Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEMEH[ OOIM. Rhif. 257.] CHWEFROR. [Cyf. XX. Y GREADIGAETH. GWAITH V WI>1* CBNTAF. AMRYFATH a gorwyllt oeddynt y tybiau a goleddent y doethion paganaidd o barthed i darddiad a ffurfiad y bydyssawd. Yr Athronwyr Groegaidd, oddiar y gosodiad, Oddim, dim, a honent dragywyddolrwydd ac hunanfodiad defnydd; anghydsafiad yr arwiredd (maxim) hon yn ei chys- sylltiad ag y defnydd cyntefig, a ddad- lcnid gan yr arwireddau a ganlyn, y rhai ydynt gynnyrch athronyddiaeth burach a mwy goleuedig, " Fod def- nydd yn effaith,—fod rhaid i effaith wrth achos,—fod rhaid i achos, o ang- henrheidrwydd, flaenori effaith ; o gan- lyniad fod y bydyssawd defnyddiedig yn gynnyrch Bod annefnyddiol, hun- anfodol, a thragywyddol." Bodoli peth o ddim sydd weithred uwch ara- gyffrediad y meddwl dynol, ac uwch gallu pawb ond Bod Hollalluog. Y ffaith sydd hunan-brofiedydd, y dull sydd anolrheinadwy. Cyfeiriwn ein hymchwil at sefyllfa gyntefig y bellen fydawl, ac ánsawdd gyramysgedig ei helfenau, pan ei dygid o groth diddim. Er sylfaen, dyfynwn ddesgrifiad yr hanesydd ysbrydoledig:—-" A'r ddaear oedd afluniaidd a gwag, a thywyllwch oedd ar wyneb y dyfnder."—Gen. 1. Llyma y cawn ansawdd y byd yn ei gyflwr creadigawl, a'i gynddefnydd a eíwid, Y ddaear. Y gair gwreiddiol Erets fc ddynoda galedrwydd cydlyn- iad, (cohesion,) ac a ddefnyddid, ran amlaf, er dynodi y defnydd sychlyd, mewn gwrthgyferbyniad idd yr elfen ddyfrawg; ond yma a saif am ddef- nydd ein byd, y gwlybawl ac y sych- awl. Saif am sylwedd hanfodawl y bellen ddaearawl, y.tryblith (chaos) noeth mal y ganed o groth dihanfod- iaeth. Ei ansawdd genedlig a ddy- wedid fod yn " Tohu a Bohu" hyny yw, ydoedd bentwr amrywiog, mewn cyflwr o gymmysgedd ac annhrefn ; y gronynau daearawl a gwlybawl yn an- nosparthedig, ac fel i aralleirio y Tar- gum, " Y greadigaeth ydoedd gadd- ugawl ac unigawl, yn afluniaidd a diaddurn, yu auiddifad o greadur by w.'* Mai y fath gymmysgedd anel- wig oedd y byd yn ei gyflwr gwreidd- iol, â gyd-dystiant ysgrifenwyr pagan- aidd, yn athronwyr ac ynbrydyddion. Hesiod a wnai annhrefn yn ansawdd enedigawl y byd; a Homer a wnai y ddaear yn gynuyrch tryblith, a chanol nos. Deillient y Chiniaid eu Yng a'a Ang o bentwr cythruddedig. Llyma fel y canai Ovid:— " Y ddae'r a'r môr, a holl elfenau'r byd, Oe'nt aflun dryblith, hell gymmysgfa flwng, Gwyllt bentwr didrefn, cruglwyth diwahan O heid dyfodiaid." " A thywyllwch oedd ar wyneb y dyfr- oedd." Tywyllwch nid yn grëedig, am nad yw beth, ond diflyg o beth, sef goleuni. Haim a ddynoda bentwr ter- fysglyd o ddwfr, yr hwn, yn ol synwyr y testun, a ymddengys fod yn arwy- nebol; y daear-ronynau yn drymach, yn ol deddf pwysyddiaeth, a ymlithr- ent idd y canolbarth ; y dwfr-ronynau, yn ol yr un ddeddf, a ymnofient. " No Titan yet the world withlight adornà, Nor waxing Phebe fiil'd her waned horns." " Ac Ysbryd yr Arglwydd yn ymsy- mud ar wyneb y dyfroedd," neu yn hytrach, a osododd wyneb y dyfroedd mewn ysgogiad.* Pa un sydd i'w * Merachephet, from Rachaph commoveri part. Praes. FiheL verba quae jn Kal sunt neutra in Pihel activa sunt. Buxtorf. Thes. Merachephet, felly, a arwydda, Gosod peth mewn ysgogiad. ' * ■, ?|