Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEB£H ŴOMEB. Rhif. 261).] MAI. [Cyf. XX. GWLADGARWCH. SYLWEDD PREGETH A DRADDODWYD YN ADDOLDY Y BEDYDDWYR, ARGOED, MAWRTH 1, 1837, GERBRON CYMDEITHAS GYMROAIDD GLYN CORWG ; GAST TT PA&CB. J. ROBEB.T2, TILEBBGAB.. ESTHER X. 3. Canys Mordecai yr luddew oedd yn nesafi'r brenin Ahasferus, acynfawrgan yr luddewon, ac yn gymmeradwy yn mysg lliaws ei Jrodyr; yn ceisto daionti'w bobl, ac yn dywedyd am heddwch i'w holl hiliogaeth." MAE pawb hyddysg yn hanesydd- iaethau yr Iuddewon yn gyfar- wydd ag Esther a Mordecai. Mae hoil hanes y gẁr hwn yn ei osod ger ein bronau yn llawn o rinweddau dai- onus. Iuddew oedd o gaethglud Juda, ac ewythr i Esther y frenines. Pres- wyliai yn Susan y breninüys. Y weithred gyntaf a gofrestrir i ni yw dadguddio bradwriaeth dau o'r ysta- fellyddion yn erhyn bywyd y brenin. Yn nesaf, cawn ef yn wrthddrych cen- figen Haman, yr hwn, o herwydd ei falchder a'i hunanoldeb, a ofynai barch uwchlaw yr hyn a gredai Mordecai oedd briodol i ddyn ; am hyny llidiodd Haman, a phenderfynodd, nid yn unig i ladd Mordecai, eithr dinystrio yr holl Iuddewon trwy daleithiau Persia; ond rhagluniaethy Neí a wrthdrôddei holl ddichellion ef, gan mai Haman a grogwyd, a gelynion yr Iuddewon a ddinystriwyd; yna Mordecai a ddyr- chafwyd i swydd ac urddasolrwydd, fel ag yr " oedd yn nesaf i'r brenin." Un o'i brif rinweddau oedd Gwladgar- wch, neu, " ceisio daioni i'w bobl." Gwelir hyn ynddo pan yn gwisgo sach- lian a lludw, a phan wedi ei amgylchu â holl fawredd ei swydd ; yn ei ofid, ac yn ,ei lwyddiant; pan yn wylo |jn chwerw yn nghanol y ddinas, a phau yn eistedd yn nesaf at y brenin.—" Yn ceisio daioni i'w bobl, ac yn dywedyd am heddwch %'w hitiogaeth." 17 Sylwn ychydig ar Wladgarwcb, neu gariad at ein gwlad a'n cenedl. Mae Gwladgarwch, 1. Yn seiliedig ar reddf naturiol. Mae y Creawdwr wedi cynnysgaethu pob creadur, fel yr ymhoffa, md yn unig ei rywogaeth ei hun, eithr hefyd y dosparth hyny o'i rywogaeth â pha rai yn fwyaf union- gyrchol y cymdeithasa. Dyma y cyíì'- road hwuw a bair i'r iâr gasglu ei chywion dan ei hadenydd, eu ham- ddiffyn gyda gwroldeb, ac a ffrwyna ei chrwydriadau hyd oni allont ddarparu drostynt eu hunain ;—bair i'r eryr gyf- odi ei nyth, a chastellu dros ei gyw- ioti, lledu ei esgyll, a'u cymmeryd ar ei adenydd;—bair i'r ychain a'r de- faid hoffi eu cynnefin eu hunain yn fwy nà maesydd estronawl. Mae j reddf hou yn gweithredu gyda mwy o rym mewn dyn o blaid ei wlad. Hon achosa i'r Laplandiad hoffi iâ oesawl ei breswylfa auafawl, i faesydd India a brasder Asia. Hon lywodraethai yr hen Gymry pan y gyrasant fyddinoedd Iwl Caisar i gilio, y gwrthsafasant eu gormeswyr Sacsonaidd gannoedd o flynyddau, cadw eu biaith hyd yn bre- sennol, ac i ddywedyd ar fynyddau creigiog Gwalia,— " Beth i ni yw maesydd helaeth Maes o wlad ein genedigaeth ?" Mae Gwladgarwch, 2. Yn eywyddor foesol. Mae dyn yn cael ei lywod- raethu gan egwyddor uwch nàgredaf