Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

§EB£H GOMER. Rhif. 248.] MAI. [Cyf. XIX. HANES DEWI SANT. ARAETH A DRADDODWYD GAN ANEURIN OWEN, YSWAIN, MEWN CYFARFOD YN NINBYCH, MAWRTH 1, 1836. FONEDDIGION, GAN i mi gael fy ngwahodd gen- ych i eistedd yn y gadair hon, iiybiais yn addas i gynnull y cyfryw grybwyllion hanesyddol a berthynant i'r wýl hon, ag a ganiatài amser ac fy nghyfleusderau innau i chwilio. Yr hanesion o ba rai yr wyf wedi talfyru Haues Dewi, a gyfansoddwyd rhwng ei amser ef a'r araser presennoi; a'r awdurdod cyntaf a ddyfynaf er egluro ei hanes, ydyw eiddo Giraldus, arch- ddiacon Aberhonddu, ymgeisydd am yr anrhydedd o lauw cadair Dewi Sant, a mawr ei sel a'i awyddfryd i leaâu yr esgobaeth. Yn ei " Daith trwy Gymru," gyda'r Archesgob Bald- win, i bregethu rhyfeloedd y groes, yn y flwyddyn 1188, efe a ddyweda mewn perthynas i Mynyw,—" Hys- bysir ni gan yr haneswyr Prydeiu- iaidd, fod Dyfrig, Archesgob Caer- lleon, yn teimlo gwendidau henaint yn ei orddiwes, neu yn hytrach yn dymuno treulio y gweddill o'i ddydd- iau mewn duwiol fyfyrdodau, ac iddo roddi i fyny ei swydd archesgobaethol i Dewi, yr hwn y dywedir oedd yn ewythr i'r Brenin Arthur; a thrwy ei awdurdod efsymudwyd ygadairarch- esgobaethol o Gaerlleon i Mynyw, er fod y blaenaf yn Uawer mwy addas a chyfleus, fel y sylwasom yn eiu llyfr cyntaf; canys y mae Mynyw yn sefyll ar gongl bellenig o Gymru, ar y môr Werydd, y tir yn gerygog ac an- fl'rwythlawn, heb goed i'w gysgodi, nac afonydd i'w ddyfrhau, na maes- yddi'wharddu,—yn agored i'rgwynt- oedd a'r tymhestloedd, ac yn ddar- ostyugedig i ruthriadau yspeilgar y Flemingiaid ar un tu, a'r Cymru ar y tu arall. Y dynion santaidd a ym- 17 sefydlasant yn y lìe hwn, a ddewisas- ant y gyfryw drigfa unigol, fel y gallent ochelyd twrf y byd; a thrwy arwain bywyd meudwyawi yn hytrach nag un gweinidogaethawl, y gaüentyn fwy hawdd ddiogelu iddynt eu hunain " y rhan dda, yr hon nis dygir ym- aith ;" canys yr oedd Dewi yn node- dig am ei santeiddrwydd a'i grefydd- oldeb, fel y tystia hanes ci fywyd. Yn mhlith y nifer mawr a wyrthiau a adroddir am dano, ymddengys i mi fod tair o honynt yn dra theilwng a sylw : —Ei ddechreuad a'i genedliad; ei rag-etholiad ddeng mlynedd ar hugain cyn ei eni ; a'r hyn sydd yn rhagori ar y cwbl, cyfodiad disymrawth y ddaear dan ei draed yn Brefi, tra yr oedd yn pregethu, er mawr syndod i'r edrychwyr oll."* Gwynfardd Brych- einiog, o gylch yr un amser ag y bu Giraldus gyda Baldwin yn pregethu rhyfeloedd y groes, a ysgrifenodd gyw- ydd o glod i Ddewi, yn mha un y mae yn adrodd rhai amgylchiadau a adewir allan yn hanes ei fywyd, y rhai y sylwaf arnynt yn bresennol. Dyweda i Ddewi ymweled â Rhufain a Judea, lle cernodiwyd ef gan lanoes sarug. Hysbysa ni fod ei awdurdod arches- gobaethol yn cyrhaedd i'r Iwerddon ; ac un amser ymddengys fod saith es- gob dan awdurdod Mynyw, a bod es- gob Ferns yn yr Iwerddon yn un, fel y profa y llinellau canlynol:— * Rhag i'r darllenydd gael ei gam-arwain mewn perthynas i'rgwyrtniau hyn, rhaid iddo ddeall mai Pabydd oedd Giraldus Cambren- sis ; a gŵyr pawb fod y Pabyddion hyd hedd- yw yn noni fod gwyrthiau yn cael eu cyf- lawni ganddynt hwv, ond nid oes ueb yn si synwyrau yn eu coeíio.—Gol.