Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN.GOMER. Rhif. 347.3 AWST, 1844. [Cyf. XXVII. GWYBODAETH. "^7" MAE yr amser wedì dyfod oddiamgylch ■*• bellach pan y mae pawb dynion yn ddiwyd yn eu hymchwil am wybodaeth lesol a defhydd- iol iY meddwl i'w galluogi ì droi yn ngwahanol gylchoedd cymdeithas fel dynion rhesymol a pharchus, y rhai ydynt yn ymwyhodol mai ar y ddaear y mae cyfleusdra ganddynt i droi mewn «ylch 0 ddefnyddioldeh. Y caddug o dywyll- wch a gysgodai er ys blynyddoedd yn ol dros feddyliau dynion 0 alluoedd cynnwysfawr a chyrhaeddbell, sydd weithian wedi ymneillduo i lefydd mwy anghyfannedd, tra daeth ar ei ol awelon mwy iachus, meddyginiaeth burach, gol- euni dyscleiriach, a thrysorau gwerthfawrocach, er harddu a chyfoethogi ystafell y meddwl, a hyny nid yn unig er elw personol a Ues neill- duol, ond hefyd er daioni,a chysur, a defnydd- ioldeb helaethwych a chyflredinol; canys nid oes unrhyw ddyn nad all ddwyn tystiolaeth gadarnhaol i' ddefnyddioldeb. gwybodaeth yn mhob achos ac yn mhob gradd 0 gymdeithas, oddieithr dynionach 0 feddyliau bychain ac 0 «hwaethoedd na wrteithiwyd erioed, fel nas dysgwylir un cynnyrch gwerthfawr oddiwrth eu maesydd aníFrwythlawn. Yr oedd y dynion a fu o'n blaen yn Uafurio am wybodaeth yn yr oesoedd a aethant heibio, yn byw 0 dan lawer o anfanteiSion y rhai nid ydynt yn dyfod i gyfarfod â ni yn bresennol. Nid oeddynt hwy yn meddu ysgrifau a nod- iadau dysgedig un oes flaenorol i'w cynnorth- wyo a'u galluogi i fyned yn yblaen yn eu hym- drech dirfawr glodadwy, a thrwy hyny gorfu arnynt dori trwy dir hollol newydd, gan adael y canlyniadau i farn fanylgraff eu cydoesolion a dynion dysgedig yn yr oesoedd canlynol, ac y mae ëu penderfyniad diguro yn teilyngu y gan- moliaeth wresocaf, gan ei fod yn argraffu ar Feddyliau dynion yn yr oesoedd canlynol werth cynhenid gwj'bodaeth yn eu golwg hwy. Yr ydym ni yn yr oes hon yn sefyll ar dir uwch o lawernag a wnaeth neb o'n blaen ar y pen hwn. Wrth ddywedyd hyn, na feddylied neb ein bod yn ledfeddwl y derbyniasom ni allu- 29 oedd meddyliol i raddau yn mhellach nâ neb o'n blaen ; ond yn hollol i'r gwrthwyneb ; rhwydd briodolwn ein rhagor fantais i ddiwydrwydd, penderfyniad, a sylw manylgraffy dynion a fu o'n blaen yn sychedu am wybodaeth, ac yn ych- wanegu ein syched ninnau, trwy i ni weled yr hyfrydwch a fwynhasant hwy yn dâl am eu Uafur. Y mae genym eu sylwnodau hwy yn ein cyfârwyddo beunydd, fel ag y mae ein cyf- leusdra ni yn rhagorach i dreiddio yn mlaen er cael allan bethau i'r amlwg nad oeddynt hwy wrth osod y sylfaen i lawryn meddwl yr ad- eiladid arnL Ond yn awr ni a gymmerwn afael cyflawn yn y testun, ac a edrychwn arno yn y dulliau can- 'lynol ;—anwybodaeth — gwybodaeth, ei dech- reuad, ei defhydd, ei thuedd, ei dylanwad ar y meddwl, ei hanghenrheidrwydd anhepgorol, a'i chanlyniadau gogoneddus. Cyflwr 0 anwybodaeth yw y sefyllfa iselaf ag y mae yn ddichonadwy i'r meddwl dynol ddych- ymmyg am dani. Anwybodaeth sy grynhöad cyflawn 0 bob gronyn a wna i fyny annedwydd- wch dyn, gan ei bod yn esgor ar y drygau gwaethaf, ac yn annog y creulonderau echrys- lonaf yn erbyn Duw a dyn. Nid ydyw hanner y byd wedi meddwl erioed yn bwyllog faint y niwed a achosir yn mhob man gan anwybodaeth. Yp ysgrythyr lan a ddyweda, " Bod yr enaid heb wybodaeth nid yw dda.'" Nid oes un dai- oni mewn anwybodaeth, canys y mae yn gyfor- iog o'r niweidiau a'r drygau mwyaf, gan na chyflawnodd neb dynion erioed droseddau a phechodau pan fyddent yn wir wybodus yn nghylch natur, tuedd, ac effeithiau y cyfryw ar yr amser hcmo. Y mae yn wir fod hen chwedl ar hyd y wlad yn dywedyd taw " anwybodaeth yw mammaeth duwToldeb ;" ond y mae ei dwli a'i hanghyssondeb mor eglur, fel na raid profi i'r gwrthwyneb, ac yr ydys yn credu nad oes neb mor hygoel a meddwl y fath beth, canys nid oes mewn anwybodaeth un cysur presen- nol, ac nid oes jrnddi y tuedd leiaf i gyfodi ein gobeithion am amser dyfodol ychwaith.