ond yr wrtheb fwyaf rymus a mwyafcyff- redin i ddadleuaeth yw, ei fod yn cael ei ddef- nj'ddio i ddybenion maleisddrwg, er diraddio a chablu personau, jti lle i chwilio allan wir- ionedd ac amddiffyn iawnderau. Y mae hwn yn gofyn ychj-dig o'n sylw.— Caniatâwn, yn y lle blaenaf, fod y gosodiad yna yn gywir, yr hwn y mae gormod o ffeith- iau, ysywaeth, yn ein rhwymo i addef ei fod i raddau rhy bell jti wirionedd. Ond a ydynt y canlyniadau yna yn ddigon i gondemnio yr arferiad sydd yn eu hachlysuru ? Sonia Paul am ryw rai yn ymosod ar y gwaith o bregethu Crist o genfigen, gan feddwl dwyn mwy o flin- der idd ei rwymau ef; ond a ydyw yr amcan drwg yna yn condemnio yr arferiad obregethu? neu a ydyw fod pregethiad yr efengyl yn arogl marwolaeth i farwolaeth i'r rhai a'i diystyrent, yn profi mai gwaith drwg ydoedd pregethu ? Cymmered gwrthwynebwyr dadleuaeth bwyll, rhag ofn iddynt gondemnio peth mwy, a pheth a garent gjTnmeradwyo. Y mae camddefnj'dd o'r arferion goreu yn beth mor gj-ffredin yn