Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

S E »E HT ŴOIËB. Rhif. 256.] IONAWR. [Cyf. XX. COFIANT EDWARD RICHARD, YSTRADMEUaiG. GWRTHDDRYCH y nodiadau canlynol ydoedd brydydd ar- dderchog, yn feirniad Cymreig cywir, yn hanesydd rhagorol, ac yn dra ad- nabyddus ag awduron Groega Lladin. Ganed ef yn mhentref Ystradmeurig, yn swydd Geredigion, yn Mawrth, 1714 ; a'i dad ydoedd deiliwr, a thaf- arnwr bychan. Derbyniodd ei ddysg- eidiaeth boreuol mewn ysgol a gedwid yn y pentref gan ei frawd Abraham, dan ofal yr hwn y gosododd sylfaen ei wybodaeth helaeth yn yr ieithoedd a enwyd yn flaenorol. Tynged anffbdus ei frawd a gafodd argraíF difrifol a llesol ar feddyliau gwrthddrych y Cof- iant hwn. Treuliasai lawer o íbreu- ddydd ei fywyd mewn ymarferiadau gwledig, megys codymu, taflu maen a throsol, &c.—ymarferiadau ag oedd- ynt mewn bri mawr yn y wlad yr am- ser hwnw, ac yr ydoeddyntau yn ben- campwr ynddynt. Teimlai yn awr nad oedd wedi prynu yr amser, na derbyn cymniaint o les a ddylasai oddiwrth hyfforddiadaubrawd ag oedd yn awr. yn mhriddellau y dyffryn ; a'r ergyd trwm a gafodd ei deimladau trwy farwolaeth ei athraw, ynghyd â chyhuddiadau ei gydwybod am ei es- geulusdod blaenorol, a'i cynhyrfasant i ymdrechiadau adnewyddol. Glynai yn ddyfal wrth ei lyfrau, ond teimlai ddiffyg y cynnorthwy ag oedd wedi esgeuluso yn ei ieuenctyd ; gan hyny gorfu iddo chwilio allan am athrawon ereill. Daeth yn gyntaf i ysgol rama- degol Caerfyrddin, yr hon oedd yn dra blodeuog yr amser hwnw, dan ofal galluog y Parch. Mr. Madox; wedi hyny gosododd ei hun dan ofal y Parch. Mr. Pugh, o Lanarth, yn ei swydd enedigol, yr hwn oedd yn hynod o uchel ei gymmeradwyaeth am ei ddysgeidiaeth, ac yn neillduol ei wy- bodaeth oruchel yn yr iaith Roeg. Ar ei ddychweliad adref, gan ei fod yn ddyn ieuanc hardd-deg, yn dra synwyrgraff, ac yn llawn bywiogrwydd corfforol, yn gystal à'i fod yn dechreu coleddu yr Awen Gymreig, efe a gaf- odd dderbyniad groesawgar yn nheu- luoedd Ffosybleiddiaid, Hendrefelen, a'r Fynachlog, y rhai o 11 a roddent iddo y cefnogaeth mwyaf bob amser. Oddeutu y flwyddyn 1734, efe a agor- odd ysgol yn Ÿstradmeurig, yr hon a gyrhaeddodd gryn lawer o enwog- rwydd yn mhen ychydig amser. Ei ysgolheigion oeddynt yn lliosog, ac amryw.o honynt a ddangosent ar- wyddion o ddawn neillduol; ond tra yr oedd yn nghanol ei waith ogyfranu addysg i'r meddwl ieuanc, efe yn ddi- symmwth a dorodd yr ysgol i fyny, gan hysbysu fod yn rhaid iddo ddysgu ei hun cyn cynnyg dysgu ychwaneg i'w ysgolheigion. Parhaodd dros ddwy flynedd mewn myfyrdod dwys a diwyd, hyd oni chyrhaeddodd wybodaeth llaw- er mwy perffaith yn y Roeg a'r Ladin. Y lle yn mha un y dilynai ei fyfyr- dodau oedd yr eglwys. Yno y ceffid efam bedwar o'r gloch, haf a gauaf, heb nn cydymmaith ond y diweddar Barch. E. Evans, (leuan Brydydd Hir,) y Bardd ac Hynafiaethydd, yT hwn a fuasai yn ysgolhaig i Mr. Rich- ard, ac a arosodd gydag ef hyd onid aeth i Rydychain. Wedi i Mr. R. or- phen dysgu ei hun, efe a adagorodd ei ysgol, o gylch y flwyddyn 1746, a'r ysgolheigion a heidient ato o bob parth o'r Dywysogaeth. Deallai gyfansodd- iadau y Beirdd Groegaidd a Lladin- aidd,mwynhai eu cynnwysiad, a chaffai yr hyfrydwch mwyaf wrth ddangos ei teleidrwydd a'u teilyngdod i'w ysgòl-