Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

IEBEIV ŴOMEB. Rhif. 264.] MEDI. [Cyf. XX. COPIANT Y DIWEDDAR BARCH. DANIEL DAVIES> Gweinidog y Bedyddwyr yn y Felinfoel, Llanelli. MAE bod " coffadwriaeth y cyfiawn yn fendigedig," ynghyd â bod yr Ysgrythyr Lân yn cynnwys coffad- wriaethau cynnifer o enwogion mewn ffydd a duwioldeb, yn gefnogaeth gref i ysgrifenu bywgraffiadau y rhai hyny a feddent yr un werthfawr ffydd a nodir yn y Bibl Santaidd, ac i ateb y dyben mawr hwnw i'r darllenydd, sef perffeithio santeiddrwydd yn ofn Duw. Ar yr hyder hwn, rhoddir ger gwydd y darllenydd fras-liuelliad o fy wyd a buchedd Daniel Davies. Efe ydoedd fab henaf Richard a Diana Davies, y rhai oeddynt aelodau yn Nghastellnewydd, o ba eglwys y bu ei dad yn ddiaeon am hir flynyddau. Gwrthddrych y Cofiant hwn a aned yn y Bwlchmelyn, plwyf Cenarth, swydd Gaerfyrddin, ar y 24ain o fis Ebrill, yn y flwyddyn 1756. Y mae yn anhawdd dywedyd dim yn neillduol am dano hyd nes ydoedd yn naw mlwydd oed, pryd y cawn ef, yn gyffelyb i Dafydd mab Jesse, yn bugeilio defaid. Hyn ydoedd ei waith yn yr haf, ac yn y gauaf canlynai ei ysgol, lle y bu dri gauaf yn olynol yn dysgu Seisoneg; a chan fod leied bri ar ddysgeidiaeth yr aniser hwnw, nid yw yn debygol iddo ef gael nemawr o fanteision gwybod- aeth yn y ffordd hon ; ond clybym ef yn dywedyd lawer gwaith, y buasai yn well ganddo gael ychwaneg o ddysg- eidiaeth nâ holl bethau y byd hwn. Pan yn bugeilio y praidd, yr oedd Rbagluniaeth fel yn awgrymu fod a fynai hi ag ef rhagllaw fel bugail eneidiau. Yn y sefyllfa hono, ag yd- oedd mor fanteisiol i fyiÿriaeth, ehcdai «i feddwl ièuengaidd ar wrthddrychau àylweddol, nes creü synedigaeth yn ei feddwl, a chyda bywiogrwydd y cofiai gýngborion ei fam dduwiol, nes y gwesgîd arnó i fyned i leoedd anial i 33 weddio ar Dduw am drugaredd i'ẃ enaid. Pan ydoedd tua 13 oed, aeth i wasanaeth at un Mr. Howells, y Tan- ner, o Gynwil, lle yr arosodd am rai blynyddau. Yma y teimlodd chwantau ieuenctyd a chyfeillach ei gydgyfoed- ion ieuainc yn llygru ei feddwl mor- fawr, fel yr anghofiodd agos yn hollol yr argyhoeddiadau gynt; ac fel yr ys- grifenodd ef ei hun yn ei gofnodion, " Yr oeddwn yn rhedeg ar hyd y ffordd lydan sydd yn arwain i ddystryw; ond rhyfedd ffyrdd yr Arglwydd, efe a fynai fy narostwng." Yn yr amser hwn tarawwyd ef â thwymyn drom iawn, nes oedd yn ddychrynedig wrth feddwl fod byd tragywyddol o'i flaen, ac yntau, fel y tybiai, yn prysuro iddo.- Euogrwydd cydwybod am ei bechodau a berai i'w galon grynu ; ond tiriondeb Ior a'i harbedodd, a chafodd iechyd drachefn ; ac ni bu wedi hyn heb argy- hoeddiadau ar ei feddwl am sefyllfa ei enaid. Peroddhyn iddo fyned i wran- do gair Duw, a chafodd hyfrydwch mawr dan y weinidogaeth. Geljm eneidiau, yn ei weled yn dynesu at foddion yr argyhoeddi, a fynai etto ruthro arno. Denwyd ef gan ei hen gyfeillion i droseddu dydd yr Argl- wydd ; ond pa fwyaf yr oedd satan yu ceisio ei ddenu at bechod, mwyaf i gyd yr öedd gras yn ei ddilyn ag argy- hoeddiadau, a'r canlyniad a fu iddö gael ei daro gan gydwybod euog am anmharchu dydd Duw, fel na chafodd ei ollwng i droseddu fel hyn rhagllaw. Pan o gwmpas 16 oed, aeth adref at ei dad, yr hwn wrth ei gelfyddyd oedd wëydd; ac wedi treulio cyìnmaint o atnser ag a'i gwnaeth yn feistr ar y gelfyddyd hono, dychẅelodd ýn ol i gymmydogaeth Cyuwil, i weithio ei grefft, at un John Dafydd. Yma etto aeth i wrando gair Duw yn ddyfal