Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. Rhif. 346.] GORPHENAF, 1844. [Cyf. XXVII. COFIANT MR. REES JONES, (Amnon,) PWLLFFINE, LLANDYSSIL. 1 Aed pridd i'r pridd, y llwch i'r llawr, Hyn ydyw'n tjTiged oll; Ond creder y gwirionedd mawr, Ni syrthiwn ddim ar goll." IOLO MoRGANWG. NID yw yr ysgrifenydd yn meddwl y bydd y Cofiant hwn o un llesâd i'r ymadaw- edig, nac ychwaith yn gwneuthur dim o Am- non yn fwy parchus, a'i» farwolaeth yn fwy galarus i'w gyfeillion lliosog yn Neheubarth Cymru, a llawer man yn Lloegr ;—ei reswm ef wrth ysgrifenu ychydìg linellau mewn coff- adwriaeth am dano ydyw, cael ereill i efelychu yr hyn oedd ganmoladwy yn Amnon, ac i ddilyn yr un llwybr o ddiwydrwydd a phen- derfyniad meddwl a hynodent fywyd ein cyfaill mwyn. Nid ydym yn dywedyd na phertbynai i\i cyfaill feiau a gwendidau, canys y mae pawb a fu yn gwisgo cnawd erioed yn agored iddynt: ond nid ein gwaith ÿw nodi ei feiau, canys gwyddom werth yr hen ddiareb, " De mortuis nil nisi oonwm." Dim am y marw ond sydd dda. Mr. Rees Jones oedd fab i David a Mary Jones, Clettwr, wedi hyny, Rhandir, yn agos i Landyssil, Ceredigion. Nid yw yv ysgrifen- ydd yn gwybod dim am danynt, rhagor nâhi bod yn ddynion cyfrifol a pharchus, ac yn dwyn eu plant i fyny yn ddysgedig, un o ba rai sydd weinidog dysgedig, parchus, a chym- meradwy yn mhlith yr Undodiaid yn Aberdâr, Morganwg, yn awr. Yr oedd Mr. Jones, pan yn ieuanc, yn debyg i blant yn gyffredin, heb ddim yn neillduol yn perthyn iddo yn wahanol ì blant yr ardal ei magwyd ef; ond ymddengys pan oedd ef yn o ieuanc fod ynddo duedd at farddoni, ac am ei gynnydd mewn barddon- iaeth, cawn sylwi yn helaethach maes o law. Ei rieni a'i hanfonent i'r ysgol i Gastell Hywel, yr hon a ddygid yn mlaen dan ofal y diweddar Barch. Mr. Dovies, nâ'r hwn nid oedd, m nid 25 oes, rhagorach yn Nghymru, i gyfranu addysg yn yr ieithoedd dysgedig, a phob cangen arall o wybodaeth, i'r genedl ietanc, fel y tystia y dynion mwyaf dyggedig yn awr yn Lloegr a Chymru, canys nid oedd neb yn by w yn yr oes ddiweddaf a ddeuai i fyny â Mr. Davies me wn gwybodaeth Ladinaidd ; ac ystyrid ysgolheig- ion Castell Hywel yn ben-campwyr bob amser. Efelly, gallwn briodoli y syched neillduol oedd ar Mr. Jones am gyrhaedd gwybodaeth, i'r argraffiadau boreuol a wnaed ar ei feddwl pan nad oedd efe ond glasgrwt bychan yn yr ysgol. Bu ynfNghastell Hywel am flynyddau, lle y cafodd ei egwyddori mewn gwybodaeth Seis- nig, ac y darllenodd lawer o'r hen feirdd Rhuf- einig, &c.^ yn llawen gyda'i gydysgolheigion yn yr un dosparth ag ef, llawer o honynt yn awr sydd weinidogion doniol a dysgedig yn Lloegr a Chymru, yn yr Eglwys Sefydledig yn gystal ag yn mhlith yr Ymneillduwyr, a llawer o honynt mewn swyddi gwladol, megys masg- nachwyr, cyfreithwyr, &c. Er mai yn Llwyn- rhydowain yr oedd y Parch. Mr. Davies yn cadw ysgol yr amser hwn, etto, wrth Davies Castell Hywel yr adnabyddid ef gan bell ac agos, hyd ei fedd. Wedi i Mr. Jones dreulio ei amser yn yr ysgol, yn Uawen a difyr, dych- welodd adref at ei rieni, a bu yn dilyn amaeth- yddiaeth yn y Rhandir (wedi hyny ei dir perchenogol ef ei hun) ; ac oddeutu ei ugeinfed flwydd ymbriododd â Miss Davies, Nantyr- ymenyn, yn nySryn Clettwr, o ba un y cafodd dri neu bedwar o blant, dwy fereh yn unig o honynt sydd yn fyw yn awr, sef Miss Jane, a Mary Jones, Nantyrymenyn, y rhai ydynt yn rianod prydferth a rhinweddol, ac jti barehua