Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SBÄE'N GOMER RHIF. 92.] MAI, 1823. [CYF. VI, COFIANT Y DIWEDDAR BAHCH. DAFID WILIAMS, (IWAN). Mr. GOMER,—Darllenais, yn eich rhifyn am Chwefror, (tudal. 60), fer anrheg er cofiant y diweddar Barch. Dafid Wiliams, yr hwna all fod yn fwy adnabyddus i'r rhan fwyaf o ddar- llenyddion Seren Gomer dan yr enw Iwan. Ond anturiaf feddwl y byddai hanes helaetliach am y gwr clodwiw hwn yn dderbyniolgan eichdarllenwyr. Dafid Wiliams oedd fab i Mr. Wiliams, o Benpontbren, yn mhlwyf Llanwnen, Ceredigion; gwr mewn amgylchiadau cysurus, yn meddiannu rhai tyddynau o dir. Ei dad a fu farw yn nghylch ý flwyddyn 1802, a'i fam a ymbriododd á'r Parch. Dafid Dafis, Gweinidog Aberduar. Mr. Wiliams a aeth yn ieuanc dan ofal athraw- iaethol y Parch. D. Dafis, o Gastell Hywel, Ceredigion, ysgol-athraw hy- barch a chlodwiw. mawr ei enw am egwyddori ieuenctyd yn drwyadl yn yr ieithoedd; dan gyfarwyddiad yr hwn y mae llawer o wyr ieuainc bon- eddigeiddiaf Ceredigion wedi derbyn y rhan flaenorol o*u haddysg. Dan ymgeledd y gwr parchus hwn, Mr. Wiliams a fu ddiwyd neillduol i drys- ori pob math o wybodaeth. Yma, yn ddîarwybod i'w athraw, efe a wnaeth ei hun yn hyddysg yn rheolau pryd- yddiaeth Gymraeg, fel y tystia, yn mhlith pethau ereill, yr hyn a ganlyn: -—Mr'. Dafis, pan oedd testyn yr hanes hwn dan ei ôfal, a wnai Englyn o glod t'VFí.TFR VI. i bont Llanwenog, i'r hwn, er mawr syndod i'w feistr, Mr. Wiliams a at- ebodd 5rn gywrain ac yn gelfydd falhyn, " Aed afon fiwenog i Deifi—â'r bont, " A'r ddau bentan tani, " A'r mwynwr, y saer-meini, " A godo'hon gyda hi." Ei ymddygiad yn yr ysgol oedd hy- nod dawel a charuaidd. Darllen a myfyrio yr oedd efe yn mron yn was- tadol; a phan byddai ei gyd-ysgol- heigion yn chwareu ac yn ymddifyru, efc a welid yn rhy w gornel yn ddys- taw wrth ei lyfr. Ei feistr a'i galwai, Y llanc difai. Oddiyma symudodd i Athrofa y Bedyddwyr yn Nghaerodor, lle bu dra diwyd yn myfyrio yr ieith- oedd a duwinyddiaeth, hyd nes gorfu arno, o herwydd dadfeiliad ei iechyd, ddychwelyd yn 'ol i'w wlad enedigol. O ddeutu pura' mlynedd yn ol, ym- briododd â Miss Efnns, merch Mr. J. Efans, o'rDrefach, plwyf Llanwenog, Ceredigion; o hon ganwyd iddo dri o feibion. Yn ol priodi, bu yn cadw ys- gol, gyda llwyddiant mawr, ynNghaer^ fyrddin. Oddiyno daeth groesawiad a galwad arno i fyned i swydd Dyf. naint, i bregethu ac i gadw ysgol; ond y llong yn mha un y moriai efe a'i dy- lwytb, a yrwyd yn ol gan dymhestl aruthr i Abertawy. Hyn a gymerai le yny gwanwyn diweddaf; o hyny allan ei iechyd a aeíh waethwaeth o ddydd i ddydd, hyd nes darfu à'r fucheddhon,