Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. Rhif. 317.] CHWEFROR, 1842. [Cyf. XXV. YR ADGYFODIAD. NID oes un gangen o'r athraw- iaeth fawr sydd yn ol duwiol- deb, a mwy o angen ei phleidio a dangos ei gwîredd, nag adgyfodiad y meirw yn y dydd olaf, er ymddangos ger gwydd eu Créwr i gael eu barnu am eu holl weithredoedd, a derbyn yn gyfatebol i'r hyn a wnaethwyd yn y corff, pa un bynag a fyddo ai da ai drwg. Mac yr athrawiaeth yma trwy yr oesau wedi bod yn deil- wng o amddiffyniad: teilwng yw yn bresennol, a theilynga gael ei ham- ddiffyn etto, hyd y boreu hwnw y byddo yn cael ei gwiriaw, ac etifedd'- ion bywyd yn dyfod i fynu o bridd- ellau'r dyffryn drwy nerth ac awdur- dod eu Pen a"u Priod anwyl, er seiniaw ei glodydd yn ngwìad y gwawl byth. Hwythau, y ddiail- enedig dyrfa, yn gadaw y gwely pridd, dan grynu a chasglu parddu; ac mewn iaith, os nid mewn geiriau, yn gweddio, "Greigiau, syrthiwch arnom ni, a chuddiwch ni o ŵydd yr hwn sydd yn eistedd ar yr orsedd- fainc, ac oddiwrth lid yr Oen;" canys dyma y dydd wedi ein goddiweddyd ac y manwl ddywedodd y proffwydi am dano; ond diystyrasom eu dyw- ediadau, troisom atynt y glust fyd'dar, ac wele ni heddyw heb un cyfaill yn y cyfyngderau mwyaf, heb un noddfa ar y storom arwaf, ac heb neb i dos- turio wrthym yn yr amser cyfyngaf; wedi digio'r Mab, a gwrthod ei al- wadau tirionaf, ei gynghorion dwysaf, a'i efengyl odidawg; wedi diystyru cynghorion ein rhieni anwyl Vn perthynasau hoff, ac yn awr 'heb un ceidwad i'r enaid ar y dydd echrys- lonaf. Gwae i ni erioed gael ein geni yn ngwlad efengyl: 0 na allem aros yn ein beddau! 0 na anghofid ni gan y Barnwr mawr! Dyma y farn wedi dyfod, ninnau heb un drug- aredd; dyma'r cyfrif wedi dyfod, ninnau wedi byw yn llwyr ddiystyr o'n hamser tra yr ydoedd yn haf- ddydd efengyl arnom. Brydain, deffro o'th gwsgadrwydd! trigolion y ddaear, ystyriwch eich ffyrdd! Ymdrechiadau mawrion a wneler i gynghori a rhybuddio mewn perthynas i foreu y codi o'r bedd, er bod yn un o ddwy wlad i dragywyddoldeb,— nefoedd neu uffern—mewn goleuni neu dywyllwch—canu neu wylo, i ddiderfyn dragywyddoldeb! — Ond rhag meithder, ymdrechaf ddangos y bydd adgyfodiad y meirw:— I. Adgyfodiad Crist. Amrywiol ydyw y tystiolaethau sydd genym fod Crist wedi adgyfodi o'r bedd, ac esgyn i'r nef i eiriol ar ddeheulaw ei Dad. Rhagddyw'edwyd gan y proff- wydi y byddai i'r Iesu adgyfodi, Salm 16, 20. Y mae profi a chredu y gwirionedd hwn o'r pwys mwyaf; oblegid os na chyfododd Crist, ofer- edd yw pregethu'r efengyl; megvs ag y dywedodd Paul, " Ofer y w eín pregeth ni, ach ffydd chwithau/' Ond yn bresennol mi a gaf brofl fod Crist wedi cyfodi, yr hyn sydd brawf amlwg yr adgyfodir yr 'holl hil ddynol }n y dydd olaf. 1. Y mae tystiol- aeth yr angylion ^vrth y g\vragedd, yn brawf i Grist adgyfodi oddiwrth y meirw. Paham (meddynt) yr ydycìi yn ymofyn am y byw yn mhlith y meirw? nid yw efe yma, ond efe a gyfododd, Luc 24. 1, 6. Y mae yn ddiamheuol oddiwrth y geiriau ucho^l