Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

§£B£]V ŴOIËR. Rhif. 266.] TACHWEDD. [Cyf.XX. COFIANT Y PARCH. J. WILLIAMS, LL.D. GANED Mr. Williamsyn Llanbedr, swydd Geredigion, ar y 25ain o Fawrth, 1727. Ei dad, yr hwn oedd grwyn-gyffeithydd cyfrifol, a'i gosod- odd mewn ysgol rad yn y drcf hono, lle y cyrhaeddodd gryn lawer o wybod- aeth yn yr ieithoedd dysgedig. Gan iddo yn ieuanc ddangos tueddiad cryf i ymosod ar waith y weinidogaeth Gristionogol, pan gyrhaeddodd bedair ar bymtheg oed efe a dderbyniwyd yn fyfyriwr mewn Athrofa yn Nghaerfyr- ddin, dan ofal y Parch. Feistriaid Thomas a Davies. Treuliodd ei amser gyda diwydrwydd mawr yn y lle, a daeth yn dra hyddysg yn y celfyddyd- au, yn enwedig celfyddydau rhif a mesur; ond cyfeiriai ei sylwgarwch penaf af y cangenau angheurheidiol i'w gymhwyso i'r swydd weinidog- aethol. Wedi treulio ei amser yn yr Athrofa, derbyniodd wahoddiad oddiwrth y Parch. Mr. Howell, o Birmingham, i'w gynnorthwyo ef fel athraw ieith- yddol mewn ysgol fawr a thra chym- meradwy. Yn y flwyddyn 1752, ar alwad unfrydol cynnulleidfa o Ym- neillduwyr Protestanaidd, efe a sym- udodd i Stamford, yn swydd Lincoln ; ond gan y chwennychai yn fawr gael sefyllfa yn agos i Lundain, efe, yn 1755, a dderbyniodd ofal gweinidogaethawl Eglwys yr Ymneillduwyr yn Wolking- ham, swydd Berk. Tra yr arosodd yn y lle hwn, efe a orphenodd waith wrth baun y treuliasai lawero flynyddoedd, a'rhwnsydd o ddefnyddioldeb mawr i fyfyrwyr. Cyhoeddwyd ef yn 1767, yn 4-plyg, dan y titl, " Mynegai o'rTesta- ment Groeg, yn nghyd â'r Cyfieithad Saesnaeg i bob gair, a'r prif wreidd- eiriau Hebreig cyfatebol i'r Geiriau Groeg yn y Deg a Thrigain Hefyd, Sylwadau beirniadol byrion pan yn anghenrheidiol, a Dangoseg, er gwas- aaaeth y Darllenydd Seisníg. Mewn canlyniad i'w gynllun o fyw yn agos i'r Brifddinas, a thrwy ei adnabydd- 41 iaeth ag amryw o'r Gweinidogion Ym- neillduedig mwyaf enwog, efe a gan- lynodd y Parch. Mr. Baron, yn Sy- denhara, lle y gweinidogaethodd dros fwy nag wyth mlynedd ar hugain. Yn Ngorphenaf, 1768, efe a briododd Mrs. Martha Still, gweddw aelod tra chyf- rifol o'i gynnulleidfa ddiweddar yn Wolkingham. Ar farwolaeth ei wraig, yn y flwyddyn 1777, efe a ddewiswyd yn arolygydd Llyfrgell y Dr. Daniel Ẅilliams, yn Heol Redcross, Llun- dain ; yr hon Lyfrgell,trwy ei sefyllfa, sydd yn hytrach yn anadnabyddus i'r cyffredin, ond er hyny a gynnwysa gasgliad mawr o lyfrau anaml a gwer'th- fawr, ac yn agos holl gyfansoddiad- au yr Anghydffurfwyr. Y manteision deilliedig oddiwrth y sefyllfa hon a'i galluogasant i gyrhaedd yr wybodaeth anghenrheidiol ar bwnc a fuasai yn destun royfyrdod dwys iddo ; a chy- hoeddodd íîrwyth y llafur hwn dan yr enw, " Chwiliad Rhydd i'r bennod gyntaf a'r ail o Efengyl St. Mathew." Yn Ionawr, 1781, efe a briododd eil- waith, â Miss Elizabeth Dunn, un o ferched John Dunn, Yswain, o Lsn- erch Newington, yr hwn a fuasaigynt yn fasgnachydd enwog yn Llundain, ac un o'r lleygion mwyaf defnyddiawl yn mhlith yr Ymneillduwyr. Trwy y cyfnewidiadau mynychol a gymmerent le yn y pentrefi o nmgylch Llundain, nifer yr Ymneillduvvyr a leihaodd yn ddirfawr, yr hyn, yn nghyd â bod ammod-ysgrif y Capel allan yn 1795, a barodd i'r Doctor roddi i fyny ei swydd weinidogaethol, ac ymneilldu- odd i Islington, Ue y treuliodd y gwe- ddill o'i íywyd. Yr amser y bu farw, yr oedd yn agos gorphen argraffu cyfieithad o waith prin a gwerthfawr iawn o eiddo M. P. Chei- lomeus, aelwid " Grceco BarbaraNoti Teslamenti." &c. Fel hyn y gorphen- odd ei lafurwaith ll'èenyddol, ar bwhc ag oedd yn dwyn cyssylltiad agos â dyledswyddau gweinidog Cristionogol,