Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREHT &OMER. Rhif. 251.] AWST. [Cyf. XIX. ARAETH GENADOL, Y JParöh. W. Campbell, Cenadwr o Bang-alore, yn yr India Ddwyreiniol, YN NGHYFARFOD BLYNYDDOL Y GYMDEITHAS. YN ein Rhifyn diweddaf, cry- bwyllasom am ragoroldeb Araeth y Parch. W. Campbell,<ac addawsom ei rhoddi gerbron ein darlleriyddion ; yr ydym yn bresennol yn cyflawni yr addewid bono, gan obeithio y bydd iddi gynhyrfu'^ .ysbryd cenadol yn mhlith ein cydwladwyr yn gyfFredinol. Wrth gynnyg y penderfyniad a gym- bellai China, a thiriogaethau Prydain yn India, ar sylw neillduol y Gym- deithas, y boneddig Parchedig a le- farai fel hyn :— " Yr wyf yn cael fy Hethu i'r llawr gah bwysfawrogrwydd y gwaith o sef- yll i fyny, ar yr achlysur hwn, fel Cristion ac fel Cenadwr, i amddifFyn hawl India eilun-addolgar i sylw y Gymdeithas. Hir y buwyd yn cam- ddarlunio y parth hwn o'r byd wrth Prydain ac wrth yr Eglwys. A oedd yn rhyw elw i'r ymwelwyr ag India i'w darlunio fel y gwnai ýr ysbiwyr yr hen Gana^an gynt? Nac oedd. Fel gwlad dda a ffrwythlawn, yn Uifeirio o laeth a mêl ? Nac oedd. Fel gwlad yr hon y mae ei phobl yn gryfion a rhyfelgar, ei dinasoedd wedi ei ham- gaeru ac yn anorchfygadwy, a'i chewri yn arswydus yr olwg arnynt fel yr ben Anaciaid gynt ? Nac oedd ; ond dygasant i ni air da am dani, i'n twyllo ni, ac i wanychu ein calonau aV dwylaw. "Y tir hwnw," ebe hwy, " sydd, mae yn wir, yn wastad- edd wedi ei losgi i fyny, yn boeth ac annhrigiannol; gwlad y geri mar- wol, yr haint, a'r plâ yw y wlad hon ; gwìad lle y mae afiechyd a marwol- aeth yn llywodraethu yn ddiwrthwy- nehiad ; a gwlad ag sydd yn feddrod ac ýn faes y gwaed i Ewropiaid. Ond, 29 er hyny, gwlad dda ydyw; nid oes dim anghen am Genadon yno. Yr Hindwaid, fel cenedl, ydynt yn foesol, yn addfwyn, a diwyd ; y maent yn llariaidd, yn ostyngedig, ac yn amyn- eddgar, a hwynt-hwy ydynt y bobl fwyaf grefyddol ar wyneb yr holl ddaear ; eu trefniant crefyddol sydd wedi ei addasu i'r wlad, fel y mae y wlad iddo yntau; a chan fod y trigol- ion yn ddedwydd yn eu cyflwr presen- nol, byddai yn ddrygionus ac yn greu^ lawn i'w haflonyddu." Ond diolch i'r enwogion, y rhai, fel Caleb a Josua gynt, a ganfyddasant trwy y twyll, a dynasant y lîèn ymaith, ac a'i darlun- iasant i ni yn ei chyflwr gwirioneddol. I'ë, er fod India yn anwyl yn fy medd- wl trwy filoedd o'r adgofion hyfrytaf, rhaid i mi lefaru y gwirionedd,— rhaid i mi ei dárlunio yn gymhwys fel y mâe. Yr wyf yn ei charu fel Canaan ddaearol, i ba un y mae Duw wedi cyfranu ei fendithron a'i olud mewn modd rhyfeddol iawn; yr wyf yn ei charu fel cylch y celfyddydau a'r gwybodaëthau, y rhai a adlew- yrchasant eu pelydr ysplenydd yn ol unwaith ar y byd gorlíewinol; yr wyf yn ei charu fel cemmaes arfáu fy ngwlad, lle y gorfu ar orthrymder a thrais ffoi rhag banierau cyfiawnder a gwirionedd ; yr wyf yn ei charu fel gwlad genedigaeth fy mhlant, fel gwlad fy llafurwaith boreuol, lle y rhoddwyd bywyd newydd i feirwon, acy cyfodwyd llawer i adnewyddiad buchedd ; ond yr wyf etto yn ei charu yn fwy fel y bwrdd ar ba un ylhae gogoniant Immanuel i gael ei egluro y n odidocach fyth, a lle y mae y pri- odoliaethau dwyfol i gael eu gogon-