Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREH" ŴOIER. Rhif. 258.] MAWRTH. [Cyf. XX. OWAIN GLYNDWE. YMAE gan bob gwlad ei hym- ffrost, megys yr Alban, yr hon a ymffrostia yu fawr yn enwogrwyd&a thraddodiadau Gwilym Wallace, fel amddiffynwr annibynoldeb ei wlad; neu megys Switzerland, yr hon a ym- ffrostia yn hynod yn Ngwilym Tèl, am yr un cymmeriad; ond Cymru, yn fwyaf neillduol, a rodda ei hymffrost i Owain Fychan, neu Vaughan, neu yn fwy mynych Owain Glyndwr, neu Glyndyfrdwy, yr hwn enw a gafodd oddiwrth ei diroedd, Glyndyfrdwy; pa diroedd hefyd a gawsant eu henw oddiwrth yr afon Dyfrdwy, Dwrdwy, neu Dyfrdu, yr hon a lifeiria drwy swydd Feirionydd. Owain Glyndwr, sef y gwladgarwrenwog hwn, a anwyd yr 28ain o Fai, yn y flwyddyn 1349,* yr hwn yn olynol oeddo linach tywys- ogion Cymru,f ac yn arglwydd o berchen meddiannau lawer. Ar yr amser o'i ymddangosiad i'r byd, yr oedd Gwalia yn ocheneidio dan ìau a llywodraeth y Sao.soniaid, neu fel y gelwir yn awr y Saeson, pa rai oedd- ynt wedi cael eu gorchfygu er y ganrif o'r blaen. Genedigaeth ein gwron rhyfeddol a gymmerodd le gyda llawer o ddygwyddiadau anghyffredin, pa rai oeddynt yn ymddangos fod rhyw ddyn yn cael èi eni â chanddo fwy o hawl yn y llywodraeth nâ phob un. Holin- shed, yr hanesydd Seisnig, a ddywed fod holl geffylau ei dad, pa rai oedd yn y marchdŷ, yn waed hyd eu tòrau y noswaith y ganwyd ef.% Derbyn- * Let us marlc hcre that the day and year of Glyndwr's birth is uncertain. One manu- script, savs Pennant, fixes it on the 28th of May, 1354. Another preseryed by Lewis Owen, places the event five years earlier.. t Owain Glyndwr ydoedd y diweddaf o hiliogaeth Tywysogion Cymru. % Holinshed relates that his father's horses were found on the night of his birth standing in the stables up to their bellies in blood. iodd ei ddysgeidiaeth yn Llundain.ac a dderbyniwyd yn fyfyriwr i un o'r llysoedd barn, gan feddwl ei ddwyn i fynyyn gynghorydd o'rgyfraith. Ond ennynodd ei gariad at ryfel gymmaint fel y tòrodd allan yn glau o'r sefyllfa hon er rhoddi ei rwysg i'w elfen ei hun, ac i ymladd o blaid ei wlad a'i deyrnas. Ar doriad allan rhyfeloedd Richard II., efe a gymmerodd i fyny arfau ar ran y brenin anffodiog hwnw, yr hwn a'i urddodd i'w wasanaeth, ac a'i neillduodd yn ysgweier ar ei holl lu. Ar ol diswyddiad a marwolaeth Richard, at yr hwn oedd ei serch wedi tyfu cymmaint, efe a ymsymudodd i'w etifeddiaeth ei hun, yn Nghymru, mewn ysbryd digllawn ac eiddigeddus (fel y gellir rneddwl) at y buddugol- iaethus Bolingbroke, yr hwn yr amser hwnw oedd wedi dyfod yr Harri IV.; ac yma efe a briododd â Margaret Hanmer, sef un o hiliogaeth hen a dy- lanwadol deulu Cymreig, o'r hon y cafodd lawer o blant. Bu Glyndwr am amryw o fìynyddau yn heddychus iawn yn ei gastell, sef Glyndwrdwy, yr hwn oedd wedi cael ei adeiladu yn gadarn ar dwyn ; ond yn awr nid oes llawer o'i olion, o herwydd fod y twm- path i gyd yn guddiedig gan goed, ac yn harddwch mawr, yn sefyll goruwch y Dyfrdwy. Cyfranai lawer ac amryw o fendithion i'w ddeiliaid, pa rai a gyfanneddent yn ei ymyl; ac, yn ddi- au, nid â dybenion rhagorach nâ chynnorthwyo y trigianwyr â bodd- lonrwydd ac hapusrwydd i fyw. Yr oedd ei sefyllfa yn mhob ffordd yn deilwng o'i radd, a'i gyfoeth a Shakespeare also introduces Glyndwr, thus speakiug òf himself:— -----------. " At my birlh The frowns of heavcn was full of liery sliapes ; The goats ran froin the moóntaîns, aud the herds Were suaogely clamorous in the frightecl field: These signs have raaiked me exiraordinary, And all the courses of my life to shew • I am not in the roll of oomnion men."