Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREItf GOHfiR. Rhip. 246.] MAWRTH. [Cyf. XIX. BYR-GOFIANT DÎWEDDAR BARCH. RICHARD FRICE, D.D. F.R.S. DYWEDIR nad yw y bywyd a dreulir i lesâu dynolryw, yn an- fuddiol i neb, gan nad pa mor fychan a ŵyr ef am dano, na pha ráor bell y byddo yn byw oddiwrth y cyfnod a dreulir felly. Gorchestion gwroniaid a buddugoliaethwyr, ydynt, fe allai, yn Ilai addas i gyffrôi syndod a chan- mofìaeth y byd, nâ gweithredoedd tawel, heddychol, a didryfedig yr athroriydd a'r duwinydd ; ond yn gyff- redin nid oes yn y blaenaf nemawr a duedda i linaru neu foddhau teimladau penafdyn, nac i wrthbwyso y teimladau dolurus a achosir trwy glywed adrodd- iad ý trueni a'r dinystr a ganlynasant eu gorchestion ; tra y mae yr olaf, er yn amddifad o'r ardderchogrwydd a ddalla ac a dwylla y werinos, yn tu- eddu i'n hurddasu a'n cyfodi i ogon- iant,—nid trwy foddhad o'r uchelgais dinystriol o orchfygu ein cydgreadur- iaid, ond trwy ymdrechiadau llawer mwy canmoladwy iorchfygu ein nwyd- au, a buddugoliaethu arnom ein hun- ain. Y Byr-Gofiant canlynol, gan hyny, a roddir i'r darllenydd fel byw- yd dyn yr hwn nad aberthodd un egwyddor ar allorcannoliâeth ddyn- ol neu hunan-elw ; ondyrhwn bob amser a ymdrechai yn heddychol a thawel i brofi yn ei ymddyg- iadau wîrionedd yr egwyddorion cref. yddol a gymhellai mor daer a difrif- ol yn ei ysgrifeniadau. Ríchard Price a anwyd ar y 23ain o Chwefror, 1723, yn Nhý-yn-y-dòn, plwyf Llangèinor, swydd Forganwg ; a'i dad afu,dros lawer oflynyddoedd, yn weimdog i gynnulleidfa o Ymneill- duwyr Protestanaidd yn Mhenbont-ar- Ogwr. Hyd onid oedd yn wyth neu ddeng mlwydd oed, efe á äderbyuiodd ran o'i addysg gartreî^ a rhan arall mewn ysgol gymmydogáéthòl; yua .9 gosodwyd ef mewn ysgol fechan yn Mhenybont, ónd cafodd ei symud yn fuan i un arall, o natur wahanol, yn Nghastellnedd. Wedi aros yn y lle hwn o ddeutn dwy flynedd, efe a an- fonwyd i bentref Pentwyn, yn swydd Gaerfyrddin, lle y gosodwyd ef-*dan ofal y Parch. Samuel Jones, dyn tra theiìwng a gwirioneddol dduwiol, a mynych y canraolai gwrthddrych y Cofiant hwn ei Athraw am ddiragrith- rwydd ac haelionusrwydd ei egwydd- orion crefyddol. Pan oedd yn bym- theg mlwydd oed, ac ẁedi bod yn Mhentwyn ò ddeutu tair blynedd, efe a symudwyd i Athrpfa y Parch. Va- vasor Griffith, yn Nhalgarth, swydd Frycheiniog, lìe yr oedd yn fyfyriwr ar amser marwolaeth ei dad, yn 1739. O'i ieuenctyd boreuaf ei egwyddorion crefyddol oeddynt dra gwahanol i'r eiddo ei dad. Dàliadau un oeddynt ddiragrith, rhydd, ac haelionus; y llali oedd yn gul yn ei farn,yn hunan- gar, ac yn sarug ; 'ie, mor ddallbleid- iol oedd ei dad i'w ddaliadau ei hun, fei pan gafodd ei fab un diwrnod yn darllen Pregethan Dr. Clarke, y taf- lodd y llyfr yn ei gynddeiriogrwydd i'r tftn, a dwrdiodd ei fab.yn dost am ei ddiffyg ffydd a'i gyfeiliornad dinystr- iol. Fel y meddylid fod y Duw yn mha un y credai Mr. Price wedi ffurfio y rhan fwyaf o ddynolryw i ddamned- igaeth dragywyddol, ac achub ond ychydig o'i ddewisolion, heb un ystyr- iaeth ueillduol o'u tymherau na'u hym- ddygiadau ; felly,yn yr unmodd,y dyn da hwu a ddewisodd un o'i blant i fod yn etifedd iddo, ac aadawodd iddoyn agos y cyfan o'i feddiahnau, gan adael y gweddill o'i deulu, sef gweddw a chwech o blant, mewn gofid ac eisieu. Price ieuanc, wrth deithio dros Fryn- iau Brycheiniog i Dalgartb, yn ngauaf