Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. Rhif. 324.] MEDI, 1842. [Cyf. XXV. YR I U D D E W 0 N . BU amser, ac yn ddiweddar iawn, pan oedd yr anwybodaeth a ífynai yn meddyliau y bobl yn gyffredin mewn perthynas ìt Iudd- ewon, yn nghyd â'u hanesyddiaeth, a'u tynged dyfodawl, yn gyfryw, fel yr oeddjTit yn barod i ofyn nid yn unig, " Pwy yw yr Iuddewon ?" ond hefyd, " Pa le y maent yn byw?" a hyny á'r ysgrythyrau santaidd yn eu dwylaw! Nid yw felly yn hollol yn bresennol,—ond hyd y nod yn awr, bychan iawn yw yr hysbysiaeth deallgar a feddiennir ar y pwnc, er fod ynddo bobpeth ag sydd yn tueddu i gyffrói dyddordeb bendithiol yn y meddwl Cristionogol; ac hynod, yn gystal â galarus, yw, fod y rhai hyny a ddy- munant yn mhob peth arall gyfeirio eu hunain a'u plant " at y gair ac at y dystiolaeth," yn edryçh mor ddisylw ar yr hyn sÿdd wedi ei gydwâu aT holl hanes ysgrythyrol, ,yn gystal â phob addewid o fewn y gyfrol santaidd. I bawb ag ydynt yn darllen ac yn caru gair Duw, pa un ai ìeuanc neu hen y byddont, oni raid ei bod yn ffaith ddyddorawl, mai nid yn unig yr Iuddewon a gadwasant i ni yr hyn sydd genym o T gyfrol ysbrydoledig, ond mai hwy oeddynt bregethwyr cyntaf Efengyl y tangnefedd ìt Cenedloedd,—yr Efengyl ag oedd i gael ei chy- hoeddi trwy yr holl fyd, "gan ddechreu yn Jerusalem ?" Pwy a â etto un cam yn mhell- ach yn mlaen, heb gael ei gyffrôi gan deimlad o dosturi at yr Iuddewon gorthrymedig ? Pwy a all gofio mai " gwr o Iuddew" oedd ein Hiach- awdwr bendigedig ei hunan, ac mai Iuddewon oedd ei holl apostolion, heb deimlo dymuniad çryf i wneyd yr oll a allo i ddwjm yr Iudd- ewon ato Ef ? I gael yr Iuddewon a'r Cened- loedd Vr un gorlan, ac at yr un Bugail mawr ? . Cymdeithasau i gynnorthwyo yr Iuddewon, a chyfarfodydd a gynnelir ar ran yr Iuddewon, ydynt yn awr wedi dyfod mor gyffredin, fel nas gall y gweithiwr wrth fyned trwy jt heol at ei waith beunyddiol, ac hyd y nod y plant wrth fyned yn ol ac yn mlaen ìt ysgolion, lai nâ sylwi o leiaf ar yr enw Iuddew, mewn rhai ot hysbysiadau aml a ganfyddir ar furiau ein trefydd. Y cyftrw o'r rhai hyn ag ydynt wedi 33 cael eu dwyn gan Ysbryd Duw i fyfyrio eu Biblau, pan ganfyddant yr enw Iuddewon, ydynt yn dra thueddol i'w gydgyssylltu â phethau santaidd ; ond ar yr un amser y maent yn baröd i ryfeddu beth sydd a fyno Cristion- ogión à phobl ag oeddynt yn byw gymmaint o flynyddau ÿn ol, a'r rhai a erlidiasant ac a osodasant i farwolaeth yr Iachawdwr hwnw, jm mha un y sefydla pob gwir gredadyn ei obaith am iachawdwriaetb, aT hwn yw gwrth- ddrych ei gariad penaf. I'r dyben, gah hyny, o symud y teimlad hwn o ryfeddod, ac i gyffròi tosturi y rhai nad ydynt wedi cael Uawer ó fan- teision gwybodaetli y bjTd hwn, ond eu bod ÿn feddiannol ar y " wybodaeth sydd oddiuchod," yr hon sydd yn llawer gwerthfawrocach, *yr ychydig Bjdwadau canlynol mewn perthynas ÌT Iuddewon, a pha beth yw ein dysgwyliadauŴ am danynt, a os,odir gerbron ein darllenydd- ion. Yr Iuddewon, ynte, jâynt hiliogaeth Abra- ham, Isaac, a Jacob. Yr Hollalluog a wnaeth addewid i Abraham, (Gen. 12,2, 3,) y byddai iddo ei " wneyd yn genedlaeth fawr ;" ond aeth amryw flynyddoedd heibio cyn canfod unrhyw argoel am gyflawniad yr addewid hçno ; eithr gair y Duw tragywyddol nis gellir ei dòri,—ac yn nheulu Jacob canfyddwyd ymddangosiad o'r cynnydd addawedig. 'I Jacob, yr hwn wedi hjrny a fendithiwyd âî enw Israel, y ganwyà deuddeg o feibion, y rhai a adwaenir fel y deu- ddeg Patriarch. Y rhai hyn oll ar y cyntaf a dderbyniasant yr enw Israèliaid, oddiwrth Israel eu tad ; ond yn mhen amser dau oY llwythau a enwyd ar ol Judah, aè felly a aîwyd yn luddewon, a\i gwlad, yr hon sydd j-n Asia, a alwyd Judea. Pan aeth meibion Jacob i waered g}Tda'u tad i'r Aifft, at eu brawd Joseph/'nid oedd eu holl nifer hwynt aM teuluoedd ond deng enaid a thrigain ; ond tra y buant yn ymdeithwyr yn y wlad hono, darfu iddynt liosogi mor fewr, fel pan ddaeth oddiamgylch amser eu gwaredigaeth o dŷ y caethiwed, yr oeddynt o leiaf yn dair miliwn o nifer. O'r amser y dygwyd hwynt