Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

8EMEN GOJMEJEL bhif. 94.] GORPHENHAF, 1823. [cyf. vi. TRAETHAWD AR Y SABBATH. GrAIR Hebraeg yw Sabbath, yn ar- wyddocau gorphwysfa, ac yn cael ei briodoli yn neillduol at y seithfed dydd o'r wythnos, ar ba un yr oedd y Sab- bath i gael ei gadw o Adda hyd at adgyfodiad Crist; ond dan oruchwyl- iaeth y cyfaraod newydd, yn cael ei briodoli at y dydd cyntaf o'r wythnos, neu ddydd yr Arglwydd, ar ba un y cedwir y Sabbath efengylaidd, neu Gristionogol. 1. Er mwyn argrafFn ar feddwl dyn, fawredd y ddyledswydd o santeiddio y Sabbath, mae yn ymddangos bod Duw yn nghreadigaeth y byd, wedi cyflawni y gwaith gogoneddus hwnw yn y fath fodd, ag sydd nid yn unig yndangos tragywyddol allu a Duwdod yr hwn a'i gwnaeth, ond hefyd yn dangos anfeidrol ddarostyngiad ynddo, yn ei wneuthur mewn chwe' diwrnod, ac yn gorphwys ar y seithfed dydd. " Felly y gorphenwyd y nefoedd a'r ddaear a'i holl lu hwynt. Ac ar y seithfcd dydd y gorphenodd Duw ei waith yr hwn a wnaethai efe, ac a or- phwysodd ary seithfed dydd oddiwrth ei holl waith yr hwn a wnaethai efe. A Duw a fendigodd y seitlifed dydd ac a'i santeiddiodd ef» oblegid ynddo y gorphwysasai oddiwrth ei holl waith yr hwn a greasai Duw i'w wnenthur." Gen. ii. 1,2, 3. Yu yr ymadroddion hyn y mae anfeidroldeb gallu, ac an- feidroldeb darostyngiad y Iehofah i'w ganfod; canys nid ydym i feddwl ei | CYFLYFR VI. I bod yn angenrheidiol i'r Duw hollallu- og gymeryd chwe' diwrnod i greu nef- oedd a daear, a'u lluoedd hwynt, oble- gid buasai mor hawdd i'r hwn a ddy- wedodd " bydded goleuni, a goleuni a fu," eu gwneuthur mewn un dydd, un awr, neu ar darawiad amrant; ac nid ydym i feddwl chwaith bod un blinder ar y Creawdwr mawr wrth wneyd y gwaith, ac am hyny nid oedd arno eisieu gorphwyso ond i'r dyben i ddan- gos ei ddyledswydd i ddyn, ac er anghraiflft iddo efe a gyraerth chwe* diwrnod i'w gwneuthur, ynay dyWed- ir, " Ac ar y seithfed dydd y gor- phwysodd Duw oddiwrth ei waith yr hwn a wnaethai efe." Nid oes son yn y Bibl bod Duw wedi rhoddi gorchymyn i ddyn, i neill- duo un diwrnod o saith i'w addoli ef, ac i orphwys oddiwrth ei lafur bydol, hyd nes y derbyniodd Moses y gorch- ymynion ar fynydd Sinai. Ond y mae yn amlwg ddigon oddiwrth y modd y creodd Duw y byd, a'i orphwysiad ar y seithfed dydd, bod Adda wedi cael hysbysiad o'i ewyllys mewn pertlrynas i gadw y Sabbath. Yr oedd yr hen Bartriarch Noa yn gwybod am wyth- nosau o saith niwrnod, pan yn gyru y gigfràn a'r golomen allan o'r arch. Mae yr un peth hefyd yn cael ei brofi oddiwrth yr hen hanesyddiaeth- au sydd genym am y byd cenedlig, bod holl genedlaethau y ddaear y rhai nad oeddynt, ac nad oedd modd iddynt 2 C