Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. Rhif. 318.] MAWRTH, 1842. [Ctp. XXV G W RTHWYXEBÜ P E C H O D. PA fodd y mao gwrthwynebu pecliod sydd bwnc ag y dylai y Cristion fyfyrio llawer iawn arno tra ar ei daith o ddyffryn adfyd i ororau ysblenydd y nef; oblegid y mae gel- ynion yn ymdyredig o bob tu iddo yn aml a lliosog neillduol, y rhai sydd bod munud yn dysgwyl am weled bwlch; am weled cwmwl yn myned rhyngddo â'i Dduw, fel y gallont hwy (y geîynion) gael lle i fyned rhwng y pechadur â'i Dad; ac os unwaith y cant hyny, gyrant ef i afael profedig- aethau pechadurus a mawrion, nes o radd i radd aiff i ercliyll galed-diroedd gwrthgiliadau oddiwrth Dduw, ffyn- non y dyfroedd byw. Ond cyn y gall y crcfyddwr i wrthwynebu pech- od, rhaid iddo gyrhaedd cymaint a hyny o adnabyddiaeth, fel y gall wybod yr hyn sydd yn bechod, a'r hyn nad y w; ac i'r dyben o gyrhaedd y cyfryw wybodaeth, rhaid yw iddo ddarllen y Ddwyfol wers nes cael hyny i ddigonolrwydd. Anghyfraitli yw pechod, sef yw hyny, anghyd- ffurnad dyn â chyfraith ei Wncuthur- ydd. Pob pcth nad ydyw yn dda mewn dyn ydyw pechod; ac i'r dyben i wrthwynebu pcchod, rhaid myfyrio Uawer arno. Ond yn enwedigol dylai crefyddwyr ieuainc ag sydd newydd ddyfod allan i faes godidog crefydd, newydd ddyfod i chwareu- fwrdd ardderchog yr Efengyl, fyfyrio llawer mwy, oblegid y maent yn ieuengach, a thrwy hyny yn wanach, a mwy o rwystrau, a phrofedigaethau, a themtasiynau yn eu cylchynu. Y maent yn wan o ran eu teimladau, ac felly y mae y gelynion yn gwneuthur eu goraf i'w llesgau a"u denu i'r fagl. Gofyner i'r hen Gristion proffesedig, ac efe a brawf y ffaitli. Y mae y byd liwn yn ei holl agweddiadau a'i ddulliau, ei deganau a'i gyfoeth, ei bleserau a'i gwbl, yn wrthddrychau tyniad sylw a deniad calonau y pro- ffeswyr ieuainc yn fynych iawn. Dull balchaidd y byd hwn sydd ry fynyeh o lawer yn y meddwl, yn lle dull y pethau ni welir. Teganau daríbdedig y ddaear hon sydd ry ddeniadol os na ymdrechwn â'n holl egni i'w gwrth- wynebu. Felly y denir llawer o?n cyd-ieuenctid i brofedigaethau chwe- rw, ac i bechu yn ysgeler yn erbyn Duw. Fy meddwl i ydyw, y dylai y proffeswr ieuanc feddAvl llawer am bechod, nid gydâ phleser a llawenydd, ond gydâ galar a chasineb. Pa fodd y gellir gwrthwynebu pechod ynte ? Dylem, er mwyn gwrthwynebu pech- od, ei gashau a'i ffieiddio. Cyn y gall dyn wrthwynebu un gwrthddrych, rhaid iddo gael egwyddor o gasineb yn yr enaid at y cyfryw wrthddrych. Hanfodol i'r eithaf ydyw hyn. Os bydd dyn yn cashau unrhyw wrth- ddrych, a'i ffieiddio yn ei ymddygiad allanol, y mae yn ei wrthwynebu i'r graddau hyny. Nid gwiw i ddyn garu y pechod lleiaf oll a'i adael yn ddisylw, canys mae y pechod lleiaf yn yn ol ei effaith, a chan belled y cyr- íiaeddo, gynddrwg yn nghyfrif y Nef- oedd a'r pcchodau mwyaf ofnadwy ac ysgeler a ellir eu cyfìawni byth. Rhaid i ddyn gashau pob egwyddor groes i'r Beibl—pob peth fyddo yn rhith dryg- ioni a'r tuedd leiaf ynddo i sathruDuw a'i ddeddfau. Rhaid i'r enaid gael tueddfryd ysgogiadol at santeidd- rwydd. Rhaid iddo gael ei lywodr- aethu ag ysgogiadau rhinweddol a duwiol, cyn byth y gall gashau a