Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

§£R£IV CÍOIEB. Rhif. 259.] EBRILL. [Cyf. XX. Y G A U A F. EIN dyledswydd yw myfyrio ar weithredoedd Duw er ein hadd- ysg a'n lles, ac nid oes un rhan o'i wailh yn deilyngach o'n sylw nàthym- morau y flwyddyn, a chymmerai yr Arglwydd Iesu hwynt yn destunau ei bregethau ; yn.y Gwanwyn llefarodd ddammeg yr hauwr, yn y cynauaf arweiniai eu meddyliau at ddiwedd y byd. Priodol i ninnau wneuthur rhai nodiadau ar dymmor y Gauaf, yr hwn a luniwyd gan Groawdydd nef a daear, ac sydd yn mynegi ei " ogoniant ef." Y Gauaf yw y tymmor y mae y dydd fyraf, y nos hwyaf, a'r hîn yn y cyff- redin oeraf. Cyfnewidia y golygfeydd amgylchynawl, marweidd-dra wedi gordôi naturiaeth, y coedydd wedi colli eu cangenau deiliog, y llwyni wedi eu llwmhau, a'r meusydd wedi eu hanurddo o'u prydferthwch. Os awn ì'r gerddi, ni amgylchir ein rhod- 'feydd â'r difyrwch gynt, ni wênir ar- nom gan y lili a'r rhosyn, ac ni ad- lonir ni ag arogledd dymunol y blo- dau ; ni chân yr ednod, ni chwareua y gwartheg ar y gweir-gloddiau, ac ni lama y defaid ar y bryniau. Y gog- leddwynt a chwytha yr eira fel gwlân, a'r deheuwyut a gluda y tymhestloedd ar ei adenydd, a dyn yn rhedeg i'w dŷ am ddiddosfa. Ètto, mae i'r Gauaf ei addurniadau. Onid oes mawrhydi yn rhuadau y gwynt, a pbrydferthwch yn y bryniaugorchuddiedig gan eira? Mor hardd gweled pelydr yr haul yn peri i'r tarth oer gilio dros ochr y mynydd draw. Mor ddifyrus gweled y Hynau a'r afonydd wedi eu cloi â rhew, a'r plant yn chwareu ar hyd- ddynt fel pe buasent graig gallestr. Yr aderyn bach a lawenychai y glust â[i beroriaeth felys, ac ymborthai heb ein cenad ni, yn dyfod at y drws i ddysgwyl y briwsionyu a syrth oddiar ein bwrdd, fel ad-daliad genym ; ond, och! greuíondeb y bachgen direidus yn ei ladd efallai. Y gwartheg a'r 13 defaid yn dysgwyl wrth yr hwsmon am eu tamaid ymborth; a'r teulu oll yn amgylchu y tân,—y tad fel tywys- og, a'r fam fel arglwyddes, a'r plant fel eu deiliaid ffyddlon yn ymddyd<Jan a darllen. O, mor ddifyrus! nid yw ond megys döe genyf gofio oriau di- ofal fy ieuenctyd. Etto, mae y Gauaf yn anghenrheidiol, canys'ni luniodd yr Arglwydd ddim yn ofer; cynnorth- wya naturiaeth yn ei gorchwylion gwasanaethgar;—y rhew a'r eira a iachânt yr awyr, purant y gwaed, lladdant y pryfaid a fwytânt nodd y llysiau,—cadarnheir y cyfansoddiad, a'r gwynt a chwyth ymaitb y clefydon. Yr eira sydd wisg i'r gwenitb, ceidw yr egin rhag y rhew, ac a faetha en tyfiad ; pan y tawdd ei wlybaniaeth gwrteithiawl, â at wraidd y llysiau, a " dyfrha y ddaear, nes peri iddi darddu a thyfu." Fel y mae cwsg i diiyn yn adnewyddiad nerth, felly wedi i natur lafurio er lles dyn, mae yn cae! ei sio i gysgu gan y gwynt- oedd croch dros y Gauaf oer ; yna deffry yn Ebrill a Mai gyda nerth ad- newyddol er diwallu dyn ac anifail. Mae y Gauafyn pregethu i nifawr- hydi a gogoniant y Creawdwr, fel ag y dywed y bardd Daniel Ddû :— Y gauaf Uwydwyn sy'n marweiddio'r tir, Wyt ti, 'r un modd i'th weled, Geli mawr, Yn oll o'th waith yn berffaith ac vn bur, Yn llywio'r cyfantrwy ddoethineh gwych, Mewn nerth yn gadaín—o dosturi'n llawn. Efe a luniodd y Gauaf, a orchfyga eifenau natur, a rwyma dònau cyn- ddeiriog môr y gogledd â chadwyn o rew, ac a selia wres haul y nefoedd ag oerni yr ià. Mae yn marchogaeth ar y stormydd, ag awenau yr elfeu- au yn ei law; gall ofyn i'r penaf o feibion dynion, " A aethost ti i dry- sorau yr eira? neu a welaistti drysor- au y cenllysg? y rhai a gedwais i hyd amser cyfyngder, byd ddydd ymladd a rhyfel. O groth pwy y