Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

§ER£]V ŴOMEB. Rhif. 262.] GORPHENAF. [Cyf. XX. BYIUGOFIANT AM Y DIWEDDAR FRAWD TIMOTHY JENKINS, PREGETHWR DEFNYDDIOi, YN MLAENYWAUN, SWYDD BENFRO, Yr hwn a hunodd yn yr Arghoydd Ionawr 8/e</, 1837, yn y GOfedflynedd o'/ oedran. ' Let earth dissolve, yon pond'rous orbs descend, And grind us into dust,—the soul is safe."—Young. GANWYD gwrthddrych y Cofìant hwn mewn lle a adwaenir wrth yr enw Parc-y-boreu, yn mhlwyf Castell- mael, swydd Beufro, yn y flwyddyn 1777. Bedyddiwyd ef yn afon Cas- 'mael, a derbyniwyd ef yn aelod yn Llangloffán yn y flwyddyn 1795. De- chreuodd bregethu yn y flwyddyn 1798. Ei rieni oeddynt isel eu sefyllfa yn y byd; etto, yn onest a chymmeradwy. Pa fodd y treuliodd ei dymmor plent- ynaidd, nid yw wybodus i'r ysgrifen- ydd; ond ymddengys i'w riaint ei freintio ag ysgol yn well nâ'r rhan amlaf o'i gyfoedion, a gwelwn iddo gael y fraint o blygu yn foreu dan iau Crist, a chael hefyd yr anrhydedd o harhau dani trwy bob trallodion hyd ei íedd, yn ystod pa amser y gwelodd ac y profodd lawer o wahanol ansoddau ar grefydd a chrefyddwyr. Cyn iddo arfer ei ddawn fel pregethwr, teimlid anghen mawr am ysgolfeistr yn Eg- lwys.vrw a'r gymmydogaeth, i'r dyben o addysgu y plant i ddarllen ac ysgrif- enu Cymraeg a Saesnaeg, yr hyn beth oedd anhawdd i'w gael yr araser hwnw; ac ar y Uaw arall, nid roor ddewisol oedd ganddynt hwythau roddi annog- aeth a galwad i neb, ond y cyfryw a arddelai broffes unol â Thestament Newydd ein Harglwydd Iesu Grist; eithr wedi gwneyd hoìiad, hysbyswyd iddyut am y brawd dan sylw, rhodd- wyd iddo alwad fel ysgolfeistr, ac yntau a i derbyniodd ; ac wedi iddo dreulio rhyw gymtnaint o amser, er boddlon- rwydd î bawb yn gyffredinol, yn ei swydd, yn neülduol fel proffeswr, a'i 25 weled yn feddiannol ar fwy o wybod- aeth a doniau nâ'r cyffredin, nid hir y bu Eglwys Ebenezer heb roddi cym- helliadau iddo arfer ei ddawn yn gy- hoeddus yn eu plith, er nad gyda hwy, fel y gwelir, yr oedd yn aelod, wedi ei ddyfodiad o Langloffan, a hyny (fedd- yliaf) o achos fod Blaenywaun yn wresog iawn y pryd hyny dros arddod- iad dwylaw, ac Ebenezer yn selog yr ochr arall. Pregethodd, y tro cyntaf, yn Treclyn, ger Eglwyswrw, yn y flwyddyn 1798; ac o'r amser hwnw dros yspaid 29 o flynyddau, hyd nes hunodd yn y GOfed flynedd o'i oedran, parhaodd yn ftyddlaw n i wneyd a allai. Arferai deithio yn fynych, yn enwedig trwy swyddi Mynwy a Morganwg. Bu rai teithiau gyda'r diweddar Barch. Mr. Herring, o Aberteifi, a gŵyr pawb a'i hadwaenent nad oedd neb yn fwy derbyniol a chyrameradwy nâ Timothy. Er nad oedd wedi ei gynnysgaethn ag helaethrwydd doniau, na dyfnion am- gyffrediadau ; etto, yr oedd ei ysbryd haelaidd a dirodres yn ei wthio i dder- byniad mynwesol pob dyn. Meddai ar alluoedd lled fedrus i ysgrifio ar un- rhyw bwnc ; ac ymddangosodd trwy y Seren, yn amser y diweddar Barch. Mr. Harris, dan y ffug-enw Colomen Maeldrygan. Aeth trwy lawer o brof- edìgaethau a gofidiau yn ystod ei fyw- yd, fel y dygwydda bron fynychaf i'r Cristion tra yn y fuchedd helbulus hon. Bu am dymmor yn cadw masgnachdy (shop) mewn lle o'r enw Coedcefnlas, yn mhlwyf Eglwyswen, a thrwy y naill beth a'r Uall dirwynodd hyny ef i ddir-