Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. Rhŵ. 348.] MEDI, 1844. [Cyf. XXVII. CREULONDERAU CAETHFASGNACH. ~VT7~RTH weled testun yr ychydig sylwadau * " canlynol, bydd llawer o'n darllenyddion yn barod i ofyn, " Beth, a yw Caethfasgnach yn cael ei ddwyn yn mlaen etto, wedi i ddyn- garwyr Lloegr fyned i gymmaint o draul a thrafferth i'w ddiddymu ?" Ydyw, y mae ; ac ni ddarfydda ychwaith, tra fyddo Caethwasan- aeth yn cael ei gadw i fyny yn Unol Daleith- iau America, y Brazils, Cuba, a llecedd ereill ; ac nid yn unig y mae Caethfasgnach yn cael ei ddwyn yn mlaen yn bresennol, ond enghreifft- iau diweddar a brofant fod llawer mwy o greu- londeb a thrueni yn gydfynedol ag efynawr, na phan oedd y masgnach melldigedig hwn yn cael ei noddi gan y gyfraith, a neb yn ceisio celu eu maeleriaeth mewn cnawd a gwaed dynol ; a'r ystyriaeth o hyn a achosodd i Argl. Palmerston ddwyn y pwnc dan sylw y Senedd Brydeŷriaidd, ar nos Fawrth, 15fed o Orphenaf diweddaî", pryd y traddododd ei Arglwyddiaeth un o'r areithiau mwyaf hywadl, dyngarawl, a thoddedig a welsom erioed ; a chan ei bod yn cynnwys Hawer ag sydd yn werth i fod ar gof a chadw, yr ydym yn cyfleu y darnau mwyaf pen- odol o honi gerbron ein darllenyddion. Y cynnygiad a wnaeth ei Arglwyddiaetb, oedd, " Fod i gyfrifiad gael ei roddi, yn dangos nifer y Negroaid Affricanaidd a drosglwydd- wyd i gyfandir America, ac i"r ynysoedd yn yr India Orllewinol, i'r dyben o'u cadw yn gaeth- ion, o'r flwyddyn 1815 hyd y flwyddyn 1843 ; gan nodi allan y nifer a drosglw^'ddwyd yn mhob blwyddj'n, ac hefyd i ba le y cawsant eu trosglwyddo, mor gywir ag y dichon i'r cyfryw gael ei wneyd, oddiwirtn "ý cyfrifiadau ag ynt yn aẃr yn meddiant Llywodraeth ei Mawr- hydi." Wedi dangos nas gall nifer y caethion a drosglwyddir yn flynyddol i'r ynysoedd ac i gyfendir America, fod yn llai nag o 130,000 i 150,000, ac fe allai fwy o lawer, ei Arglwydd- aeth a aeth yn mlaen fel y canlyna:— " Y faÿi grynswth anferthol o drueni dynol a throseddau arswydus sydd yn gynnwysedig yn y cyfrifìad hwn! Pan fvddom yn edrych ar 33 gyfrifiad cyffredinol, heb ei ddosparthu yn ranau gwahanol, nid yw y meddwl yn du- eddol i sylwi ar haimer y ffeithiau cydfynedol ag ef; ond bydded i ryw ddyn ystyried pa beth yw 150,000 o boblj-—bydded i ryw ddyn ag sydd wedi gweled Uiaws mawr o bobl yn ym- gynnulledig, ddychymmygu gymmaint o le a lanwant,—neu bydded i ryw un ddychymmygu ei fod yn gweled y nifer hwnw o bobl yn ym- gynnulledig ar wastadedd ëang, synai pe dj^f- edid fel yr elent heibio, eu bod yn teithitf yn gyflym i gyfarfod â'u tynged,— fod y corff mawr hwnw o fodau dynol yn myned i gyfar- fod â marwolaeth bjenus a chynamserol, yn mhob modd a dull o boenydiau meddyliol a chorfforol. Eithr pe dywedid wrtho mai nid amgj'lchiad dygwyddiadol yw hwn, a bod yrun ddaear yn cael ei throedio bob blwyddyn gan yr un nifer o fodau dynawl, y rhai a edjychent yn mlaen am jt un dynged alarus, nis gellai lai nag erfyn ar i Dduw dywallt ei felldithion aip awdwyr y creulonderau hyri. Ac y fàth goll- farn a fyddai iddo gyhoeddi uwch benau pawb a allent rwystro i'r fath greiilonderau gymmeryd lîe, ond etto a esgeulasant y moddion sydd gan- ddjmt j-n eu meddiant i gyflawni hyny f< Ond os oes neb yn tybied nad oes ychwaneg o Neg- roaid nâ'r nifer a drosglwyddir yn flynyddol i America a'r jmysoedd cjTnmydqgaethol, yn cael eu haberthu i ariángarwch a chybydd-dod haid o ddynion a alwant eu hunain yn Gristionogion, ond heb fwy o hawl i'r enw nàhi bod wedi er geni mewn gwlad a gyfrifir yn Gristionogol, y maent yn camsynied jti ddirfawr. Cyfrifir, ac yr wyf yn credu fod y cj'frifiad yn agos iawn at y gwirionedd, fod dau Negro ya trengu wedi eu dal, neu ar y fordaith drosodd, am bob un sydd yn cael ei dirio yn yr India Orllewinol ; felly, y mae yn rhaid lliosogi y nifer sydd yn cael eu tirio â thri, yr hyn a wna 450,000, cyn cael nifer cywir y trueiniaid anffodus sydd yn cael eu dyfetha jti flynj'ddol gan y fasgnach felldigedig hon ! Y mae jm ddigon hysbys, nad yw y Negroaid a ddygir yroaith yn gaeth-