Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SBBEll ŴOHER. Rhif. 261.] MEHEFIN. [Cyp. XX. CO FIANT IMCRS. MARGARET WILLIAMS, Gwraig y Parch. BENJAMIN WILLIAMS, Gweinidog y Bedyddwyr, yn Maesyberllan, swydd Frycheiniog. ANGEU sydd elyn yr holl deulu dynol,—hwn yw brenin y dych- ryniadan, a dychryn tywysogion a breninoedd y ddaear,—hwn sydd yn parhau i wneuthur bylchau a difrod dychrynllyd yn Eglwys Dduw; ond er hyny, " Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig ;" ac fel y cyfryw, anfonwyf y llinellau canlynol i Seren Gomer i fod yn gofiant o fy anwyl wraig ymadawedig ; a meddyliwyf, hy- barch Olygydd, oblegid eich hynaws- edd, fod yn hawdd i mi eich darbwyllo mai gorchwyl caled iawn i mi, yn y teimladau presennol, yw ysgrifio Cof- iant yr hon ag oedd mor gu ac anwyl genyf. Pan ddygodd angeu hi oddi- arnaf, teimlwn fod darn o'm calon wedi ymadael; ond, er hyny, rbaid i mi ymattal rhag rhoddi ffordd rhy bell a rhwydd i'm mynwes friwedig. Pen- derfynais nad oedd neb mor deilwng â mi i ddarlunio hanes ei bywyd, oblegid nad oedd neb mor adnabyddus o honi â myfi ; a hyny a wnaf, heb ddefnyddio geiriau gormodiaith mewn ffordd o ganmoliaeth iddi, a bod yn sicr. Cafodd Margaret ei geni mewn lle a elwir Abergrannell, yn mhlwyf Llan- bedr, swydd AWerteifi. Enwaú ei rhi- aint oedd Evan ac Ann Davies, ac yr oeddynt ill dau yn greiyddol, ei thad yn aelod gyda'r Trefnyddion Calfin- aidd, a'i mam yn un o'r Bedyddwyr ; gan hyny cafodd ei dwyu i fyny yn ofn ac athrawiaeth yr Arglwydd, mor bell ag y gallasent hwy. Mae ei thad etto yn fyw i alaru ar ei hol, ond ei mam wedi hnno yn yr, Iesu eryspum mlynedd yn ol. Yr oedd yn un o ddeg o blant. Bu farw pump yn ieuainc iawn ; ond arçj y lleill, gwnaethant broffes gyhoeddus oll o'r Arglwydd lesu Grist, a chynnysgaethodd yr Ar- glwydd ddati o'i brodyr â dawn gwein- 21 idognethawl. Bu un o'r ddau, sef Evan Davies, farw yn 21 oed, yn yr Athrofa yn Neuaddlwyd; ond am y brawd arall, Mr. D. Davies, y mae yn weinidog parchus, defnyddiol, a llwyddiannus, gyda'r Anymddibyn- wyr, yn y New-Inn, gerllaw Ponty- pwl, swydd Fynwy. Cafodd Marga- ret, pan yn blentyn, ei dwyn i fyny â'i hegwyddori yn ol trefn y Methodist- iaid, yn yr ysgol sabbothol, ac yn nghymdeithasau (societies) y plant, fel eu gelwir; a dywedai lawergwaith yn dra phwysig, yn ei blynyddoedd diweddaf, "O'r falh ynfydrwydd a daliineb! Tynwyd fi lawer gwaith i ddywedyd anwiredd am bethau dwy- fol, ger gwydd yr ymholwyr, trwy anwybodaeth ac ofn ; ond gobeithio fod yr Arglwydd wedi maddeu i mi a hwythau, am fy nhynu at bethau an- wybodus i'r Bibl." Yr oedd M. o dymherau ysgafn, Uawen, a digrif iawn yn ei chyfeillacb ; ac er pob ym- drecha wnaed i'w chadw yn yreglwys o ddyddiau ei mabandod i'w bedd, dangosodd yn ebrwydd yn nyddiau ei hieuenctyd, nad oedd ei pherthynas â'r Adda blaenaf, yn ei egwyddor a'i ym- arferiadau, wedi ei thòri, a bod yn rhaid cael gwir ras, a chyfnewidiad cyflwr trwy waith yr Ysbryd Glàn, cyn y gellir bod yn aelodau addas yn Eglwys Dduw. " Na feddyliwch ddy- wedyd ynoch eich hunain, Y mae gen- ym ni Abraham yn dad i ni," &c. Hi aeth i garu chwantau ieuenctyd felpob plant yn gyffredinol, a gadawodd soci- ety y plant, mewn ystyr grefyddol; ond er hyny, glynodd wrth yr ysgol sabbothawl yn ddiwyd a Ilafurusiawn, a dysgodd gymmaipt o'r ysgrythyrau, trwy eu trysori yn ei chof, fel y buont o anfeidrol werth iddi trwy ei bywyd. Yr oedd ei chof fel tŷ arfau ysbrydol