Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

IERE1V OOIEB, Rhif. 250.] GORPHENAF. [Cyf. XIX. RHAGOROLDEB YR OMRRAEG AR Y SAESONAEG. ARAETH A DRADDODWYD GER GWYDD CYMREIGYDDION LLANGYNYDR, NOS LUN, TACHWEDD 30, 1835. [Parhacl o'r Rhífyn diweddaý, tudal. 163.] 5. Ei rhagoroldeb mewn geirdardd- ìad. Gwyddoch, gymdeithion, mai tri niath ar eiriau y sydd, sef,—Gwreidd- iawl eiriau, eyfansawdd eiriau, a thar- ddawl eiriau. Nid yw achwys hanedig geiriau yr ieithoedd gwreiddiawl (oddi- gerth ambell air ynddynt) mor amlwg â geiriau yr ieithoedd ereill, pa rai y sydd gwedi hanu oddiwrthynt, megys y Saesonaeg ac y cyhafal; o herwydd ffurfiwyd yr ieithoedd gwreiddiawl gan ein Rhi, megys o ddim ; un o ba rai ydyw yr Omeraeg; ac o ganlyniad y mae llawer oc ei geiriau gwreiddiawl yn rhy anfeidrawl i ni amgyffred eu hethryb ac eu dyben gosodedig, rhagor no bod eiu Hior glwys gwedi ein han- rhegu â hwynt, idd y perwyl o fod fal cyfrwng i ni osawd ein meddyliau ac ein tybiau yn ddealladwy idd ein gil- ydd, er gwneutbur delnydd odd y cyn- neddfau ac yr amgyffrediadau a roddes efe î ni; ond y mae achwys ífurfiawl, ynghyd â thadogiad ei chyfansawdd ac ei tharddawl eiriau, yn eglur ddigon. Y maent yn sefyll yn unionsyth ar ei geiriau gwreiddiawl, a geiriau gwreidd- iawl ydynt oll bob sillt, ond eu bod yn gweinyddu iddeu gilydd, er dynodi a gwahaniaethu ansawdd pethau oddi- wrth eu sylwetìd, &c.; ac niddim sydd yn nhadogiad un o honynt mwy nog y llall y sydd yn achosi eu aalw yn gyf- ansawdd eiriau, tarddawl eiriau, &c. ond yn hytrach y swydd neu y gwein- yddiad a gyflawnynt. Nid wyf, ysy^ waeth, yn meddu yn bresennol ar fad- wys i sylwi ar wreiddiau cyssefin eili hiaith glodwiw mor ehelaeth ag y dy- munwyf, oi'id hònaf fod pob sillt oc y 25 hi, ped arferid hi yn ei dyburedd cys- sefin a chynnwynawl, yn hanfodi er pan y rhoddwyd hi y rhawg idd ein hynafon, fal nad oes ynddi sillt no gair gwedi tarddu o un rhyw iaith arall. Ond nid yw y Saesonaeg felly, o her- wydd y mae yr holl eiriau a gynnwys hi gwedi tarddu o ryw estroniaith neu gilydd, ac y rhan amlaf oc hwynt odd yr Omeraeg. Er enghraifft, enwaf rai oc hwynt, pa rai sydd mor hyall can- fod eu tarddiad ag y ffrwd fwyaf red- egawg ag a fu erioed, megys,—Time, tarddiad o tymp; tiles, o tyglys; trouble, o trybwl; throne, o trôn, sef mainc ; people, o pobl; proof, o prawf; nature, o natur; seat, o sedd; bull, o bual, sef ych gwyllt, neu o pahul yr Arabaeg; suck, o swch, neu o zoh y Gerniwaeg; treasure, o trysor, neu o otzar yr Hebraeg, neu thesauros y Groeg, neu fe ddichon o tasuar y Gal- deaeg. Gellir enwi rhyw lu afrifed o hafal y rhai uchod, pe byddai o ryw ddeunydd ; ond ni byddai, o herwydd y mae yn hywel fod pob gair a gyn- nwys y Saesonaeg gwedi tarddu o ryw estroniaith. Jbfelly, dychymmygwn fod pob iaith yu galw am eu geiriau yn ol, pa rai sydd yn fenthycawl a lled- radaidd gan y Saeson, gan eu gwa- hardd iddeu hymadroddi, pa beth a fyddai gan y Saeson i osawd eu medd- yliau allan ? Y mae yn ddir genyf y byddent heb un fath o iaith, er cym- . maint yw eu hymffrost yn bresennol o barth idd eu tafodiaith glytiawg anel- wig. Er idd y Saesoniaid gael pigo geiriau oddiyma a thraw, a chael y fath amlder o ieithoedd at eu gwasanaeth,